Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (2024)



Cyhoeddwyd: 12 Gorffennaf 2024

 

Newyddion diweddaraf

  • Yn yr iteriad hwn rydym wedi diweddaru'r dangosyddion canlynol: disgwyliad oes, y bwlch anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes, disgwyliad oes iach (Cymru yn unig ar gyfer 2020-2022), a phlant mewn tlodi.

  • Mae'r dangosyddion 'glasoed o bwysau iach' a 'phlant mewn tlodi' wedi newid ac felly nid oes modd eu cymharu â fersiynau blaenorol o’r dangosfwrdd PHOF. Cyfeiriwch at y dangosfwrdd am ragor o fanylion.

  • Roedd disgwyliad oes adeg geni yng Nghymru yn 2020 i 2022 yn is nag yn 2017 i 2019 ar gyfer dynion a menywod. Arweiniodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) at fwy o farwolaethau yn 2020 a 2021, a gwelir effaith hyn yn amcangyfrifon disgwyliad oes ardaloedd rhanbarthol a lleol ar gyfer 2020 i 2022.

  • Roedd y disgwyliad oes iach yng Nghymru yn 2020 i 2022 yn 61.1 mlynedd ar gyfer dynion a 60.3 mlynedd ar gyfer menywod, gostyngiad o’i gymharu â chyfnodau blaenorol. Mae'r Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ysgogi disgwyliad oes iach.

  • Er ei bod yn ymddangos bod canran y plant sy’n byw mewn tlodi cyn costau tai ledled Cymru wedi cynyddu ers 2014/15, dylid bod yn ofalus wrth gymharu tueddiadau dros amser oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19).

  • Yn ystod 2022/23, yn y mwyafrif o awdurdodau lleol ledled Cymru, roedd mwy nag 20 y cant o blant yn byw mewn tlodi cyn costau tai.

 

Map dangosydd

 


Adborth

Wedi ei gynnwys yn yr offeryn adrodd hwn ceir tabl cymhariaeth i fesur sut mae ardaloedd unigol yn cymharu â’i gilydd, yn cynnwys Cymru, yn ogystal ag offer llywio gwell i’w wneud yn haws i ddod o hyd i’r dangosyddion sydd yn bwysig i chi.Rydym bob amser eisiau gwella’r cynnyrch yr ydym yn eu creu er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni trwy ebostio:  publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk NEU defnyddiwch ein holidaur.

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

 


Beth sydd nesaf?

Rydym yn datblygu’r Offeryn mewn ffordd ailadroddol, ac felly byddwn yn ei ddiweddaru’n rheolaidd. Mae amserlen ar gyfer y diweddariadau ar gael yma/isod.


Adroddiad technegol

DC = Dangosydd Cenedlaethol

Ffynhonnell data Dangosydd Cyhoeddwyd

Chwarter cyhoeddi

PHM Disgwyliad oes ar enedigaeth C2
Disgwyliad oes iach ar enedigaeth C2
Y bwlch mewn disgwyliad oes ar enedigaeth rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig C2
Y bwlch mewn disgwyliad oes iach ar enedigaeth rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig DC C2
Marwolaeth cyn pryd o glefydau anhrosglwyddadwy allweddol C1
Marwolaethau o anafiadau C1
Marwolaethau o anafiadau traffig y ffordd C1
Hunanladdiad C1
PEDW Torri clun ymysg pobl hŷn C1
NSW Lles meddwl ymysg oedolion DC C4
Y bwlch mewn lles meddwl rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig ymysg oedolion Data ddim ar gael N/A
Pobl sydd yn gallu fforddio nwyddau a gweithgareddau o ddydd i ddydd DC C4
Teimlad o gymuned DC C4
Pobl sydd yn gwirfoddoli DC C4
Pobl sydd yn teimlo’n unig DC C4
Oedolion sydd yn bwyta pum darn o ffrwythau neu lysiau y dydd C4
Oedolion sydd yn bodloni canllawiau gweithgaredd corfforol C4
Oedolion sydd yn smygu C4
Oedolion sydd yn yfed uwchlaw’r canllawiau C4
Oedolion o oed gweithio mewn iechyd da C4
Oedolion o oed gweithio sydd yn rhydd rhag salwch hirdymor C4
Bodlonrwydd bywyd ymysg oedolion o oed gweithio C4
Oedolion o oed gweithio â phwysau iach C4
Pobl hŷn mewn iechyd da C4
Pobl hŷn yn rhydd rhag salwch hirdymor sy’n cyfyngu C4
Bodlonrwydd bywyd ymysg pobl hŷn C4
Pobl hŷn â phwysau iach C4
SHRN/ HBSC Y glasoed â phwysau iach C4
Gweithgaredd corfforol ymysg y glasoed C4
Y glasoed sydd yn smygu C4
Y glasoed sydd yn defnyddio alcohol C4
Y glasoed sydd yn yfed diodydd melys unwaith y dydd neu fwy C4
ONS Beichiogi yn yr arddegau C4
LFS/APS Pobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant DC C4
Bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer y rheiny â chyflwr iechyd hirdymor C3
VPDP Cyfraddau brechu yn 4 oed C3
HBMD Smygu yn ystod beichiogrwydd C4
NCCHD Pwysau isel ar enedigaeth DC C3
Bwydo ar y fron ar ddiwrnod 10 C3
Data heb ei nodi Lles meddwl ymysg plant a phobl ifanc DC Data ddim ar gael N/A
Bwlch mewn lles meddwl ymysg plant a phobl ifanc Data ddim ar gael N/A
SW Plant sydd yn byw mewn tlodi Q2
FPF Plant ifanc sydd yn datblygu’r sgiliau cywir DC Data ddim ar gael N/A
WED Y rheiny sydd yn gadael yr ysgol gyda sgiliau a chymwysterau DC Data ddim ar gael N/A
Data heb ei nodi Y rheiny sydd yn gadael yr ysgol â sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol Data ddim ar gael N/A
HLCC Ansawdd tai DC C1
DEFRA Ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu DC C1
CMP Plant 5 oed â phwysau iach data heb ei gyhoeddi eto N/A
WDS Pydredd dannedd ymysg plant 5 oed Data ddim ar gael N/A

