Neidio i'r prif gynnwy

Cynyddodd anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes tra arhosodd anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes iach yn sefydlog.



Cyhoeddwyd:  09 Mehefin 2022

Negeseuon allweddol

  • Roedd marwolaethau’n nodedig uwch yn 2020 oherwydd COVID-19 a bydd yn effeithio ar amcangyfrifon disgwyliad oes.
  • Roedd disgwyliad oes yng Nghymru yn 82 oed i fenywod a 78 oed i wrywod yn 2018-2020.
  • Roedd disgwyliad oes ar gyfer benywod ar ei bwynt isaf yn 2018-2020 ers dechrau’r cyfnod adrodd (2011-2013).
  • Roedd disgwyliad oes iach yn 62 oed i fenywod a 61 oed i wrywod yn 2018-2020.
  • Mae gwrywod yn treulio mwy o’u bywyd mewn iechyd da (78.5%) o’u cymharu â benywod (76.0%).
  • Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes rhwng poblogaeth lleiaf a mwyaf difreintiedig Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol dros y blynyddoedd diweddar ar gyfer gwrywod a benywod, sydd yn awgrymu anghydraddoldeb cynyddol. Roedd y bwlch anghydraddoldeb dros flwyddyn yn fwy i wrywod na benywod.
  • Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach wedi parhau’n gymharol sefydlog rhwng 2011-2013 a 2018-2020 i wrywod a benywod. Roedd y bwlch i fenywod dros dair blynedd a hanner yn fwy nag i wrywod.
  • Er bod rhai arwyddion wedi bod yn dangos bod y bwlch i wrywod wedi gostwng ers 2015-2017, cafwyd cynnydd yn y bwlch mewn disgwyliad oes iach o 2.2 o flynyddoedd i fenywod dros yr un cyfnod

Cliciwch yma i weld y Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda phroffil bwlch anghydraddoldeb


Mewnwelediad

Gallai cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19 roi cyfrif am rai o’r amcangyfrifon gwaeth o ran disgwyliad oes a welwyd yn 2018-2020. Fodd bynnag, nodwyd ataliad yn y gwelliant mewn disgwyliad oes cyn y pandemig fel rhan o Disgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru 2020. Mae rhai esboniadau posibl a restrwyd ar gyfer disgwyliadau iechyd gwaeth ac anghydraddoldebau cynyddol yn cynnwys twf cyflogau isel, tlodi tanwydd, ansicrwydd bwyd, a’r cyfnod o gyni yng Nghymru ers 2010/11 fel yr amlygwyd gan Syr Michael Marmot1. Mae’r cynnydd diweddar yng nghostau byw yn bwysau ychwanegol a allai gynyddu anghydraddoldebau ymhellach o ran disgwyliadau iechyd am na fydd aelwydydd incwm isel efallai’n gallu fforddio hanfodion sylfaenol fel bwyd a gwres i gynnal safon byw digonol.

Mae 'Cymru Sy’n Fwy Cyfartal' yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig i helpu i fesur anghydraddoldebau mewn iechyd ac maent wedi eu cynnwys yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.


Ynglŷn â’r dull

Disgwyliadau iechyd

Mae disgwyliad oes yn fesur o flynyddoedd disgwyliedig bywyd ar gyfartaledd ar gyfer baban newydd-anedig yn seiliedig ar gyfraddau marwolaeth a arsylwyd yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach yn cynrychioli nifer y blynyddoedd y disgwylir i berson fyw mewn iechyd da neu dda iawn. Amcangyfrifon ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol yw’r ddau fesur.

Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae’r dull wedi newid ers rhyddhau disgwyliadau iechyd blaenorol, i wella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Cyfrifwyd y bwlch yn flaenorol gan ddefnyddio Mynegai Goleddf Anghydraddoldeb (MGA). Mae ONS yn parhau i gyhoeddi’r MGA ar lefel genedlaethol fel rhan o’u datganiad DOI. Mae’n bwysig cofio y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sydd yn cynnwys gwahaniaethau mwy eithafol o ran lefelau amddifadedd yn anochel yn arwain at fylchau ehangach mewn disgwyliadau iechyd, o’u cymharu ag ardaloedd sydd yn fwy tebyg yn economaidd-gymdeithasol.

Mae mwy o fanylion am y dull gwahaniaeth absoliwt a’i gymhariaeth â’r MGA ar gael yn y ddogfen hon. Er bod y bwlch yn fesur defnyddiol o anghydraddoldeb rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig, mae’n bwysig ystyried holl fesurau disgwyliad iechyd.

https://emedia1.nhs.wales/PublicHealthWales/cache/file/F7FB9F61-437D-46DA-9D2EAB96014456FE_medium.png?cacheID=E511B005-2D18-4EA4-A170DC2D78DCD6D4 Lawrlwytho adroddiad technegol (.pdf)

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Cyfrifir disgwyliadau iechyd yn ôl amddifadedd gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, sef mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ar gyfer disgwyliadau iechyd ar lefel Cymru, defnyddir pumedau amddifadedd cenedlaethol lle mae’r holl ardaloedd bach yng Nghymru’n cael eu rhannu rhwng pum band amddifadedd cyfartal. Mae ffigurau bwrdd iechyd ac awdurdod lleol yn defnyddio pumedau amddifadedd lleol. Mae pumedau lleol yn gwahaniaethu o’r pumedau cenedlaethol o ran bod y pum band amddifadedd cyfartal yn cael eu hailgyfrifo ar gyfer yr ardaloedd bach o fewn ffin pob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol yn unig, yn hytrach nag etifeddu’r pumedau cenedlaethol. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer ymagwedd fwy lleol tuag at greu disgwyliadau iechyd.

Ystyriaethau data

Mae disgwyliad oes iach yn cyfuno disgwyliad oes â data arolwg iechyd da wedi ei hunanadrodd. Mae ymatebion i gwestiynau am iechyd yn oddrychol. Yn ogystal, cafwyd rhai bylchau yn nata’r arolwg yr oedd angen eu haddasu, yn arbennig ar lefel awdurdod lleol.

1 Marmot, M., Allen, J., Boyce, T., Goldblatt, P., Morrison, J. (2020). Health equity in England: The Marmot Review 10 years on. London: Institute of Health Equity.

Cliciwch yma i weld y Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda phroffil bwlch anghydraddoldeb


Cysylltu 

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk