Gall storm o fellt a tharanau ddigwydd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond maen nhw’n fwy cyffredin yn ystod yr haf.
Mae mellt yn gallu cyrraedd y ddaear trwy wrthrychau, pobl ac adeiladau. Dydy gwisgo gemwaith neu addurniadau metel yn gwneud fawr o wahaniaeth. Y prif ffactorau yw gwrthrychau ac adeiladau tal.
Mae storm o law taranau yn gallu achosi fflachlifau hefyd, yn enwedig ar ôl tywydd poeth iawn.