 

 

Meysydd
Canlyniadau cyffredin
Amodau byw sy'n cefnogi ac yn cyfrannu at iechyd nawr ac ar gyfer y dyfodol
Ffyrdd o fyw sy'n gwella iechyd
Iechyd gydol oes

 

 

Mae’r holl ddata a gyflwynir yn yr offeryn adrodd hwn ar gyfer preswylwyr Cymru, a’r ddaearyddiaeth o fewn 7 Bwrdd Iechyd Lleol Cymru a’r 22 ardal Awdurdod Lleol.  

 

Byrddau iechyd GIG Cymru:

Awdurdodau Lleol (ALlau) yng Nghymru:

Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Aneurin Bevan

 

Blaenau Gwent

Caerffili

Sir Fynwy

Casnewydd

Torfaen

BIP Betsi Cadwaladr

 

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Gwynedd

Ynys Môn

Wrecsam

BIP Caerdydd a’r Fro

 

Caerdydd

Bro Morgannwg

BIP Cwm Taf Morgannwg

 

Pen-y-bont ar Ogwr

Merthyr Tudful

Rhondda Cynon Taf

BIP Hywel Dda

 

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Sir Benfro

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Powys

BIP Bae Abertawe

 

Castell-nedd Port Talbot

Abertawe

 

Mae rhai dangosyddion wedi eu rhannu’n ddosbarthiad trefol a gwledig 2011. Mae aneddiadau sydd y tu allan i fwy na 10,000 o boblogaeth breswyl yn cael eu rhoi mewn categori gwledig.

Nod datblygiadau pellach i’r offeryn ar ddiwedd 2023 yw rhannu dangosyddion ymhellach i ddaearyddiaethau is-awdurdod lleol yn cynnwys ardaloedd cynnyrch ehangach uwch, canol, ac is.

 

Arolwg Cenedlaethol Cymru:

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ac yn cynnwys amrywiaeth eang o destunau. Y prif ddiben yw darparu gwybodaeth am safbwyntiau ac ymddygiad oedolion yng Nghymru.

Mae’r data a gyflwynir yn yr offeryn yn ôl blwyddyn ariannol, ac er ei fod yn cael ei gyflwyno yn y tab tueddiadau, nid yw cymariaethau uniongyrchol dros amser yn bosibl oherwydd y newid sylweddol mewn methodoleg bob blwyddyn. Yn ogystal, ni chafodd pob cwestiwn ei ofyn yn ystod pob cyfnod arolwg. 

 

Dolenni defnyddiol

 

Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru:

Mae Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) yn cynnwys cofnodion pob cyfnod o weithgaredd gofal cleifion mewnol a dydd yn ysbytai GIG Cymru. Mae gweithgaredd ysbyty ar gyfer preswylwyr Cymru gafodd eu trin yng ngwledydd eraill y DU (Lloegr yn bennaf) wedi ei gynnwys hefyd. Caiff y data ei gasglu a’i godio ym mhob ysbyty. Caiff y cofnodion wedyn eu trosglwyddo’n electronig i Gofal Iechyd Digidol yng Nghymru, sy’n eu dilysu a’u hychwanegu at y brif gronfa ddata.

 

O 2019/20 ymlaen, cafwyd gostyngiad yng nghyfanswm y derbyniadau brys oherwydd pandemig Covid-19. Dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i hyn wrth ddadansoddi tueddiadau mewn derbyniadau torri cluniau ymysg pobl hŷn.

 

Noder bod problem gyda chodio diagnostig mewn sawl bwrdd iechyd. Mae Tabl 1 yn dangos sut caiff y codau coll eu dosbarthu yn ôl blwyddyn ariannol a bwrdd iechyd, fel yn Awst 2022. Bydd cyfrifon o ddiagnosis penodol yn cael eu hamcangyfrif yn rhy isel, ond i raddau anhysbys, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau ar gyfer y byrddau iechyd hyn. Yn ogystal, lle mae canran y diagnosis coll dros 20%, mae'r gwerth wedi cael ei atal.

Tabl 1 Codau diagnostig coll, derbyniadau brys (ac eithrio trosglwyddiadau) yn ôl blwyddyn ariannol a ardal

