Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg Rhwydwaith Ymchwil mewn Ysgolion (SHRN)



Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2024

 

Hysbysiad cywiro: Ar 7 Tachwedd 2024 rydym wedi nodi gwall wrth gyfrifo canrannau mewn dau fwrdd iechyd ar gyfer data 2023 ar draws pob pwnc. Digwyddodd hyn oherwydd bod dwy ysgol yn cael eu haseinio'n anghywir i'r bwrdd iechyd anghywir, mae 1.4% o'r cofnodion yn cael eu heffeithio yn Betsi Cadwaladr ac 2.9% yn Hywel Dda.  Mae'r data'r bwrdd iechyd yr effeithiwyd wedi'i ddiwygio ac mae bellach yn gywir ar 20 Tachwedd 2024.

 

 >>> Dolen i'r Dangosfwrdd <<<

 

        Lawrlwytho data cyflawn (2017-2023)
        Cyfraddau ymateb (2017-2023)
        Canllaw defnyddiwr dangosfwrdd (2017-2023)

Negeseuon Allweddol

 

Gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff 
  • Yn 2023, roedd canran y plant a oedd yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol wedi codi’n ôl i’r lefelau a welwyd ddiwethaf yn 2017; bodlonodd 23% o fechgyn ac 14% o ferched y canllawiau. Er bod hyn i'w groesawu, golyga hyn fod mwyafrif helaeth o blant yn dal i fethu cyrraedd y lefelau a argymhellir. 

  • Mae gweithgarwch corfforol yn tueddu i ddirywio gydag oedran/blwyddyn ysgol. 

  • Yn 2023, roedd 45% o blant a oedd yn byw mewn cartrefi cyfoeth uchel yn cymryd rhan mewn ymarfer corff egnïol y tu allan i oriau ysgol o leiaf 4 gwaith yr wythnos tra oedd 32% o blant a oedd yn byw mewn cartrefi cyfoeth isel yn cymryd rhan yn yr un math o ymarfer corff.

  • Yn gyffredinol, roedd bwlch mawr rhwng y ganran o fechgyn a merched a oedd yn cymryd rhan mewn ymarfer corff y tu allan i'r ysgol, sef 49% a 31% yn y drefn honno.

 

Bwlio 
  • Mae tueddiadau diweddar yn dangos cynnydd mewn bwlio ymhlith pobl iau:

    • Yn 2021 roedd “Bwlio eraill” yn 15%, o gymharu â 19% yn 2023. 

    • Roedd adroddiadau o “Wedi cael eich bwlio” yn 32% yn 2021 ac wedi cynyddu i 38% yn 2023. 

    • Adroddwyd bod seiberfwlio yn 18% yn 2021, o gymharu â 21% yn 2023.  

  • Mae hyn yn cyd-fynd ag ymdeimlad cynyddol o ynysigrwydd cymdeithasol, gan fod llai o bobl ifanc yn teimlo y gallant ddibynnu ar eu ffrindiau. Yn 2023, dim ond 61% oedd yn dweud y gallent ddibynnu ar eu ffrindiau, o gymharu â 67% yn 2017. 

 

Llesiant Meddyliol
  •  Roedd y duedd ar i fyny rhwng 2019 a 2023 mewn sgorau uwch yn yr Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ) sy’n mesur problemau a chryfderau seicolegol. Roedd gwahaniaethau nodedig rhwng y rhywiau. Mae sgôr gyffredinol uwch yn dynodi iechyd meddwl gwaeth. 

  • Yn 2023, sgoriodd 42% o fenywod yn uchel neu’n uchel iawn o gymharu â 27% o wrywod. Merched ym mlynyddoedd 9 a 10 sy'n dangos y sgorau uchaf ar draws yr holl grwpiau blwyddyn.

 

Ffrwythau a Llysiau 
  • Mae'r bwlch anghydraddoldeb rhwng myfyrwyr sy'n dweud eu bod yn bwyta o leiaf un dogn o ffrwythau neu lysiau'r dydd yn ôl graddfa cyfoeth teuluol yn ehangu dros amser. Yn 2023, dywedodd 53% o fyfyrwyr o deuluoedd cyfoeth uchel eu bod yn bwyta o leiaf un dogn o ffrwythau neu lysiau bob dydd o gymharu â 36% o deuluoedd cyfoeth isel.

