Addysg a hyfforddiant- ysgolion, darparwr hyfforddiant, datblygu sgiliau
Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd yn 1883 ac mae’n un o brifysgolion mwyaf blaenllaw o ran ymchwil ym Mhrydain. Wedi’i lleoli ym mhrifddinas hardd a llewyrchus Cymru, mae’n uchelgeisiol ac arloesol gyda gweledigaeth fentrus a strategol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhagori mewn darparu ymchwil arloesol o’r radd flaenaf sy’n sicrhau effaith amlwg yn lleol ac yn fyd-eang. Mae ganddi boblogaeth o fyfyrwyr amrywiol sy’n dod o dros 100 o wledydd ac ystod o gefndiroedd. Mae nifer o’r staff academaidd yn arweinwyr o fewn eu maes, gan greu amgylchedd ysgogol ar gyfer dysgu.
Mae’r Brifysgol yn gosod ei chymunedau wrth wraidd popeth a wna. Bu’n ymateb i ddigwyddiadau heriol iawn a wynebwyd gan gymdeithas gan weithio er lles y cyhoedd am dros 130 o flynyddoedd. Nid yn unig mae hi wedi ymroddi i wella iechyd, cyfoeth a llesiant y cymunedau mae’n eu gwasanaethau, ond mae hi’n cymryd ei rôl o hybu cynaliadwyedd ac amrywiaeth amgylcheddol o ddifrif.