Dangosodd arolwg a gynhaliwyd fod 47% o staff fferylliaeth Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn teimlo symptomau gorflino a 46% yn teimlo dan straen yn eu rolau o ddydd i ddydd. Mae gorflino yn arwain at lefelau is o ymgysylltiad staff sy'n arwain at gynhyrchiant is, profiad cleifion is a risg uwch o ddamweiniau yn y gweithle.
Cynhaliwyd gweithdai i ddeall y problemau yr oedd staff yn eu hwynebu ac i staff gynnig unrhyw syniadau fel atebion i'r materion a godwyd. O'r gweithdai hyn, un o'r materion allweddol a nodwyd oedd y bod cais am oddeutu 26 eitem y dydd ar gyfartaledd fel stoc ad-hoc gan Storfeydd Fferylliaeth - a oedd yn dangos methiant llif gwaith y system.
Unwaith y nodwyd Storfeydd fel y maes ar gyfer y prosiect gwella gwasanaeth, cynhaliwyd dadansoddiad rhanddeiliaid i amlygu'r aelodau staff a fyddai'n ymwneud â'r gwelliant hwn i'r gwasanaeth. Roedd yr aelodau staff priodol a nodwyd yn cynnwys y Swyddogion Technegol Cynorthwyol, technegwyr fferyllol band 4 a oedd newydd gymhwyso, technegydd fferyllfa caffael a storfeydd, uwch dechnegydd fferyllol a fferyllwyr. Cynhaliwyd trafodaeth gyda'r aelodau hyn i ddeall pa atebion allai helpu i leihau nifer y ceisiadau stoc ad-hoc.
Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA), gwnaed gwelliannau llif gwaith o fewn Storfeydd Fferylliaeth, a darparwyd hyfforddiant priodol, i leihau nifer y ceisiadau am eitemau stoc ad-hoc. Mae hyn wedi arwain at welliant mewn effeithlonrwydd wrth reoli stoc ar wardiau ysbyty, gan leihau nifer y dosau o feddyginiaeth cleifion a gollwyd. Yn ei dro, mae hyn wedi helpu i wella boddhad a lles staff, a’r gwasanaeth a ddarperir gan Storfeydd Fferylliaeth i’r wardiau.
Nawr bod y newidiadau o fewn yr adran fferylliaeth wedi'u cwblhau, y cam nesaf yw rheoli newidiadau allanol, gan weithio i gefnogi'r wardiau hynny a anfonodd y nifer fwyaf o ffurflenni cais am stoc ac a ofynnodd am y rhan fwyaf o eitemau ar gyfer stoc ad-hoc.
Catrin Evans
catrin.evans90db3@wales.nhs.uk