Neidio i'r prif gynnwy

Awduron: Rhys Powell, Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk 

Diolch yn fawr am ddarparu tystiolaeth a sylwadau ychwanegol i: Clare Withey, Scott Wright, Llion Davies, Louisa Nolan, Nathan Lester, Rhian Hughes, Amrita Jesura, Rachel Lewis, Nicholas Gregory, Kevin Conway, Tracey Williams, Matt Kearney, Stephen Davies, Jaime Valentime, Sarah Davies, Zoe Wallace, Sarah Jones, Ilona Johnson, Julie Bishop

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2025

1. Pwrpas

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar glefydau cardiofasgwlaidd. Mae’n cynnwys:

  • Amcanestyniadau newydd o glefydau cardiofasgwlaidd a ffactorau risg clinigol hyd 2033/34
  • Trafodaeth o’r ffactorau risg sy’n sail i’r amcanestyniadau hyn
  • Effaith clefydau cardiofasgwlaidd ar y GIG
  • Crynodeb o waith y system iechyd i fynd i’r afael â chyffredinrwydd clefydau cardiofasgwlaidd a chanlyniadau iechyd.

Yr erthygl hon yw’r bedwaredd yn ein cyfres sy’n edrych ar dueddiadau ac amcanestyniadau ar gyfer rhai o’r clefydau anhrosglwyddadwy mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Mae clefydau cardiofasgwlaidd yn cynnwys nifer o glefydau sy’n effeithio ar y galon neu ar bibellau gwaed, ac mae’n un o’r prif achosion o farwolaeth ac anabledd yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn ymwneud â’r clefydau cardiofasgwlaidd a’r ffactorau risg y mae gennym ddata ar eu cyfer. Ar gyfer rhai agweddau ar glefydau cardiofasgwlaidd, nid oes data ar gael i’n dadansoddiad. Mae’r erthygl hefyd yn rhestru rhai o’r gwasanaethau, y rhaglenni, y gwasanaethau atal a’r ddeddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â chlefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru.

Rydyn ni’n rhag-weld y bydd y gyfres hon o erthyglau yn ddefnyddiol i bobl sy’n cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn amcanestyniadau o glefydau a’u ffactorau risg sylfaenol. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i bobl sydd â diddordeb mewn gwybod beth rydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â chlefydau cardiofasgwlaidd.

Mae modd llwytho i lawr yr holl ddata o’r erthygl hon, yn ogystal â rhywfaint o ddadansoddiadau ychwanegol.

Mae’r erthyglau yn y gyfres yn cynnwys:

2. Penawdau 

  • Clefydau cardiofasgwlaidd yw un o brif achosion marwolaethau yng Nghymru. Clefyd isgemia’r galon oedd prif achos marwolaethau yn 2022 (3,922 o farwolaethau) (Marwolaethau wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr, 2014 - 2023, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
  • Mae’r marwolaethau y gellir eu hosgoi yn sgil clefydau’r system gylchredol wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf i 79.3 fesul 100,000 yn 2021-23, yn dilyn tueddiad gostyngol parhaus (Amcanestyniadau Canol-blwyddyn Marwolaethau, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
  • Mae nifer y cleifion ar gofrestrau clefydau ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd a ffactorau risg cardiofasgwlaidd wedi cynyddu dros y 13 mlynedd ddiwethaf (Y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 - 2018/19, Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd 2019/20 – 2023/24, Llywodraeth Cymru).
  • Bydd modd priodoli’n rhannol y cynnydd yn nifer yr achosion i boblogaeth sy’n heneiddio ac i welliannau yn y gwaith canfod o ganlyniad i’r cymhellion ariannol ar gyfer data cywir fel rhan o’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau.
  • Roedd symud i'r Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd yn 2019/20 wedi cael gwared ar y cymhellion hyn. Mae'n bosib bod tynnu'r cymhellion hyn wedi arwain at leihau safon yr adrodd (Davies et al., 2025).
  • Pwysedd gwaed uchel yw un o’r ffactorau risg clinigol mwyaf cyffredin. Yn ôl yr amcanestyniadau, bydd nifer y bobl ar y gofrestr pwysedd gwaed uchel yn cynyddu o 529,300 yn 2023/24 i 565,900 yn 2033/34. Mae’r ffigurau hyn yn cyfateb i ychydig dros un o bob chwe pherson, cynnydd o 7%. Mae hyn yn dilyn cynnydd o 11% rhwng 2009/10 a 2023/24.
  • Mae rheoli clefydau cardiofasgwlaidd yn well drwy bresgripsiynau fel statinau wedi gwella canlyniadau iechyd, gan gynnwys cyfraddau marwolaethau a derbyniadau brys is. Mae’r gwelliannau hyn wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae arwyddion bod y duedd yn gwrthdroi.
  • Mae’n bosib y gellir priodoli’r arafu hwn i ddiffyg gwelliant, a chynnydd mewn rhai achosion, yn y ffactorau risg allweddol, fel byw gyda gordewdra, sydd wedi cynyddu 44% ymysg oedolion dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru).
  • Roedd astudiaeth ar glefydau cardiofasgwlaidd a gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol gan Bray et al. yn 2018 wedi canfod bod clefydau cardiofasgwlaidd yn un o brif sbardunau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd yn Lloegr. Roedd gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol eang i’w gweld yn fwyaf amlwg yn y risg o orfod mynd i’r ysbyty a’r gyfradd marwolaethau ar ôl strôc, ac i raddau llai, yn ansawdd gofal iechyd (Bray et al., 2018).
  • Yn 2021, roedd y cyfraddau derbyniadau brys Ewropeaidd wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer clefydau’r galon a’r system gylchredol tua 57% yn uwch ymysg y rhai yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf na’r ardaloedd o amddifadedd isaf (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

