Gall ymyriadau clinigol a fferyllol (PI) a wneir gan weithwyr fferyllol proffesiynol gael effaith sylweddol o ran sicrhau’r gofal gorau posibl i gleifion a diogelwch o ran meddyginiaethau. Mae ymyriadau’n cynnwys rhesymoli presgripsiynau a lleihau/atal gwallau meddyginiaeth drwy sicrhau dewisiadau therapiwtig priodol. Mae cofnodi ymyriadau fferyllol yn cynhyrchu data hanfodol i lywio effaith glinigol, ddyneiddiol ac economaidd timau fferylliaeth, yn ôl model ECHO. Mae hefyd yn caniatáu i ddysgu cael ei rannu â gweithwyr proffesiynol eraill, yn gwella arferion rhagnodi ac yn adeiladu ar gynllunio adnoddau a chapasiti, gan sicrhau cymysgedd priodol o sgiliau staff.
Rhwng mis Hydref 2020 a mis Hydref 2021, cofnododd ysbytai cymuned Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 158 o ymyriadau fferyllol, sy’n cyfateb i gyfradd gofnodi o 0.4 o ymyriadau fesul aelod o staff fferyllol yr wythnos. Nid oedd y ffigurau hyn yn gynrychiolaeth gywir o waith gweithiwr fferyllol proffesiynol.
Trwy ddau gylch Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA) 10 wythnos, ymgymerwyd â phrosiect i ddeall y rheswm dros y nifer isel o ymyriadau a gofnodwyd yn flaenorol a chymhwyswyd dull meddwl systemau ar gyfer rheoli newid mewn gofal iechyd.
Ar ddechrau cylch 1 PDSA y prosiect hwn, amlygwyd bod diffyg cynrychiolaeth ac arwyddocâd yn y cofnod PI. Heblaw am y nifer isel o ymyriadau a gofnodwyd, nid oedd y tîm wedi'i ysgogi i gofnodi'r data hwn, ac nid oedd yn deall pwysigrwydd hynny. Dangosodd y canlyniadau fod dull cofnodi effeithiol, sy'n adlewyrchu dymuniadau ac anghenion y sefydliad, yn allweddol ar gyfer cynyddu nifer y PI a ddogfennir.
Roedd gweithredu pecyn cymorth xPIRT (xPIRT + xPIRT List + xPIRT Dashboard) a theori gymhwysol ar reoli newid mewn gofal iechyd, yn gallu cynyddu nifer y PI a gofnodwyd gan dimau fferylliaeth ysbytai a thrwy hynny wella eu heffaith. Erbyn diwedd y prosiect, cofnodwyd cyfanswm o 254 o ymyriadau, 41.4% yn uwch na'r targed cyffredinol.
Rafael Baptista
rafael.baptista@wales.nhs.uk