Ardal

Blwyddyn ariannol

Cofnodion coll

BIP Abertawe Bae 2022/23 16%
BIP Aneurin Bevan

2017/18

2018/19

2019/20

2022/23

14%

11%

11%

12%

BIP Caerdydd a’r Fro

2011/12

2022/23

19%

20%

BIP Cwm Taf Morgannwg 2019/20 11%
BIP Hywel Dda

2017/18

2019/20

2020/21

10%

15%

12%

Abertawe 2022/23 16%
Blaenau Gwent

2017/18

2018/19

2019/20

2022/23

10%

13%

12%

14%

Bro Morgannwg

2011/12

2022/23

11%

16%

Caerffili

2017/18

10%
Caerdydd

2011/12

2012/13

2021/22

2022/23

23%

11%

10%

23%

Casnewydd

2017/18

2018/19

2019/20

2022/23

20%

12%

12%

12%

Castell-nedd Port Talbot 2022/23 17%
Ceredigion

2019/20

2020/21

14%

22%

Merthyr Tudful 2019/20 14%
Rhondda Cynon Taf 2019/20 14%
Sir Fynwy

2017/18

2018/19

2019/20

2022/23

16%

14%

13%

15%

Sir Gaerfyrddin

2017/18

2018/19

2019/20

2020/21

16%

10%

21%

14%

Torfaen

2017/18

2018/19

2019/20

2022/23

16%

15%

13%

15%

 

Ffigur 1 Codau diagnostig coll, derbyniadau brys (ac eithrio trosglwyddiadau), canran, Cymru, 2009/10 i 2022/23

Dolenni defnyddiol

Codau ICD-10

Geiriadur Data GIG Cymru

Tabl Cyhoeddiadau PEDW

 

Disgwyliad oes (LE)/ Disgwyliad oes iach (HLE) ar enedigaeth:

Defnyddir set ddata Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd i gyfrifo Disgwyliad Oes (DO) ar enedigaeth.  Mae disgwyliad oes (LE) ar enedigaeth yn amcangyfrif o nifer y blynyddoedd ar gyfartaledd y gellid disgwyl i fabanod newydd-anedig fyw, gan gymryd bod cyfraddau marwolaethau presennol ar gyfer yr ardal lle cawsant eu geni yn gymwys trwy gydol eu bywydau.  Caiff ei gyfrifo gan ddefnyddio’r dull tabl bywyd cryno sef dull dewisol yr ONS.  Gan fod holl gyfrifiadau LE yn seiliedig ar gyfraddau marwolaethau presennol, bydd disgwyliad oes cyfartalog yn newid yn ystod oes waeth beth yw’r ffactorau eraill. Dylid ystyried y rhain felly fel mesurau marwolaethau poblogaeth cymharol yn ystod cyfnod o amser yn hytrach na rhagfynegiadau o ddisgwyliad oes unigol gwirioneddol.

Amcangyfrifiad yw disgwyliad oes iach (HLE) o nifer y blynyddoedd ar gyfartaledd y gellid disgwyl i fabanod newydd-anedig fyw mewn iechyd da, gan gymryd bod cyfraddau marwolaethau presennol a lefelau iechyd da ar gyfer yr ardal lle cawsant eu geni yn gymwys trwy gydol eu bywydau. Cyfrifir HLE gan ddefnyddio dull Sullivan sef dull dewisol yr ONS ar gyfer cyfrifo disgwyliad oes iach ar enedigaeth. Mae ei gyfrifiad yn cynnwys cyfuno statws iechyd o’r Arowg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) a’r Cyfrifiad gyda data marwolaethau a’r boblogaeth a ddefnyddir ar gyfer LE.  Barnwyd ‘Iach’ i fod yn ymateb o dda iawn neu dda i’r cwestiwn APS yn gofyn i’r rheiny rhwng 16 a 85 oed “Pa mor dda yw eich iechyd yn gyffredinol; a fyddech chi’n dweud ei fod yn… Dda Iawn, Da, Gweddol, Gwael, Gwael Iawn”.

 

Mae addasiadau’n cael eu cymhwyso i baratoi data APS ar gyfer dull Sullivan sy’n defnyddio data iechyd y Cyfrifiad, mae’r rhain yn cynnwys:

    • priodoli mynychder iechyd ar gyfer grwpiau oedran nad yw ar gael yn yr APS (plant o dan 16 oed ac oedolion dros 85 oed). 
    • Defnyddio dadansoddiad atchweliad i leddfu’r amrywiadau ym mynychder iechyd is-genedlaethol.
    • Rhyngosod rhwng cyffredinrwydd cyflwr iechyd a welwyd yng Nghyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021 i greu amcangyfrifon ‘cyfrifiad’ cyfnod-benodol o gyffredinrwydd cyflwr iechyd ar gyfer y blynyddoedd yn y canol (Cymru yn unig).

Mae angen priodoli hefyd pan, ar gyfer dadansoddiad penodol:

    • nad oedd unrhyw ymateb dilys i’r cwestiwn iechyd da mewn dadansoddiad.
    • roedd mynychder iechyd da yn 0, waeth faint o ymatebwyr nad oeddent mewn iechyd da.

Nid yw amcangyfrifon is-genedlaethol wedi’u cyhoeddi ar gyfer y cyfnodau 2019-21 a 2020-22. Mae hyn oherwydd pandemig COVID-19 a effeithiodd ar gasglu data’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol a samplau llai eu maint. Mae’r SYG yn blaenoriaethu methodoleg wedi'i diweddaru i gyfrifo amcangyfrifon is-genedlaethol ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Datganiadau Disgwyliad Oes a’u defnydd gwahanol.

 

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS), ONS

Defnyddir yr APS i amcangyfrif y cyfrannau canlynol;

  • Statws marchnad lafur yr rheiny mewn addysg amser llawn;
  • Statws marchnad lafur y rheiny mewn addysg rhan-amser;
  • Cyflogaeth amser llawn a rhan-amser y rheiny sydd yn Dysgu Seiliedig ar Waith, sydd yn gyflogedig;
  • Hyfforddiant ‘i ffwrdd o’r gwaith’ ar gyfer y rheiny sydd yn gyflogedig.