 

3. Cynnwys

1. Pwrpas. 1

2. Penawdau. 2

3. Cynnwys. 3

4. Trosolwg. 5

5. Cyffredinrwydd ac amcanestyniadau. 6

    5.1 Cyffredinrwydd hanesyddol 6

    5.2 Amcanestyniadau. 7

    5.3 Demograffeg. 9

6. Derbyniadau. 11

7. Marwolaethau. 14

8. Cost 17

9. Ffactorau risg. 18

    9.1 Ffibriliad Atrïaidd. 19

    9.2 Pwysedd Gwaed Uchel 19

    9.3 Colesterol 19

    9.4 Diabetes. 19

    9.5 Ffactorau ymddygiadol, penderfynyddion ehangach a ffactorau anaddasadwy fel ethnigrwydd 

        9.5.1 Ymddygiadau iachus. 20

        9.5.2 Gordewdra. 20 

        9.5.3 Ysmygu. 21

        9.5.4 Yfed alcohol 21

        9.5.5 Amddifadedd. 21

        9.5.6 Factor risg anaddasadwy. 21

    9.6 Ansawdd aer

    9.7 Argaeledd data. 25

10. Beth sy’n Gallu Gweithio. 26

11. Trosolwg o wasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau atal a deddfwriaeth yng Nghymru. 27

    11.1 Strategaethau a Deddfwriaeth. 27 

    11.2 Gwasanaethau cymorth ar gyfer ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd. 27

        11.2.1 Archwiliadau Iechyd. 27

        11.2.2 Optimeiddio triniaeth ar gyfer ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd. 27

    11.3 Gwasanaethau cymorth ar gyfer ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd. 28

12. Casglu a dehongli data. 29

    12.1 Pandemig COVID-19. 29

    12.2 Data cyffredinrwydd. 29

    12.3 Dulliau’r amcanestyniadau. 29

    12.4 Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru. 30

    12.5 Data arolygon sy’n cael ei hunan-gofnodi 30

    12.6 Arolwg Iechyd Cymru. 30

    12.7 Arolwg Cenedlaethol Cymru. 30

    12.8 Rhaglen Mesur Plant Cymru. 31

    12.9 Ansawdd aer. 31

    12.10 Presgripsiynau. 32

13. Llwytho’r data i lawr. 33

    13.1 Gellir llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon – Excel 33

    13.2 Llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV

    13.3 Lawrlwythwch ddata ffactorau risg gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV


4. Trosolwg

Mae nifer yr achosion o glefydau cardiofasgwlaidd a ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd wedi cynyddu dros amser. Yn rhannol, mae hyn o ganlyniad i boblogaeth Cymru sy’n heneiddio a gwella’r gwaith canfod. Ychydig yw’r arwydd bod ffactorau risg y gellir eu haddasu, fel deiet gwael ac anweithgarwch corfforol, wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, a allai fod yn cyfrannu at y cynnydd yn nifer yr achosion hefyd.

Mae rheoli clefydau cardiofasgwlaidd yn well wedi gwella canlyniadau iechyd, fel cyfraddau marwolaethau a derbyniadau brys is. Er hyn, clefydau cardiofasgwlaidd yw un o brif achosion marwolaethau yng Nghymru o hyd. Ers 2002-04, roedd marwolaethau y gellir eu hosgoi o ganlyniad i glefydau’r system gylchredol wedi bod yn gostwng. Ond maen nhw wedi bod yn cynyddu’n raddol ers 2018-20. Mae gwella’r gwaith o drin a rheoli clefydau cardiofasgwlaidd wedi arwain at ostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau, ond efallai fod cynnydd yng nghyffredinrwydd ffactorau risg, fel byw gyda gordewdra, yn dad-wneud y gwelliannau hyn i’r gyfradd marwolaethau.

Mae bwlch sylweddol a pharhaus yng nghyfraddau marwolaethau a derbyniadau clefydau cardiofasgwlaidd rhwng pobl sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf a’r ardaloedd o amddifadedd isaf yng Nghymru. Caiff hyn ei adlewyrchu hefyd yng nghyffredinrwydd ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd, fel pwysedd gwaed uchel a byw gyda gordewdra. Yfed alcohol yw’r unig eithriad yn hyn o beth. Ond er bod unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf yn yfed llai o alcohol o bosib, maen nhw’n dueddol o ddioddef canlyniadau iechyd gwaeth mewn cysylltiad ag alcohol (Lewer et al., 2016). 

Mae bylchau yn y gwaith casglu data perthnasol, er enghraifft lefelau lipidau ac optimeiddio pwysedd gwaed. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach monitro tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, mesur effaith ymyriadau a rheoli clefydau cardiofasgwlaidd ar raddfa eang.

Er bod y gwaith o ganfod a rheoli clefydau cardiofasgwlaidd wedi gwella, atal yw’r nod yn y pen draw o hyd. Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn eirioli dros ymyriadau atal sylfaenol, er enghraifft Pwysau Iach: Cymru Iach ac ymyriadau atal eilaidd, er enghraifft yr ymgyrch Atal Strôc, fel ymyriadau pwysig, sy’n cefnogi ei gilydd, ar gyfer mynd i’r afael â chlefydau cardiofasgwlaidd.

