Mae lefelau radon yn isel ym mhob man yn yr awyr agored. Yn y rhan fwyaf o achosion mae lefel radon dan do yn isel ac mae'r risg i iechyd yn fach. Fodd bynnag, mae lefel radon dan do yn dibynnu ar y ddaear oddi tano a sut mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio.
Gallwch weld a ydych mewn ardal sydd wedi'i heffeithio gan radon neu ‘ardal â phroblem’ drwy ddefnyddio map dangosol, sydd wedi’i lunio gan Public Health England ac Arolwg Daearegol Prydain, sydd ar gael yn UKRadon
Po dywyllaf y lliw, y mwyaf yw'r siawns o lefel radon uwch dan do. Os ydych yn byw neu'n gweithio mewn ‘ardal â phroblem’ radon neu'n agos at un, rydym yn eich cynghori i fesur y lefelau dan do.