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru

Defnyddir y LLWR i amcangyfrif y gyfran ganlynol:

• Statws marchnad lafur y rheiny sydd yn ymgysylltu â Dysgu Seiliedig ar Waith.

Caiff y cyfrannau hyn wedyn eu cymhwyso i’r niferoedd y mae’n hysbys eu bod mewn addysg, dysgu seiliedig ar waith a chyfanswm y boblogaeth i ddeillio amcangyfrifon cyfranogiad yn ôl addysg a chyflogaeth. Ar gyfer Dysgwyr Seiliedig ar Waith, defnyddir statws marchnad lafur ar ddechrau’r rhaglen ddysgu a gasglwyd trwy’r LLWR gydag ychwanegiad rhywfaint o ddata APS i amcangyfrif y cyfrannau mewn cyflogaeth amser llawn a rhan-amser.

Gan fod y data’n dod o arolwg, mae’r canlyniadau yn amcangyfrifon yn seiliedig ar sampl ac felly’n destun graddfeydd gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae gwerth gwirioneddol unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth a amcangyfrifir.

Cyhoeddir data yn flynyddol, mae data 2020 yn ddata dros dro ar y pwynt yma. Gellir cael mynediad i’r set ddata trwy stats cymru.

 

Ystadegau beichiogi (ONS)

Mae ystadegau beichiogi yn amcangyfrifon o holl feichiogrwydd menywod sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffigurau’n deillio o hysbysiadau mamolaeth, genedigaeth ac erthyliad. Am fod gofyniad cyfreithiol i gofnodi’r data hwn, dyma un o’r ffynonellau data mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Defnyddir y set ddata hon ynghyd ag amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ONS i amcangyfrif cyfraddau cenhedlu fesul 1,000 o fenywod (15-17 oed) yng Nghymru.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Canllaw defnyddiwr ar gyfer ystadegau beichiogi

Set ddata

 

Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd

Mae Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd (PHM) yn set ddata sydd yn cynnwys pob marwolaeth unigol preswylwyr sydd wedi cofrestru yn y flwyddyn benodol honno. Anfonir cofnodion unigol ar gyfer cofrestriadau marwolaeth yn wythnosol o swyddfeydd Cofrestryddion ar draws Cymru a Lloegr i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’r ONS yn cydgrynhoi ac yn dilysu’r data. Mae’r data’n seiliedig ar achos sylfaenol marwolaeth e.e. os bydd unigolyn yn marw o niwmonia ond wedi cael ei wneud yn agored i’r clefyd hwnnw gan ganser cyfnod terfynol, yna canser (yn hytrach na niwmonia) sydd yn cael ei gofnodi fel achos sylfaenol marwolaeth.

Cafwyd diwygiadau i’r ffordd y mae’r tystysgrifau marwolaeth yn cael eu trosi gan yr ONS yn godau Dosbarthiad Rhyngwladol Clefydau (10fed diwygiad). Mae’r newidiadau hyn yn golygu nad yw data heb ei ddiwygio yn gallu cael ei gymharu ar draws blynyddoedd. Mae’r prif newid yn ymwneud â’r rheolau sydd yn llywodraethu pa achos marwolaeth a nodir ar y dystysgrif farwolaeth sydd yn cael ei ddewis fel yr achos sylfaenol. Nid yw cymarebau cymhareb wedi cael eu defnyddio yn y dadansoddiadau hyn ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau.

Mae achos marwolaeth yn seiliedig ar dystysgrif feddygol achos y farwolaeth. Caiff hon ei llenwi gan y meddyg ardystio ar gyfer tua thri chwarter marwolaethau a chan grwner ar gyfer y gweddill. Nid yw’r rhan fwyaf o farwolaethau sydd yn cael eu hardystio gan grwner yn cynnwys cwest nag unrhyw amheuaeth o drais, ond cânt eu cyfeirio at y crwner am eu bod yn sydyn ac yn annisgwyl, neu am nad oedd meddyg yn bresennol yn ystod salwch olaf yr ymadawedig. Bydd oedi hir yn cofrestru nifer fach o farwolaethau lle mae angen dyfarniad crwner e.e. hunanladdiad, dynladdiad, bwriad amhenodol.

Noder bod hunanladdiadau yn cael eu cyfrif yn ôl y dyddiad cofrestru. Mae oedi hysbys rhwng dyddiad y digwyddiad a’r dyddiad cofrestru; mae oedi pellach yn debygol o ganlyniad i bandemig coronafeirws. Byddwch yn ymwybodol bod data’n debygol o fod yn anghyflawn, yn arbennig ar gyfer y cyfnodau mwyaf diweddar.  Gweler ONS am fwy o wybodaeth:

Effaith oedi gyda chofrestru ystadegau marwolaethau yng Nghymru a Lloegr – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

 

Casglu data peryglon a thrwyddedau, Llywodraeth Cymru (LlC)

Gellir cynnal asesiadau yn unol â’r Systemau Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) am nifer o resymau. Er enghraifft, cynhelir asesiad HHSRS wrth drwyddedu tŷ amlfeddiannaeth neu pan dderbynnir cwyn am eiddo gan y meddiannydd neu gymydog. Er ei fod yn gallu cynnwys pob eiddo preswyl, fe’i defnyddir yn fwy cyffredin i asesu safonau tai rhentu preifat. Gellir asesu aneddiadau fwy nag unwaith yn ystod pob cyfnod adrodd. 