Dychwelyd i'r cynnwys


5. Cyffredinrwydd ac amcanestyniadau

5.1 Cyffredinrwydd hanesyddol

Mae ein dadansoddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar nifer yr achosion. Rydyn ni wedi dewis niferoedd oherwydd dyma’r mesur data mwyaf cyson sydd ar gael i ni dros gyfnod digon hir i ganiatáu amcanestyniadau. Nid yw cynnydd yn nifer yr achosion o reidrwydd yn golygu cynnydd yng nghyfradd yr achosion, oherwydd gallai cyfanswm y boblogaeth gynyddu hefyd.

Mae cyffredinrwydd yn fesur sy’n edrych ar sawl achos hysbys o glefyd sy’n bodoli yn y boblogaeth ar unrhyw un adeg. Fel y dangosir yn ein herthygl cyffredinrwydd ac amcanestyniadau, mae nifer yr achosion o glefydau cardiofasgwlaidd wedi bod yn cynyddu dros yr 13 mlynedd ddiwethaf (Tabl 1). Mae’r cynnydd hwn i’w ddisgwyl o ganlyniad i boblogaeth Cymru sy’n heneiddio a gwella’r gwaith canfod, ond efallai fod ffactorau risg eraill, fel byw gyda gordewdra, wedi cyfrannu hefyd. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer ffibriliad atrïaidd, lle mae amlafiachedd yn ffactor hefyd.

Nifer y cleifion ar gofrestrau sy’n gysylltiedig â chlefydau cardiofasgwlaidd, a’r newid rhwng 2009/10 a 2023/24 

Mesur Cyflwr Nifer yn 2009/10 Nifer yn 2023/24 Cynnydd canrannol
Clefydau cardiofasgwlaidd Methiant y galon  28,500 42,500 49%
Clefydau cardiofasgwlaidd Strôc/Trawiad Isgemig Byrhoedlog 64,100 72,400 13%
Ffactor risg clinigol Pwysedd gwaed uchel  478,000 529,300 11%
Ffactor risg clinigol Ffibriliad atrïaidd  53,400 84,900 59%

Tabl 1: Mae nifer y cleifion ar gofrestrau clefydau cardiofasgwlaidd wedi cynyddu dros amser, a’r nifer ar y gofrestr methiant y galon wedi dyblu bron. Mae’r cynnydd hwn i’w ddisgwyl o ganlyniad i boblogaeth Cymru sy’n heneiddio a gwella’r gwaith canfod, ond bydd ffactorau risg eraill, fel byw gyda gordewdra, yn cyfrannu hefyd. Mae’r canrannau wedi cael eu talgrynnu i’r cyfanrif agosaf a’r niferoedd i’r cant agosaf. (Y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru). 

Mae Tabl 2 yn dangos cyfradd yr achosion o glefydau cardiofasgwlaidd a ffactorau risg clinigol. Mae’r rhain wedi aros yn sefydlog neu wedi cynyddu’n raddol ers 2019/20. Mae ffibriliad atrïaidd, methiant y galon a phwysedd gwaed uchel i gyd yn fwy cyffredin yn 2023/24 nag yr oeddent yn 2019/20. Mae cyfradd yr achosion o strôc a thrawiad isgemia byrhoedlog (TIA neu ‘fân’ strôc) wedi aros yr un fath (Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).  

 

Cyfradd yr achosion ar gofrestrau clefydau cardiofasgwlaidd, 2019/20 i 2023/24 

Mesur Cyflwr Cyfradd yr achosion yn 2019/20 Cyfradd yr achosion yn 2023/24
Clefydau cardiofasgwlaidd Methiant y galon  1.1 1.3
Clefydau cardiofasgwlaidd Strôc/Trawiad Isgemig Byrhoedlog 2.2 2.2
Ffactor risg clinigol Pwysedd gwaed uchel  15.9 16.0
Ffactor risg clinigol Ffibriliad atrïaidd  2.4 2.6

Tabl 2: Mae cyfradd yr achosion (fel canran) wedi aros yn sefydlog neu wedi cynyddu ychydig dros y blynyddoedd diwethaf. (Y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru). 

 

Dylid nodi, efallai fod pwysedd gwaed uchel cleifion ar y gofrestr risg glinigol yn cael ei reoli ar lefel ddiogel drwy driniaeth. Os felly, byddant yn aros ar y gofrestr ac yn cael adolygiad blynyddol, ond bydd y driniaeth wedi lleihau eu risg o glefyd cardiofasgwlaidd.

Er mai dim ond cyfradd yr achosion sy’n cynrychioli’r gwir gyffredinrwydd gan eu bod yn ystyried maint y boblogaeth, mae nifer yr achosion yn dal yn ddefnyddiol. Bydd nifer yr achosion yn dangos yr effaith ar y system, lle bydd cyfradd yr achosion yn dangos a yw'r sefyllfa’n gwaethygu ar gyfartaledd. Mae strociau a thrawiadau isgemig byrhoedlog yn enghraifft dda o hyn. Ers 2019/20, mae cyfradd yr achosion wedi aros yr un fath, 2.2%. Yn yr un cyfnod, mae 2,000 yn rhagor o bobl ar y gofrestr. Mae’r niferoedd ar gael o 2009/10 drwy’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau a than 2019/20 drwy’r Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd. Dim ond ers 2019/20 mae’r cyfraddau ar gael, a hynny drwy’r Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd. Mae rhywfaint o ddadansoddi wedi’i safoni yn ôl oedran ar gael yn ein dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol

Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli cofrestrau gofal sylfaenol oherwydd efallai na fydd y cynnydd yn deillio o newid gwirioneddol yng nghyfradd yr achosion bob amser. Wrth i feddyginiaeth ddatblygu, efallai y caiff dulliau gwell o ganfod eu datblygu, gan arwain at wella’r gwaith canfod yn hytrach na chynnydd gwirioneddol.

Ar y llaw arall, pan gafodd y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ei ddisodli gan y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd yn 2019/20, efallai fod newid contractau casglu data mewn gofal sylfaenol wedi arwain at newid ansawdd data. Yn benodol, tangyfrif data oherwydd codio o ansawdd is (Davies et al., 2025). Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd y newidiadau’n rhai bach, oherwydd ni ellir bod yn gwbl sicr a yw’n cynrychioli newid gwirioneddol neu’n deillio o newid yn y broses casglu data. Mae tangyfrif o wir nifer y bobl sy’n byw gyda chlefydau neu ffactorau risg cardiofasgwlaidd yn debygol hefyd, oherwydd efallai na fydd pawb wedi cael diagnosis.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5.2 Amcanestyniadau

Rydyn ni wedi llunio amcanestyniadau o ddata’r gofrestr mewn 10 mlynedd, o’n pwynt data diwethaf (Ebrill 2024), i amcangyfrif y niferoedd yn 2033/34. Nid ydym yn disgwyl i’r amcanestyniadau hyn fod yn fanwl gywir. Yn hytrach, maen nhw’n dangos y trywydd tebygol os na fydd unrhyw beth yn newid yn y cyfamser. Er enghraifft, efallai y byddai disgwyl i ymyriad iechyd, polisi neu ddeddfwriaethol sydd wedi’i anelu at leihau ymddygiadau nad ydynt yn iach, fel gwaharddiad ar ysmygu, ostwng y niferoedd sy’n cael eu hamcangyfrif. Mae rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu ar gael yn adran 12, neu gallwch gysylltu â ni ar Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk 

 

Amcanestyniad o’r newid yn nifer y cleifion ar gofrestrau clefydau cardiofasgwlaidd penodol 2023/24 i 2033/34

Mesur Cyflwr Amcanestyniad o'r nifer yn 2033/34 Cynnydd canrannol 
Clefydau cardiofasgwlaidd Methiant y galon  61,800 46%
Clefydau cardiofasgwlaidd Strôc/Trawiad Isgemig Byrhoedlog 78,400 8%
Ffactor risg clinigol Pwysedd gwaed uchel  565,900 7%
Ffactor risg clinigol Ffibriliad atrïaidd  106,900 26%

Tabl 3: Tabl sy’n dangos cofrestrau clefydau cardiofasgwlaidd a’r amcanestyniad o’r newid mewn nifer, a’r newid canrannol mae hyn yn ei gynrychioli. Mae disgwyl i’r niferoedd ar yr holl gofrestrau gynyddu rhwng y data diwethaf, 2023/24, a 2033/34. Mae’r canrannau wedi cael eu talgrynnu i’r cyfanrif agosaf a’r niferoedd i’r cant agosaf. (Y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

 

Fel y dangosir yn Nhabl 3, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau ac ni chaiff unrhyw gamau gweithredu ychwanegol eu cymryd i leihau nifer yr achosion o’r clefydau hyn a’r ffactorau risg, byddant yn parhau i gynyddu dros y 10 mlynedd nesaf.

Pwysedd gwaed uchel, sy’n ffactor risg clinigol, yw’r gofrestr â’r nifer uchaf o bobl arni (Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd). Mae pwysedd gwaed uchel yn ffactor risg cardiofasgwlaidd sylweddol sy’n gysylltiedig â chynnydd mewn clefyd isgemia’r galon, damweiniau serebrofasgwlaidd a methiant y galon. Mae cyfradd yr achosion o bwysedd gwaed uchel wedi cynyddu ers 2019/20, er yn raddol, i 16% yn 2023/24. Mae ein hamcanestyniadau’n dangos y bydd hyn yn parhau i gynyddu i tua 565,900 o bobl erbyn 2033/34 (Ffigur 1). Mae cynnydd o ychydig dros 51,200 o bobl yn ystod y 15 mlynedd ers 2009/10 (Tabl 1) a chynnydd bach yng nghyfradd yr achosion rhwng 2019/20 a 2023/24 (Tabl 2). Bydd y boblogaeth sy’n heneiddio yn rhannol gyfrifol am y cynnydd hwn. Fodd bynnag, bydd y cynnydd parhaus yng nghyffredinrwydd ffactorau risg fel gordewdra yn debygol o fod wedi cyfrannu hefyd.

Nifer y cleifion a welwyd ar y gofrestr pwysedd gwaed uchel (2009/10 i 2023/24) ac amcanestyniad o’r nifer (2024/25 i 2033/34)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 1: Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru â phwysedd gwaed uchel yn parhau i gynyddu, ond yn raddol. Rhagolwg cyfres amser (model ARIMA) wedi’i hyfforddi ar y niferoedd a welwyd (Y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5.3 Demograffeg

Yn gyffredinol, mae clefydau a ffactorau risg clinigol cardiofasgwlaidd yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn (dros 70 oed), ond mae pwysedd gwaed uchel i’w weld ymysg pobl iau hefyd (Ffigur 2). Mae clefydau a ffactorau risg clinigol cardiofasgwlaidd yn fwy cyffredin ymysg dynion, ac eithrio pwysedd gwaed uchel. (Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd, 2023/24, Llywodraeth Cymru).

