Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Prosiect Partneriaeth: Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) – Peilot Gofal Brys yr Un Diwrnod y GIG (SDEC)

Roedd effaith oedi sylweddol wrth drosglwyddo ambiwlansys, colli oriau ambiwlans (878 awr ym mis Ebrill 2022) ac amseroedd aros hirach i bobl sy’n aros i gael eu gweld yn yr Adran Achosion Brys (ED) wedi ysgogi’r angen am welliant a’r angen i osgoi derbyniadau diangen i adrannau brys. Mae data lleol yn dangos po hiraf y bydd person yn aros yn yr Adran Achosion Brys, y mwyaf tebygol yw hi o gael ei dderbyn a’r hiraf fydd ei arhosiad yn yr ysbyty.

Cydnabuwyd nad oedd unrhyw lwybr derbyn uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i Ofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC), a oedd yn effeithio ar oedi, ac roedd mwy o bryderon a digwyddiadau oherwydd gorlenwi yn yr Adran Achosion Brys, a allai effeithio ar ganlyniadau cleifion, gan gynnwys profiad y claf ac ansawdd gofal.

Penderfynwyd creu llwybr mynediad uniongyrchol ar gyfer WAST i SDEC sy'n hygyrch 09:00 - 19:00 saith diwrnod yr wythnos. Dechreuwyd peilot yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Sir Benfro, a oedd yn cynnwys adnoddau staff SDEC ychwanegol gyda Chydlynydd SDEC, wedi'i staffio gan reolwr nyrsio SDEC a nyrs Band 5 gofrestredig ychwanegol. Darparwyd ardal glinigol estynedig hefyd, gan gynnwys bae troli, i alluogi trosglwyddo cyflym a throsglwyddiadau amserol o barafeddygon WAST i staff SDEC.

Mae'r data a gasglwyd hyd yn hyn wedi dangos mai 8 munud o'i gymharu ag 1 awr 26 munud yn yr Adran Achosion Brys yw'r amser trosglwyddo ar gyfer SDEC ar gyfartaledd. Bu gostyngiad yn yr amser trosglwyddo gan ryddhau 34:48 awr o gapasiti, sy'n cyfateb i tua 3 chriw o sifftiau 11.5 awr, ac mae osgoi cludo WAST wedi arbed 10:03 awr sy'n cyfateb i 1 criw.

Ers lansio'r cynllun peilot ar 9 Mai, bu gostyngiad yng nghyfran y cyflwyniadau annetholiadol newydd yn Ysbyty Llwynhelyg sy'n mynd ymlaen i gael eu derbyn am o leiaf un noson, er gwaethaf cynnydd cyffredinol mewn derbyniadau.


Janice Cole-Williams

janice.cole-williams@wales.nhs.uk