 

Diffinnir ansawdd y dangosydd tai fel canran yr asesiadau sydd yn rhydd rhag peryglon categori 1 yn unol â pheryglon y system raddio Iechyd a Diogelwch Tai.  Peryglon Categori 1 yw’r rheiny sydd yn cyflwyno’r risg mwyaf i ddeiliaid. Am fod hyn yn deillio o gasglu data peryglon a thrwyddedau yn flynyddol nid yw’n cynnwys pob anheddiad ond dim ond y rheiny a asesir gan awdurdodau lleol.

 

Noder, oherwydd pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chafodd data ar beryglon a thrwyddedau tai yng Nghymru ar gyfer 2019-20 eu casglu.

 

Data

Adroddiad ansawdd

Casglu data

 

 

Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac Adnodd Gwybodaeth am Aer y DU (AIR)

Dangosyddion Cysylltiad Ansawdd Aer – crynodiadau cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardaloedd awdurdod lleol ac ardaloedd bwrdd iechyd, yn deillio o ddata wedi ei fodelu ar gyfer pob cilomedr sgwâr yng Nghymru, wedi ei fesur mewn µg/m3 (data DEFRA).

Bob blwyddyn mae model Mapio Hinsawdd Llygredd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygrwyr cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o’r DU. Bob blwyddyn, caiff y Model Hinsawdd Llygredd (PCM) sydd yn tanategu’r mapiau cefndir ei fireinio a’i wella (i roi cyfrif am y wyddoniaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf sydd ar gael e.e. newidiadau mewn ffactorau allyriadau, data gweithgaredd gwell ac ati).  Fel arfer, gwneir y newidiadau dull hyn i ffigurau y flwyddyn ddiweddaraf yn unig.

Caiff y model ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a gymerir o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data hwn sydd wedi ei gyhoeddi i neilltuo crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 i bob anheddiad preswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba gilomedr sgwâr o Gymru y mae ynddo. 

Ar gyfer pob ardal cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol yn cynnwys tua 150 eiddo), cyfrifwyd cyfartaledd crynodiad llygrwyr sydd yn gysylltiedig â phob anheddiad o’i mewn i roi crynodiadau cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardal cynnyrch y cyfrifiad.

Caiff dangosydd ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu yn yr offeryn hwn ei ddiffinio fel lefelau cyfartalog blynyddol crynodiad nitrogen deuocsid (NO₂) mewn lleoliadau aneddiadau preswyl (µg/m³).

Ansawdd Aer yng Nghymru

Data

 

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) yn cynnwys manylion yn ymwneud ag iechyd mamau a phlant fel genedigaethau, imiwneiddio, sgrinio, diogelu plant a bwydo ar y fron.    

Mae gan bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru gronfa ddata System Iechyd Plant y maent yn ei rheoli’n lleol. Caiff cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant sydd wedi eu geni, yn preswylio neu’n cael eu trin yng Nghymru ac wedi eu geni ar ôl 1987 eu cydgrynhoi o bob un o’r cronfeydd data lleol bob chwarter i greu’r NCCHD.

Mae’r ystadegau yn ymwneud â genedigaethau byw a anwyd i breswylwyr Cymru yn ystod y flwyddyn galendr berthnasol. Mae’r dadansoddiadau ar gyfer genedigaethau byw yn unig ac nid ydynt yn cynnwys marw-enedigaethau. Fodd bynnag, gall genedigaethau sydd yn digwydd yng Nghymru (i breswylwyr Cymru neu’r rheiny nad ydynt yn preswylio yng Nghymru) hefyd gael eu cyfrif gan yr NCCHD.

Caiff y dangosyddion ‘pwysau isel ar enedigaeth’ a ‘bwydo ar y fron ar ddiwrnod 10’ eu creu gan ddefnyddio’r set ddata hon.

Mae data bwydo ar y fron wedi cael ei atal os yw’n llai na 80% yn gyflawn. Nid yw’r data yn ddigon cadarn i ddarparu siartiau tueddiadau.

 

 

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN)

Mae Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phrifysgol Caerdydd, wedi ei sefydlu yn 2013. Eu nod yw gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru trwy weithio gydag ysgolion mewn addysg gynradd ac uwchradd i greu a defnyddio tystiolaeth o ansawdd da ar gyfer gwella iechyd. Mae hyn yn cynnwys arolygon, cipio mesuriadau allweddol iechyd a lles. Cyfeirir at y mesuriadau hyn mewn llawer o bolisïau a strategaethau cenedlaethol, yn cynnwys Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd a Lles (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019).

Ers 2017, mae pob ysgol uwchradd prif ffrwd yng Nghymru wedi dod yn aelodau SHRN cofrestredig gyda thros 90% o ysgolion yn cwblhau Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN yn 2021/22.

Mae diffiniad y dangosydd hwn wedi newid i ganran y plant sy'n adrodd categori BMI 'ystod iach'. Roedd y diffiniad blaenorol yn cynnwys plant yn adrodd categorïau BMI 'dan bwysau' neu 'ystod iach'. Felly ni ellir cymharu'r dangosydd â data a gyhoeddwyd yn adroddiad cenedlaethol Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) 2021.. Cyfrifiad o ddangosydd pwysau iach:

Nodwedd

Ystod BMI “iach”

11 oed, gwrywaidd

>=15.15 & <20.85

11 oed, benywaidd

>=15.30 & <21.12

12 oed, gwrywaidd

>=15.59 & <21.54

12 oed, benywaidd

>=15.91 & <22.05

13 oed, gwrywaidd

>=16.11 & <22.24

13 oed, benywaidd

>=16.55 & <22.90

14 oed, gwrywaidd

>=16.68 & <22.95

14 oed, benywaidd

>=17.16 & <23.60

15 oed, gwrywaidd

>=17.26 & <23.59

15 oed, benywaidd

>=17.68 & <24.13

16 oed, gwrywaidd

>=17.79 & <24.18

16 oed, benywaidd

>=18.08 & <24.53

 