  • Mae tuedd gyffredinol yn y grwpiau blwyddyn iau sy'n nodi bod canran uwch o ffrwythau neu lysiau'n cael eu bwyta o gymharu â grwpiau blwyddyn hŷn. Yn 2023, dywedodd 50% o flwyddyn 7 eu bod wedi bwyta un dogn o gymharu â 44% o ddisgyblion blwyddyn 11. 

 

Bywyd ysgol 
  • Mae’r duedd ar i fyny, yn enwedig ar gyfer merched sy'n teimlo llawer o bwysau oherwydd gwaith ysgol yng Nghymru. Yn 2017, dywedodd 28% eu bod wedi profi’r pwysau hwn, gan godi i 36% yn 2023.  

  • Mae myfyrwyr sy'n teimlo'n anhapus, yn bryderus neu'n methu ag ymdopi yn adrodd am ostyngiad yn y cymorth yn yr ysgol ar hyd y blynyddoedd. Yn 2017, dywedodd 73% o fyfyrwyr eu bod wedi cael cymorth ysgol, gan ostwng i 59% yn 2023. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi’u diweddaru ar iechyd a lles plant oed ysgol uwchradd yng Nghymru. 


Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y diweddariad hwn yn rhoi dealltwriaeth bellach o iechyd a lles plant ysgolion uwchradd ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol a gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n effeithio'n gadarnhaol ar bobl ifanc. Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys 38 o bynciau gwahanol ar gyfer pedair blynedd yr arolwg (2017, 2019, 2021 a 2023). Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â rhywedd, oedran, grŵp blwyddyn, cyfoeth teuluol a lefelau daearyddol gwahanol.


Daw'r dangosfwrdd gyda lawrlwythiad data llawn sy'n cynnwys nifer y myfyrwyr a ymatebodd i'r cwestiwn a chyfanswm y myfyrwyr a holwyd. Mae hefyd yn cynnwys lawrlwythiad ar gyfer cyfraddau gwahardd ac ymateb. Mae’r siartiau a grëwyd o fewn y dangosfwrdd i gyd ar gael i’w lawrlwytho ynghyd â thablau data sy’n cyd-fynd â nhw. Bydd y rhain yn disodli’r Adroddiad Cenedlaethol o 2023 ymlaen a gyhoeddwyd yn flaenorol gan DECIPHer.  Mae'r dangosfwrdd wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn cynnwys dangosyddion a dadansoddiadau ychwanegol yn y dyfodol. Gweler y ddogfen diweddariadau arfaethedig am ragor o wybodaeth.  Gweler yr adran amserlenni cyhoeddi arfaethedig isod am ragor o wybodaeth.


I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ewch i wefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).  I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r dangosfwrdd, gweler y canllaw defnyddiwr.

 

Adborth

Rydym bob amser eisiau gwella’r cynnyrch yr ydym yn eu creu er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni e-bost.

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ddangosfwrdd Data'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Mae'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG). Mae WCAG yn cael ei derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyrraedd lefel gydymffurfio 'AA' gyda WCAG; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydymffurfio â lefel 'A' yn cael ei dilyn fel isafswm.

Mae nodwedd cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Gall fod gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Cymraeg/Saesneg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblem hygyrchedd ar y safle hwn neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni..

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 3, cyhoeddwyd 17/10/2024
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • Efallai na fydd rhannau o rai tudalennau yn gweithio'n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
  • Mae rhai dewislenni nad ydynt yn gwbl hygyrch
  • Mae rhai botymau a dolenni nad oes ganddynt ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau na ellir eu defnyddio'n llawn gyda'r bysellfwrdd
  • Mae eitemau dewislen eilaidd yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • Mae lawrlwytho data llawn yn hygyrch ond nid yw lawrlwythiadau data penodol yn

Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel dogfen hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni i ddechrau a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.  Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.2, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.  