Gan fod poblogaeth Cymru yn heneiddio, bydd cynnydd yn nifer yr achosion wrth i’r boblogaeth gyrraedd yr oedrannau y mae pwysedd gwaed uchel yn effeithio arnynt fwyaf. Mae’r ffaith bod y gyfradd genedigaethau yn gostwng yn golygu ei bod hi’n debygol y bydd llai o bobl yn datblygu cyflyrau oherwydd eu hoedran yn y dyfodol. Pe bai popeth arall yn aros yr un fath o ran ffactorau risg neu fesurau gwella, yn y pen draw byddem yn dechrau gweld y niferoedd yn gostwng, ond nid y gyfradd o reidrwydd.

 

Pyramid poblogaeth ar gyfer cleifion ar gofrestrau clefydau a ffactorau risg cardiofasgwlaidd 2023/24, mewn canrannau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 2: Mae clefydau a ffactorau risg cardiofasgwlaidd yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn, mae pwysedd gwaed uchel yn fwy cyffredin ymysg merched, ac mae ffibriliad atrïaidd, clefyd coronaidd y galon a strôc/TIA yn fwy cyffredin ymysg dynion. (Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd, Llywodraeth Cymru).

Dychwelyd i'r cynnwys


6. Derbyniadau 

Yn gyffredinol, mae’r cyfraddau derbyniadau brys wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd yn is yn 2022/23 (943 fesul 100,000) nag yr oeddent yn 2011/12 (1,144 fesul 100,000). (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru). Un peth sy’n gyffredin ar draws pob dadansoddiad yw’r cynnydd ers 2021/22. Yn dilyn gostyngiad cyffredinol ers dechrau’r ganrif, roedd y derbyniadau wedi gostwng yn sydyn o ganlyniad i COVID-19 a’r effaith gafodd hynny ar y gwasanaethau meddygol. Ers hynny, mae’r cyfraddau wedi cynyddu ac maen nhw’n agos i’r cyfraddau derbyniadau brys cyn COVID-19, ond yn dal yn is na dechrau’r ganrif.

P’un ai ein bod yn ystyried clefydau cardiofasgwlaidd yn gyffredinol neu glefydau penodol, mae bwlch o hyd yn y cyfraddau rhwng pumedau amddifadedd uchaf ac isaf Cymru. Mae’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran yn gyson uwch yn y pumed o ardaloedd o amddifadedd uchaf yng Nghymru (Ffigur 3), er mae’r bwlch wedi lleihau ar gyfer clefyd isgemia'r galon, o wahaniaeth o 204 fesul 100,000 yn 2011/12 i 80 fesul 100,000 yn 2022/23, gostyngiad o 60%. Yn bennaf, mae hyn o ganlyniad i ostyngiadau mwy yn y pumed â’r amddifadedd uchaf yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd, a gostyngiad arbennig o fawr yn 2013/14. (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Fel y disgrifir uchod, mae clefydau cardiofasgwlaidd yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf. Nid oes un peth yn achosi anghydraddoldebau iechyd, ond cymysgedd cymhleth o ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar ymddygiadau a chanlyniadau iechyd unigolyn. Wrth ystyried clefydau cardiofasgwlaidd, bydd y cymysgedd cymhleth hwn o ffactorau nid yn unig yn cynyddu risg unigolyn o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd, ond hefyd yn effeithio ar ba mor debygol yw’r unigolyn o geisio a dilyn cynlluniau triniaeth ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd. Mae dadansoddiad gan y Kings Fund yn dangos y berthynas hon rhwng tlodi a gwasanaethau’r GIG (Y Kings Fund, 2024 ).

O ganlyniad i boblogaeth Cymru sy’n heneiddio, er y bydd mesurau wedi’u safoni yn ôl oedran yn parhau i ostwng o bosib, efallai y bydd niferoedd absoliwt a chyfraddau bras (ac felly’r effaith ar wasanaethau) yn parhau i gynyddu.

 

Derbyniadau brys ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd (I00-I99) yn ôl pumedau amddifadedd, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 3: Mae cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran y derbyniadau brys ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Er ei fod yn lleihau ar gyfer rhai cyflyrau, mae bwlch o hyd rhwng y pumedau amddifadedd uchaf ac isaf (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Fel y dangosir yn yr ystadegau demograffig ar gyfer cyffredinrwydd, mae clefydau cardiofasgwlaidd yn fwyaf cyffredin ymysg pobl hŷn. Wrth rannu yn ôl oedran, gallwn weld bod y grŵp oedran o dan 75 wedi cyfrif am tua 69% o dderbyniadau brys ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd yn 2022/23. Y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran yw 572 fesul 100,000 (Ffigur 4).

 

Derbyniadau brys ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd (I00-I99) yn ôl oedran, cyfradd oed-benodol fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 4: Mae’r derbyniadau brys ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd wedi gostwng yn gyffredinol dros amser, fodd bynnag. (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Mae cyfanrwydd codio diagnostig ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn, nid ydym yn dangos dadansoddiadau lle roedd diagnosis sylfaenol ar goll mewn dros 10% o gyfnodau derbyn.  Ar lefel genedlaethol, rydyn ni wedi eithrio Cymru yn ôl dadansoddiadau o bumedau amddifadedd ar gyfer 2023 yn unig.  Ewch i’r adran ansawdd data a dehongli am fanylion unrhyw ddadansoddiadau wedi’u heithrio o’r set ddata ehangach.  Cyfeiriwch at adran 12 am fanylion ar unrhyw ddadansoddiadau sydd wedi'u heithrio o'r set ddata ehangach.