Set Ddata Dangosydd Mamolaeth (MIds)

Mae ystadegau smygu ar enedigaeth yn gyfyngedig yn ôl y ffordd y caiff data ei gasglu. Os nad yw monitro carbon monicsid (CO) ar gael, mae dibynadwyedd data yn dibynnu ar y fam yn hunanadrodd gwybodaeth gywir. Mae monitro CO wedi cael ei atal dros dro i raddau helaeth ers i bandemig COVID-19 ddechrau, fell mae data ar gyfer 2020 a 2021 yn cael ei hunanadrodd yn bennaf.

Ni ddylai E-Sigaréts gael eu cofnodi yn yr eitem ddata hon ac ni fyddent yn cael eu canfod gan fonitor CO; ond, yn ymarferol gall rhai mamau hunanadrodd eu bod yn smygwr os ydynt yn defnyddio e-sigaréts a chael eu cofnodi yn anghywir fel smygwr. Yn yr un modd, gall rhai mamau sydd yn smygu hunanadrodd nad ydynt yn smygu a chael eu cofnodi yn anghywir fel dim smygwr. 

Yn 2021, roedd gan 82% o’r cofnodion ddata dilys wedi ei gofnodi ar lefel Cymru. Roedd hyn yn bennaf am nad oedd bwrdd iechyd Hywel Dda wedi darparu unrhyw ddata smygu ar enedigaeth, a dim ond 68% o ddata cyflawn oedd ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Roedd lefelau cyflawnder isel yn 2020 hefyd ar gyfer (30%), Cwm Taf Morgannwg (70%) a Powys (76%).  Fodd bynnag, yn yr holl flynyddoedd cyn 2020, roedd gan dros 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer statws smygu ar enedigaeth, ar draws bron bob un o’r byrddau iechyd.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael ar y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael trwy Eiriadur Data NWIS.

Ceir gwybodaeth fanylach ar y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y cyhoeddiad ystadegol hwn yn yr adroddiad ansawdd.

Data Stats Cymru

 

Cronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio Poblogaeth (RAPID)

Mae’r dangosydd plant mewn tlodi yn defnyddio data o’r gronfa ddata “RAPID” (Cronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio Poblogaeth) sy’n rhoi darlun cydlynol sengl o’r rhyngweithio gan ddinasyddion â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Chyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn blwyddyn dreth ar gyfer y DU. Mae RAPID yn rhoi sail ar gyfer dadansoddiadau o blant, yr uned deuluol, ac incwm personol gros (budd-daliadau/credydau treth, cyflogaeth, hunangyflogaeth, pensiynau galwedigaethol) y gellir codi amcangyfrifon o blant mewn teuluoedd incwm isel ohonynt a’u graddnodi i amcangyfrifon rhanbarthol HBAI yn ôl diffiniadau Absoliwt a Chymharol.

Mae’r dangosydd plant mewn tlodi a gyflwynir yn Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHOF) yn defnyddio incwm isel cymharol, sy’n mesur nifer a chyfran y plant (0-15 oed) mewn cartrefi islaw 60 y cant o incwm cyfartalog y DU, cyn talu costau tai. Sylwch fod hyn yn wahanol i ddangosydd cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n mesur cyfran y plant sy’n byw mewn tlodi ar ôl talu costau tai. Cyfrifir canrannau gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Mae data ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21, 2021/22 a 2022/23 wedi cael eu heffeithio gan bandemig Covid-19. bandemig Covid-19. Yn dilyn pryderon am ansawdd amcangyfrifon 2020/21, mae’r rhain wedi’u hatal yn nangosfwrdd PHOF. Yn nodweddiadol mae’r ystadegau’n cael eu graddnodi i amcangyfrifon cyfartalog 3 blynedd cyhoeddedig yr HBAI o blant mewn teuluoedd incwm isel ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, ond ar gyfer 2021/22 a 2022/23 mae cyfartaleddau 2 flynedd wedi’u defnyddio (ac eithrio 2020/21). Dylid bod yn ofalus felly wrth ddefnyddio'r data, yn enwedig wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol ac ar gyfer ardaloedd lleol.

Ceir rhagor o wybodaeth am effaith pandemig Covid-19 ar yr ystadegau hyn yn adroddiad technegol plant ar incwm isel.

 

COVER – data cenedlaethol ymgymeriad imiwneiddio mewn plentyndod

Dadansoddiad a wnaed gan y rhaglen clefydau ataliadwy a’r ganolfan arolygu clefydau trosglwyddadwy. Mae nifer y plant a dderbyniodd y brechlynnau wedi eu trefnu a nodir uchod wedi eu rhannu gan nifer y plant 4 oed wedi eu lluosi â 100. Cyfrifir y mesuriad hwn gan ddefnyddio imiwneiddiadau atgyfnerthu neu gwrs olaf. Cyfrifir y ffigurau ar gyfer plant sy’n byw ac yn preswylio yng Nghymru ar ddiwedd Mawrth ym mhob blwyddyn.

Adroddiad data chwarterol diweddaraf

Tudalen adnodd imiwneiddio a brechlynnau

 

Ffynonellau data allweddol eraill:

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC) (a ddefnyddir i gyfrifo pumedau amddifadedd) Dyma fesur swyddogol Llywodraeth Cymru i amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n cynnwys wyth maes/math ar wahân o amddifadedd.

