Mae plwm yn fetel sydd i’w ganfod yn naturiol o’n cwmpas ni. Mae hyn yn golygu ei fod yn y pridd, y creigiau, yr aer ac mewn dŵr i raddau amrywiol, gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw. Yn y gorffennol, roedd yn cael ei ddefnyddio i wneud llawer o bethau, fel petrol, paent, pibellau, a theganau, a thuniau bwyd, potiau coginio a cholur hyd yn oed. Y newyddion da yw bod plwm wedi’i wahardd o bob cynnyrch fel paent a phetrol sawl blwyddyn yn ôl bellach. Ond mae rhai ffynonellau o blwm o hyd yn y llefydd lle rydym yn byw ac yn chwarae, mewn haenau o hen baent neu bibellau dŵr.
Does dim lefel ddiogel o gyswllt â phlwm a gwelwyd bod lefelau isel hyd yn oed o blwm yn effeithio ar IQ a gallu plant ifanc i ganolbwyntio a dysgu. Hefyd gall plwm effeithio ar yr ymennydd a’r system nerfol.