Dychwelyd i'r cynnwys


7. Marwolaethau

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae clefydau isgemia’r galon (codau I20-I25 yr ICD-10) a chlefydau serebrofasgwlaidd (codau I60-I69 yr ICD-10) wedi bod yn ddau o brif achosion sylfaenol marwolaethau yng Nghymru yn gyson. Yn 2023, clefyd isgemia'r galon oedd achos sylfaenol 3,739 o farwolaethau, a chlefydau serebrofasgwlaidd oedd achos sylfaenol 1,804 o farwolaethau. Gyda’i gilydd, roedd y ddau grŵp clefyd cardiofasgwlaidd hyn yn cyfrif am 15% o’r holl farwolaethau yng Nghymru (Marwolaethau wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr, 2014 - 2023, y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar achos sylfaenol marwolaeth, sef y clefyd neu’r anaf, a gychwynnodd y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at farwolaeth.

Roedd y gyfradd marwolaethau wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd wedi gostwng yn gyflym ers dechrau’r ganrif, ond roedd y gostyngiad yn fwy graddol o lawer rhwng 2012 a 2019. Mae wedi cynyddu ychydig ers 2019. Mae bwlch o hyd rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf ac isaf. Mae’r gyfradd marwolaethau’n uwch yn yr ardaloedd â’r amddifadedd uchaf yn gyson – 350 fesul 100,000 yn y pumed â’r amddifadedd uchaf o’i gymharu â 197 fesul 100,000 yn y pumed â’r amddifadedd isaf. (Ffigur 5).

 

Marwolaethau o glefydau cardiofasgwlaidd (I00-I99) yn ôl pumedau amddifadedd, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 5: Marwolaethau lle mae unrhyw sôn am glefyd cardiofasgwlaidd, cyfraddau Ewropeaidd wedi’u safoni yn ôl oedran fesul 100,000. Llinell las dywyll: Pumed â'r amddifadedd isaf. Llinell las olau: Pumed â'r amddifadedd uchaf. Mae bwlch clir a chyson mewn marwolaethau rhwng y pumed â'r amddifadedd uchaf a’r pumed â'r amddifadedd isaf. Mae mwy o farwolaethau yn y pumed â'r amddifadedd uchaf. (Amcanestyniadau Canol-blwyddyn Marwolaethau, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau ag achos sylfaenol o glefyd cardiofasgwlaidd yn digwydd yn y grwpiau oedran hŷn. Yn 2023, roedd 92 o farwolaethau fesul 100,000 yn y grŵp oedran o dan 75. O ran niferoedd, roedd hyn yn 2,854 o farwolaethau allan o 8,919 – 32% o’r holl farwolaethau. (Ffigur 6).

Marwolaethau o glefydau cardiofasgwlaidd (I00-I99) yn ôl oedran, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 6:  Roedd y marwolaethau’n gostwng, ond mae’r gostyngiad wedi arafu. Ers COVID-19, mae’r marwolaethau wedi cynyddu ychydig. Gan fod y gyfradd hon wedi’i safoni yn ôl oedran, mae’r effeithiau o ganlyniad i’r boblogaeth sy’n heneiddio neu gynnydd yn y boblogaeth wedi cael eu tynnu. (Amcanestyniadau Canol-blwyddyn Marwolaethau, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Roedd y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran o farwolaethau y gellir eu hosgoi (Ffigur 7) yn sgil clefydau’r system gylchredol wedi bod yn gostwng cyn COVID-19, ond mae wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf i 79 fesul 100,000 yn 2021-23. O ran y niferoedd, roedd nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi wedi gostwng i lefel isaf o 6,445 yn 2012-14. Ers hynny, mae wedi bod yn cynyddu’n raddol, i 7,133 yn 2021-23. Mae’n glir bod y gwelliannau hyd at 2011 wedi arafu.

Marwolaethau y gellir eu hosgoi yn sgil clefydau’r system gylchredol, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 7:  Roedd marwolaethau y gellir eu hosgoi yn sgil clefydau’r system gylchredol wedi bod yn gostwng ond maen nhw wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Gan fod y gyfradd hon wedi’i safoni yn ôl oedran, mae’r effeithiau o ganlyniad i’r boblogaeth sy’n heneiddio neu gynnydd yn y boblogaeth wedi cael eu tynnu (Amcanestyniadau Canol-blwyddyn Marwolaethau, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

8. Cost

Roedd astudiaeth gan Collins et al. yn 2022 wedi dangos mai £54 biliwn yw cyfanswm y gost ariannol net cronnol cynyddrannol 10 mlynedd sy’n gysylltiedig â gwastatáu parhaus o glefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys costau gofal iechyd, costau gofal cymdeithasol, gofal anffurfiol a gwerth blynyddoedd bywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd a gollir (Collins et al., 2022).

Roedd taflen ffeithiau'r British Heart Foundation ym mis Ionawr 2025 yn amcangyfrif mai £770 miliwn yw cyfanswm gwariant GIG Cymru ar glefydau’r galon a chardiofasgwlaidd. Mae hefyd yn amcangyfrif mai £1.6 biliwn y flwyddyn yw cyfanswm y gost i economi Cymru (gan gynnwys costau marw cyn pryd, gofal hirdymor, anabledd a chostau anffurfiol) (British Heart Foundation, 2025 ).