Amcangyfrifon canol blwyddyn (MYE) ONS yw ffynhonnell swyddogol meintiau poblogaeth, sydd yn cael eu cynhyrchu’n flynyddol, yn cynnwys poblogaethau awdurdodau lleol, siroedd, rhanbarthau a gwledydd y DU yn ôl oed a rhywedd.  Defnyddir y ffynhonnell ddata hon fel enwadur wrth gyfrifo cyfraddau crai ac wedi’u safoni yn ôl oed.

Tabl 1 Newidiadau i’r dangosydd sy’n ymateb i fewnbwn defnyddwyr

Dyddiad y newid Enw'r dangosydd Disgrifiad blaenorol

Disgrifiad newydd

Rheswm dros y newid

12 Gorffennaf 2024

Plant sy’n byw mewn tlodi Plant sy'n byw mewn tlodi ar ôl costau tai Plant sy'n byw mewn tlodi cyn costau tai Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr ar ddefnyddioldeb y data. Rydym bellach yn gallu dangos data ar sail dadansoddiadau awdurdodau lleol a byrddau iechyd. 
12 Gorffennaf 2024 Y glasoed â phwysau iach Canran y plant sy'n adrodd naill ai categori BMI ‘tan bwysau’ neu ‘ystod iach’. Canran y plant sy'n adrodd Categori BMI ‘ystod iach’ Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr nad oedd yn briodol cynnwys data categori BMI 'tan bwysau'.

Gweler arweiniad ynghylch sut i ddehongli’r telerau canlynol a ddefnyddir yn yr offeryn:

Mae cyfyngau hyder yn dangos yr amrywiad naturiol y byddai rhywun yn disgwyl ei weld mewn perthynas â chyfradd a dylid ystyried y rhain wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau a maint y boblogaeth y mae'r digwyddiadau wedi deillio ohoni. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sydd wedi'u seilio ar niferoedd bach o ddigwyddiadau ac ar boblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach. I'r gwrthwyneb, bydd cyfyngau hyder cyfraddau sydd wedi’u seilio ar boblogaethau mawr yn debygol o fod yn gulach.

Yn offeryn adrodd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, byddwn yn defnyddio cyfyngau hyder o 95 y cant. Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus ei bod yn cynnwys y gyfradd sylfaenol 'gywir'.

Bydd cymariaethau'n cael eu gwneud yn aml rhwng dau amcangyfrif neu ragor, er enghraifft rhwng gwahanol ardaloedd neu gyfnodau (Ffigur 1). Weithiau, mewn achosion o'r fath, bydd profion ystadegol yn cael eu gwneud drwy gymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd.  Bydd cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn cael eu hystyried yn rhai sy’n ystadegol arwyddocaol wahanol (Ffigurau 1a ac 1b).  Er ei bod yn deg tybio bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn dangos gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol, nid yw bob tro'n wir nad yw cyfyngau hyder sy’n gorgyffwrdd â'i gilydd yn dangos gwahaniaeth o'r fath (Ffigur 1c)  Dull mwy manwl gywir yw cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu'r gwahaniaeth rhyngddynt, a llunio prawf neu gyfwng hyder sydd wedi'i seilio ar yr ystadegyn hwnnw. Nid yw dulliau fel hyn yn cael eu trafod yn y canllaw technegol hwn, ond gallwch ddarllen amdanynt mewn gwerslyfrau safonol.

 

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn fesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru ac yn Ystadegyn Cenedlaethol. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o amddifadedd. Mae rhestru’r ardaloedd hyn, a’u rhannu’n bum grŵp cyfwerth o ran maint yn creu pumedau amddifadedd.

Ar gyfer pob dadansoddiad ar lefel genedlaethol a’r rhan fwyaf o’r dadansoddiadau mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, cyfrifir pumedau ar lefel Cymru (pumedau cenedlaethol). Ceir rhai dangosyddion lle defnyddir pumedau lleol, yn benodol disgwyliad oes a disgwyliad oes iach. Mae pumedau lleol yn wahanol i bumedau cenedlaethol o ran bod pum band cyfartal amddifadedd yn cael eu hailgyfrifo ar gyfer yr ardaloedd bach mewn pob bwrdd iechyd a ffin awdurdod lleol yn unig, yn hytrach nag etifeddu’r pumedau cenedlaethol. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer dull mwy lleol o greu disgwyliadau iechyd.

 

 

  • Mae Dangosyddion Cenedlaethol (DC) yn cynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru, gan arddangos cynnydd tuag at saith nod llesiant. Ceir 50 DC i gyd, nodir deg yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.

Mae’r Gwasanaeth Tystiolaeth yn creu adolygiadau systematig, mapiau tystiolaeth a chrynodebau cyflym, ar destunau iechyd amrywiol, a allai gefnogi canfyddiadau yn yr offeryn hwn.

Beth sydd ar gael yng ngwledydd eraill y DU?

Ar draws gwledydd y DU mae offer tebyg i Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd Cymru, dim un sydd yn gwbl gymaradwy.

Yn Lloegr, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) yn cynnwys pedwar maes a chaiff ei greu gan y Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau. Mae'r meysydd sydd yn creu PHOF Lloegr yn cynnwys penderfynyddion ehangach, gwella iechyd, diogelu iechyd a gofal iechyd a marwolaeth cyn pryd. Mae bron 200 o ddangosyddion yn poblogi'r meysydd, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid y cyfan, yn wahanol i'r rheiny a gyflwynir yn y fersiwn Cymraeg.