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 3, cyhoeddwyd 17/10/2024


Er ein bod yn ceisio bodloni ‘WCAG 2.2 AA’ ar hyn o bryd mae gennym y materion canlynol o ran diffyg cydymffurfio:
1.3 Addasadwy

1.3.5 Nodi Diben Mewnbwn

1.4 Gwahaniaethol

1.4.1 Defnydd o Liw

1.4.5 Delweddau o destun

1.4.13 Cynnwys ar Hover neu Focus

2.1 Mynediad trwy Fysellfwrdd

2.1.1 Bysellfwrdd

2.4 Llywiadwy

2.4.3 Trefn Ffocws

2.4.4 Diben Dolen

2.4.6 Penawdau a Labeli

2.3.13 Ymddangosiad Ffocws

3.1 Darllenadwy

          3.1.1 Iaith y dudalen

4.1 Cydnaws

4.1.1 Parsing (wedi darfod a dileu)

4.1.2 Enw, Rôl a Gwerth

4.1.3 Negeseuon Statws

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Hydref 2024. Caiff ei adolygu ym mis Hydref 2025. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Hydref 2024 gennym ni gan ddefnyddio Mewnwelediadau Hygyrchedd FastPass ar gyfer ehangu’r We.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2024

Yn ystod mis Hydref 2024 byddwn yn cyhoeddi data 2023 ar gyfer newidynnau presennol ar y dangosfwrdd:

  • Brecwast yn ystod yr wythnos
  • Bwyta ffrwythau a llysiau
  • Diodydd siwgr
  • Diodydd egni
  • Dwr
  • Gweithgarwch corfforol
  • Teithio llesol i'r ysgol
  • Ymarfer corff
  • Amser ar eu heistedd
  • Lles meddyliol
  • Sogriau lles meddyliol
  • Amswer gwely
  • Defnyddio sgrin yn hwyr y nos
  • Boddhad a bywyd
  • Ysmygu'n wythnosol
  • Ysmgu - ddim yn rheolaidd
  • Yfed alcohol
  • Wedi cael cynnig canabis
  • Canabis diweddar
  • Sylweddau seicoweithredol newydd
  • Cyfathrach rywiol
  • Atal cenhedlu - condom
  • Atal cenhedlu y bilsen
  • Teimlo bod athrawon yn poeni amdanynt
  • Syniadau myfyrwyr yn cael eu trin o ddifrif yn yr ysgol
  • Dan bwysau yn yr ysgol
  • Cymorth iechyd meddwl yn yr ysgol
  • Gallu dibynnu ar ffrindiau
  • Bwlio - cyflawni
  • Bwlio - erledigaeth
  • Seiberfwlio - erledigaeth
  • Anfon delwedd amlwg rhywiol
  • Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiadau pellach o atebion 'Nid yw'r naill air na'r llall yn fy nisgrifio', rhywedd a grŵp Blwyddyn 
  • Ychwanegu cyfanswm allbwn deuaidd SDQ 2019, 2021, 2023 a'i ddadansoddiadau: problemau emosiynol, problemau ymddygiad, gorfywiogrwydd, problemau cyfoedion, ymddygiad rhag-gymdeithasol (dim data ar gyfer 2017)

 

Dyddiad cyhoeddi drafft: Mawrth/Ebrill (tbc) 2025

Yn y cam nesaf byddwn yn cyhoeddi data 2023 yn unig ar gyfer y dangosyddion “newydd” a ganlyn (i’w cyhoeddi o bosib ym mis Mawrth/Ebrill 2025):

