Mae'r Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy i Brifysgolion a Cholegau Preswyl yn nodi ymateb Prifysgolion/Colegau Preswyl i achosion unigol neu achosion o glefydau trosglwyddadwy ymhlith ei staff a/neu fyfyrwyr. Bwriad y cynllun yw ategu'r prosesau a'r camau gweithredu cyffredinol y mae'r Brifysgol/Coleg Preswyl yn eu dilyn i reoli unrhyw argyfwng fel yr amlinellir yn eu Cynllun Parhad Busnes a Chynllunio at Argyfwng.
Mae’r cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol ac mae’n rhoi cyngor adweithiol a rhagweithiol i brifysgolion a cholegau preswyl yng Nghymru ynghylch rheoli, atal a monitro clefydau heintus.