Ers 2009/10, mae’r arian mae GIG Cymru’n ei wario ar broblemau’r system gylchredol wedi cynyddu 54%, o £459 miliwn i £706 miliwn yn 2022/23 (Cyllidebau Rhaglenni Gwariant y GIG, Llywodraeth Cymru). O’r £706 miliwn hwnnw:

  • cafodd £118 miliwn ei wario ar glefyd coronaidd y galon;
  • cafodd £133 miliwn ei wario ar glefyd serebrofasgwlaidd;
  • cafodd £455 miliwn ei wario ar broblemau eraill y system gylchredol, a allai gynnwys gwariant sy’n gysylltiedig â’r is-gategorïau uchod ond na ellir ei ddyrannu’n uniongyrchol iddynt;
  • mae £564 miliwn yn cael ei wario mewn lleoliadau gofal eilaidd, h.y. ysbytai. Mae hynny’n cyfateb i tua 80% o’r cyfanswm

Roedd cost cynhwysion net presgripsiynau a ddosbarthwyd (Ffigur 8) wedi cyrraedd uchafswm o £151 miliwn yn 2004/05, cyn gostwng i lefel isaf o £63 miliwn yn 2014/15. Ers hynny, mae wedi bod yn cynyddu’n raddol, i £103 miliwn yn 2023/24. Dros y cyfnod hwn, mae nifer yr eitemau a ddosbarthwyd wedi bod yn cynyddu, gan ddyblu bron rhwng 2001/02 a 2023/24, pan ddosbarthwyd tua 23.5 miliwn o bresgripsiynau. ( Eitemau presgripsiwn a chost yn ôl ardal a phennodau BNF, Gwasanaethau Presgripsiynu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru)   

Nifer y presgripsiynau system gardiofasgwlaidd a ddosbarthwyd a’r gost cynhwysion net rhwng 2001/02 a 2023/24

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 8: Mae nifer yr eitemau wedi’u presgripsiynu i drin a rheoli clefydau cardiofasgwlaidd wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2014/15, tua 23.5 miliwn. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cost net presgripsiynu wedi cynyddu 64%. (Gwasanaethau Presgripsiynu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9. Ffactorau risg

Gellir categoreiddio’r ffactorau risg ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd fel y rhai y gellir eu newid (addasadwy) a’r rhai na ellir eu newid (anaddasadwy), yn ogystal â ffactorau risg ymddygiadol, sy’n cael eu trafod yn fanylach yn ein herthygl ffactorau risg, a ffactorau risg clinigol. Mae ffactor risg clinigol yn ffactor risg sy’n gofyn am ryw fath o fesuriad ac asesiad clinigol. Er enghraifft, mae pwysedd gwaed uchel yn ffactor risg clinigol oherwydd mae’n rhaid i feddyg teulu fesur pwysedd gwaed unigolyn i roi diagnosis o bwysedd gwaed uchel.

Gellir categoreiddio’r ffactorau risg ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd fel a ganlyn:

Ffibriliad atrïaidd

Pwysedd gwaed

Colesterol

Diabetes

Yn ogystal â ffactorau ymddygiadol, penderfynyddion ehangach a ffactorau anaddasadwy fel ethnigrwydd ac ati.

Bydd yr adran hon yn edrych ar rai o’r ffactorau risg allweddol hyn ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd lle mae data ar gael yn rhwydd.

 

9.1 Ffibriliad Atrïaidd

Mae ffibriliad atrïaidd yn glefyd cardiofasgwlaidd ac yn ffactor risg clinigol. Dyma’r ffurf fwyaf cyffredin ar rythm annormal y galon (arrhythmia) ac mae’n un o brif achosion strôc. Mae ffibriliad atrïaidd yn ffactor sy’n cyfrannu at un o bob pum strôc yng Nghymru ac mae pobl â ffibriliad atrïaidd bum gwaith yn fwy tebygol o gael strôc na phobl eraill.

Yn 2009/10 (Tabl 1), cafodd tua 53,400 o bobl ddiagnosis o ffibriliad atrïaidd yng Nghymru. Mae hyn wedi cynyddu i 84,900 erbyn 2023/24. Mae ein hamcanestyniadau’n dangos y gallai hyn gynyddu i tua 106,900 erbyn 2033/34 (Tabl 3). Mae ffibriliad atrïaidd yn asymptomatig yn aml (Rho et al. 2005), ac felly’n mynd heb ei ganfod a’i ddiagnosio yn aml, sy’n golygu ei bod hi’n debygol bod y cyflwr yn effeithio ar filoedd yn rhagor o bobl ledled Cymru (British Heart Foundation, 2025).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.2 Pwysedd Gwaed Uchel

Mae pwysedd gwaed uchel, neu orbwysedd, yn ffactor risg clinigol a’r brif risg addasadwy ar gyfer clefydau’r galon a’r system gylchredol yng Nghymru. Mae tua hanner y trawiadau ar y galon a strociau yng Nghymru yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel. Er bod bron i 530,000 o bobl yng Nghymru ar gofrestr pwysedd gwaed uchel eu meddyg teulu (Tabl 1), amcangyfrifir bod cynifer â 220,000 o bobl heb ddiagnosis o bosib (British Heart Foundation, 2025).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.3 Colesterol

Mae lefelau colesterol, neu lipidau, uwch, yn cynyddu’r risg o glefyd y galon a strôc, ac mae’n un o brif achosion baich clefydau. Mae taflen ffeithiau’r British Heart Foundation ar glefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru yn tynnu sylw at lipidau fel ffactor risg allweddol (British Heart Foundation, 2025 ). Yn ôl yr amcangyfrifon, mae 1 o bob 5 marwolaeth o glefydau’r galon a’r system gylchredol yng Nghymru yn gysylltiedig â lipidau uchel (lipoproteinau dwysedd isel). Un ffordd o reoli risgiau a salwch sy’n gysylltiedig â lipidau gan gynnwys atal clefydau cardiofasgwlaidd, yw triniaeth addasu lipidau.

