Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Cyfres newydd o adnoddau addysg ar gyfer pobl â chlefyd yr arennau

Yn aml mae gan bobl â chlefyd yr arennau lawer o broblemau iechyd, yn cymryd cyfuniad cymhleth o feddyginiaethau ac mae angen llawer o driniaethau gwahanol arnynt. Mae BIP Bae Abertawe wedi datblygu cyfres newydd o adnoddau addysg dwyieithog ar gyfer pobl â chlefyd yr arennau, gan gynnwys animeiddiadau, fideos, teithiau rhithwir, ap realiti estynedig (AR) a thaflenni cleifion.

Datblygwyd yr adnoddau addysg gyda'r nod o rymuso pobl â chlefyd yr arennau a gwella llythrennedd iechyd ar draws gwahanol feysydd o glefyd yr arennau, gan gynnwys meddyginiaeth, dialysis a chymhlethdodau Clefyd Cronig yn yr Arennau (CKD). Sefydlwyd tîm darparu craidd, yn cynnwys gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yr arennau a datblygwyr amlgyfrwng yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Ymunodd datblygwyr amlgyfrwng dawnus â'r tîm arennol a chawsant eu cefnogi gan yr adran Darlunio Meddygol. Cyfieithwyd y cynnwys i’r Gymraeg gan adran Gyfieithu BIP Bae Abertawe.

Roedd defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn rhan annatod o ddatblygiad yr adnoddau, y tu ôl i'r llenni ac o flaen y camera. Mae cyfranwyr wedi cynnwys pobl â chlefyd cronig yn yr arennau, cleifion dialysis, derbynwyr trawsblaniadau aren, aelodau o'r teulu ac oedolion ifanc â chlefyd yr arennau ledled Cymru. Bu cleifion ac aelodau teulu hefyd yn garedig iawn yn cynnig eu hamser i adrodd eu straeon ar gamera a ffilmio eu cartrefi ar gyfer teithiau rhithwir 360°.

Mae'r adnoddau a ddatblygwyd yn cynnwys fideos 'Cwrdd â'r arbenigwr'; sawl animeiddiad, gan gynnwys “Eich arennau a'u gwaith” a “Beth yw dialysis?”; taflenni Cymraeg a Saesneg i gleifion sy'n cyfateb i'r cynnwys digidol; “Haemodialysis cartref: Fideos Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (FAQs)"; a llwyfan e-ddysgu dialysis yn y Cartref. Bydd adnoddau gorffenedig ar gael yn fuan ar wefan gyhoeddus GIG Cymru. Rhagwelir y bydd yr adnoddau dysgu hyn yn cefnogi nodau strategol cenedlaethol o adnabod a rheoli clefyd cronig yn yr arennau yn gynnar, ac i 30% o gleifion dialysis gael dialysis gartref.


Owain Brooks

owain.brooks@wales.nhs.uk