  • Trio e-sigarets
  • Mynychder anhwylderau: Teimlo'n isel
  • Mynychder anhwylderau: Anniddigrwydd neu dymer ddrwg
  • Mynychder anhwylderau: Teimlo'n nerfus
  • Mynychder anhwylderau: Trafferth mynd i gysgu
  • Mae mynychder anhwylderau yn cyfuno 2 neu fwy o'r uchod
  • Teimlo’n unig yn ystod y gwyliau haf 
  • Arferion bwyta - Melysion
  • Oedran ysmygu sigarét am y tro cyntaf  (Blwyddyn 11: dan 13 oed)
  • Defnyddio e-sigaréts yn wythnosol ar hyn o bryd
  • Defnyddio e-sigaréts yn ddyddiol ar hyn o bryd
  • Oedran defnyddio e-sigarét am y tro cyntaf (Blwyddyn 11: dan 13 oed)
  • Oedran yfed alcohol am y tro cyntaf (Blwyddyn 11: dan 13 oed)
  • Oedran meddwi am y tro cyntaf  (Blwyddyn 11: dan 13 oed)
  • Canran y plant sydd â dau ymddygiad iechyd neu fwy
  • Oedran defnyddio canabis am y tro cyntaf (Blwyddyn 11: dan 13 oed)
  • Wedi gamblo yn ystod y 7 diwrnod diwethaf
  • Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC) (yn amodol ar nifer yr ymatebion)
  • Atal cenhedlu brys (yn amodol ar nifer yr ymatebion)
  • Dull atal cenhedlu arall (yn amodol ar nifer yr ymatebion)
  • Oedran cael rhyw am y tro cyntaf (Blwyddyn 11: dan 13 oed)
  • Cyfranogiad yn yr ysgol - syniadau’n cael eu trin o ddifrif
  • Cyfranogiad yn yr ysgol - cynllunio
  • Cyfranogiad yn yr ysgol - cyfleoedd i benderfynu
  • Cyfranogiad yn yr ysgol - perthyn
  • Cael fy nerbyn gan athro
  • Athrawon yn ymddiried ynof i
  • Athro i siarad ag ef
  • Wedi seiberfwlio rhywun
  • Defnydd problemus o’r cyfryngau cymdeithasol (sgôr uwch na 6)
 
Dyddiad cyhoeddi drafft: Haf (tbc) 2025

Yn y cam nesaf byddwn yn cyhoeddi data 2023 yn unig ar gyfer y dangosyddion “newydd” canlynol (cyhoeddiad posibl ym mis Haf 2025):

  • Oedran ysmygu sigarét am y tro cyntaf - ystod o oedrannau
  • Oedran defnyddio e-sigarét am y tro cyntaf - ystod o oedrannau
  • Oedran yfed alcohol am y tro cyntaf - ystod o oedrannau
  • Oedran meddwi am y tro cyntaf - ystod o oedrannau
  • Oedran defnyddio canabis am y tro cyntaf - ystod o oedrannau
  • Oedran cael rhyw am y tro cyntaf -  ystod o oedrannau
  • Teimlo am yr ysgol (yn ei hoffi yn fawr)
  • Ffrindiau - yn fy helpu i*
  • Ffrindiau - rhannu’r llon a’r lleddf*
  • Ffrindiau - siarad am fy mhroblemau*
  • Defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol (graddfa anhwylder cyfryngau cymdeithasol)
  • Cymorth gan y teulu - cymorth emosiynol
  • Cymorth gan y teulu - yn ceisio helpu
  • Cymorth gan y teulu - siarad am broblemau
  • Cymorth gan y teulu - parod i helpu i wneud penderfyniadau
  • Pob ymateb i’r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ) (cyfanswm sgôr)
  • Pob ymateb i’r SDQ (sgôr graddfa problemau emosiynol)
  • Pob ymateb i’r SDQ (sgôr graddfa problemau ymddygiad)
  • Pob ymateb i’r SDQ (sgôr graddfa gorfywiogrwydd)
  • Pob ymateb i’r SDQ (sgôr graddfa problemau cyfoedion)
  • Pob ymateb i’r SDQ (sgôr graddfa ymddygiad rhag-gymdeithasol)
  • Ffynonellau sigaréts
  • Ffynonellau e-sigaréts
  • Teimlo am yr ysgol (pob ymateb)
  • Chwarae triwant o’r ysgol
  • Gwaharddiad o'r ysgol
  • Cyswllt ar-lein
  • Cynnwys dadansoddiad ar ethnigrwydd ar gyfer data 2023 yn unig
 
Dyddiad cyhoeddi drafft: Haf 2025
  • Byddem wedyn yn gobeithio ehangu rhai o’r dangosyddion mwy newydd gyda data hanesyddol lle bo’n bosibl (i’w gyhoeddi o bosibl yn ystod Haf 2025?)