Nid yw Gogledd Iwerddon yn creu Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd. Fodd bynnag, maent wedi datblygu strategaeth Iechyd y Cyhoedd o'r enw ‘Gwneud Bywyd yn Well fframwaith strategol system gyfan ar gyfer Iechyd y Cyhoedd’. Rhennir y strategaeth yn chwe thema, yn cynnwys ‘rhoi'r dechrau gorau i bob plentyn, arfogi trwy gydol bywyd, grymuso byw'n iach, creu'r amodau, grymuso cymunedau a datblygu cydweithredu.

Nid yw'r Alban yn creu Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, ond mae Iechyd y Cyhoedd yr Alban a'r cyrff oedd yn ei ragflaenu wedi mabwysiadu dulliau cynllunio canlyniadau ar draws polisi cenedlaethol ac yn hynny o beth maent wedi creu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol a fframwaith iechyd, llesiant a chanlyniadau Cenedlaethol, y ddau yn cynnwys dangosyddion canlyniadau iechyd y cyhoedd.

 

Ymgysylltu rhanddeiliaid 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid o dimau iechyd y cyhoedd lleol a Llywodraeth Cymru i greu'r offeryn adrodd hwn. Wedi ei ddatblygu mewn ffordd ystwyth, rydym yn cyfarfod â'n rhanddeiliaid yn rheolaidd i gytuno sut mae'r offeryn adrodd yn edrych, yn cael ei lywio a'r ffordd y mae dangosyddion yn cael eu torri i lawr. 

Rydym bob amser yn ceisio gwella'r offeryn adrodd hwn, ac felly gellir ebostio unrhyw adborth i (ychwanegwch ebost) neu ei anfon trwy ein holiadur ar-lein.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ddangosfwrdd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF). 

Mae'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG). Mae WCAG yn cael ei derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyrraedd lefel gydymffurfio 'AA' gyda WCAG; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydymffurfio â lefel 'A' yn cael ei dilyn fel isafswm.

Mae nodwedd cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Gall fod gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Cymraeg/Saesneg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblem hygyrchedd ar y safle hwn neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni..

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 7, cyhoeddwyd 12/07/2024
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • Efallai na fydd rhannau o rai tudalennau yn gweithio'n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
  • Mae rhai dewislenni nad ydynt yn gwbl hygyrch
  • Mae rhai botymau a dolenni nad oes ganddynt ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau na ellir eu defnyddio'n llawn gyda'r bysellfwrdd
  • Mae gan rai tudalennau drefn ffocws afresymegol

Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni i ddechrau a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.  Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.2, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.  

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 7, cyhoeddwyd 12/07/2024

 

Er ein bod yn ceisio bodloni ‘WCAG 2.2 AA’ ar hyn o bryd mae gennym y materion canlynol o ran diffyg cydymffurfio:

1.1 Dewisiadau amgen i destun

          1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun

1.3 Addasadwy

           1.3.1 Gwybodaeth a Chydberthynas

1.3.2 Dilyniant Ystyrlon

1.3.3 Nodweddion Synhwyraidd

1.3.5 Nodi Diben Mewnbwn

1.4 Gweladwy

          1.4.1 Defnydd o Liw

1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm)

1.4.8 Cyflwyniad Gweledol

2.1 Mynediad trwy Fysellfwrdd

           2.1.1 Bysellfwrdd

2.4 Llywiadwy

         2.4.3 Trefn Ffocws

         2.4.4 Diben Dolen

         2.4.6 Penawdau a Labeli

3.1 Hygyrchedd darllenydd sgrîn

           3.1.1 Iaith Tudalen

3.3 Cymorth Mewnbwn

           3.3.7 Cofnod diangen

4.1 Cydnawsedd

            4.1.2 Enw, Rôl a Gwerth

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis
Gorffennaf 2024. Caiff ei adolygu ym mis Gorffennaf 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mehefin 2024 gennym ni gan ddefnyddio Mewnwelediadau Hygyrchedd FastPass ar gyfer ehangu’r We.

 

 

APS (Arolwg Cenedlaethol o’r Boblogaeth – a reolir gan ONS)                         

CDSC (Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru)        

CMP (Rhaglen Mesur Plant – a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru)

DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig – a reolir gan LlC)

DHCW (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)      

DWP (Adran Gwaith a Phensiynau)              

FPF (Fframwaith y Cyfnod Sylfaen – a reolir gan Lywodraeth Cymru)    

HBMD (Set Ddata Mamolaeth Bwrdd Iechyd – a reolir gan DCHW)                  

HBSC (astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant oedran Ysgol)                      

HLCC (Casglu data peryglon a thrwyddedau – a reolir gan Lywodraeth Cymru)

HMRC (Cyllid a Thollau EF)

LFS (Arolwg o’r Llafurlu – a reolir gan ONS)                      

NCCHD (Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, a reolir gan DHCW)        

NSW (Arolwg Cenedlaethol Cymru – a reolir gan Lywodraeth Cymru)             

ONS (Swyddfa Ystadegau Gwladol)                         

PEDW (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru – a reolir gan DHCW)         

PHM (Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd – a reolir gan ONS)                             

SHRN (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion)                             

SW (StatsCymru – a reolir gan Llywodraeth Cymru)                   

VPDP (Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy – a reolir gan CDSC)

WDS (Arolwg Deintyddol Cymru – a reolir gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru)

WED (Cronfa Ddata Arholiadau Cymru – a reolir gan Lywodraeth Cymru)