Neidio i'r prif gynnwy

Straen ac iechyd meddwl yn y gwaith – yr hyn y mae angen i bob busnes bach yng Nghymru ei wybod. 

Straen ac iechyd meddwl yn y gwaith – yr hyn y mae angen i bob busnes bach yng Nghymru ei wybod. 

 

22 Ionawr 2025 10.30 – 11:30

 

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn 

Os ydych chi'n berchennog neu'n rheolwr busnes bach yng Nghymru ac eisiau gwybod sut i reoli straen a hybu iechyd meddwl da i'ch gweithwyr, dyma'r digwyddiad i chi. 

Mae tri phrif reswm pam y dylai cyflogwyr geisio atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith a chefnogi iechyd meddwl da; mae’n gyfraith gwlad, mae'n dda i fusnes a dyma'r peth iawn i'w wneud.  

Mae'r sesiwn yn cael ei ddarparu fel rhan o'r ymgyrch Working Minds dan arweiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac a gefnogir gan Cymru Iach ar Waith (CIW).

Byddwch yn gadael gyda dealltwriaeth o'r hyn y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr a'r hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith. Yn ystod yr awr, byddwn yn eich tywys drwy: 

  • Yr heriau cyffredin, risgiau ac arwyddion straen sy'n gysylltiedig â gwaith a'i effaith ar iechyd meddwl 
  • strategaethau ymarferol gan gynnwys y 5 canlynol: Estyn Allan > Adnabod > Ymateb > Myfyrio > Gwneud Arferiad ohono  
  • y cymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru. 

Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'n siaradwyr. 

Ymunwch â ni! Cofrestrwch heddiw