Nid yw data lipidau ar gael fel mater o drefn yng Nghymru, felly nid ydym yn gallu monitro tueddiadau mewn lefelau lipidau dros amser.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.4 Diabetes

Mae diabetes yn glefyd ynddo’i hun, ond mae’n cael ei ystyried yn yr adran ffactorau risg am resymau ymarferol. Mae cysylltiad agos rhwng diabetes a chlefydau cardiofasgwlaidd, sef yr achos mwyaf cyffredin o anabledd a marwolaeth mewn claf sydd â diabetes. Mae ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd fel byw gyda gordewdra, pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel yn gyffredin ymysg cleifion â diabetes math 2 yn aml. Mae hyn yn golygu eu bod yn wynebu risg uwch o fethiant y galon a strociau. Yn ogystal, canfu llawer o astudiaethau fecanweithiau biolegol sy'n gysylltiedig â diabetes sy'n cynyddu'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd yn annibynnol mewn cleifion â diabetes (Leon et al., 2015).

Fel y nodir yn ein herthygl cyffredinrwydd ac amcanestyniadau, ers 2009/10 mae nifer yr oedolion dros 17 oed sy’n byw gyda diabetes wedi cynyddu 45% i 222,700 yn 2023/24 (Y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2018/19, Y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd, 2021/22, Llywodraeth Cymru). 

Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, erbyn 2033/34 rydyn ni’n amcangyfrif y bydd tua 272,300 o oedolion dros 17 oed yn byw gyda diabetes – cynnydd o tua 22%. Mae rhagor o wybodaeth am ddiabetes ar gael yn ein herthygl diabetes.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.5 Ffactorau ymddygiadol, penderfynyddion ehangach a ffactorau anaddasadwy fel ethnigrwydd

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o ffactorau risg, llawer ohonynt yn cael eu trafod yn fanylach yn ein herthygl ffactorau risg. Mae nifer o'r rhain yn gysylltiedig ag ymddygiad afiach, fel byw gyda gordewdra, neu gallent arwain at ddatblygiad ffactorau risg clinigol.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.5.1 Ymddygiadau iachus

Yn gyffredinol, nid yw ymddygiadau nad ydynt yn iach fel anweithgarwch corfforol, yfed llawer o alcohol a pheidio â chael llawer o ffrwythau a llysiau wedi gwella llawer ers 2020/21 (Tabl 4), ein pwynt data cymharol cynharaf. Mae’r gwelliannau i gyffredinrwydd ysmygu wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Canran yr oedolion dros 16 oed yng Nghymru sy’n cofnodi ymddygiadau iechyd

Ymddygiad iechyd 2020-21 chwarter 4 Ion-Mawrth 2021 2022/23
Byw gyda gordewdra 24 26
Wedi bwyta dim dognau o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt 6 7
Bwytewch o leiaf 5 darn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol 31 29
Yn gorfforol actif llai na 30 munud yn ystod yr wythnos flaenorol 32 31
Yn gorfforol actif o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol 51 55
Cyfartaledd defnydd alcohol wythnosol - dim 20 17
Cyfartaledd defnydd alcohol wythnosol - uwchben y canllawiau 17 17
Ysmygwr presennol 14 13

 

Tabl 4: Ychydig iawn mae’r ymddygiadau iach wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf. Dim ond gweithgarwch corfforol ac ysmygu sydd wedi gwella. Fodd bynnag, dylid nodi nad oes unrhyw newid yn arwyddocaol yn ystadegol. Cafodd yr arolwg ei ohirio ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i COVID-19. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a welwyd, Llywodraeth Cymru) 

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.5.2 Gordewdra

Mae byw gyda gordewdra yn gallu arwain at iechyd cyffredinol gwaeth ac at gynyddu’r risg o ddatblygu ffactorau risg clinigol, fel pwysedd gwaed uchel. Yng Nghymru, mae tua 1 o bob 9 clefyd y galon a’r system gylchredol yn gysylltiedig â mynegai màs y corff (BMI) uchel (British Heart Foundation, 2025).

Er nad yw clefydau cardiofasgwlaidd caffaeledig yn ymddangos mewn plant fel rheol, mae astudiaethau wedi dangos bod plant a phobl yn eu harddegau sy’n byw gyda gordewdra bum gwaith yn fwy tebygol o fod yn byw gyda gordewdra pan fyddant yn oedolion (Simmonds et al., 2016).

Mae gordewdra ymysg plant wedi bod yn gymharol sefydlog, gan amrywio rhwng tua 11% a 12%. Roedd y Rhaglen Mesur Plant diweddaraf (blwyddyn academaidd 2022/23) wedi cofnodi 11.4% o blant 4-5 oed yn byw hefo gordewdra. (Rhaglen Mesur Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Er bod elfen o ddewis personol gyda deiet, mae’n bwysig ystyried yr amgylchedd gordewogenig (Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth, 2007). Mae hyn yn cyfeirio at y rôl mae ffactorau amgylcheddol yn gallu ei chwarae yn pennu maeth a gweithgarwch corfforol.

Dychwelyd i'r cynnwys

 
9.5.3 Ysmygu

Mae ysmygu yn un o brif ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd. Mae sylweddau niweidiol mewn tybaco yn difrodi ac yn culhau pibellau gwaed.

Mae cyfran y bobl sy’n ysmygu yng Nghymru wedi bod yn gostwng dros amser, gan haneru o 26% yn 2003/04 i 13% yn 2022/23 (Arolwg Iechyd Cymru (2003/04), Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022/23), Llywodraeth Cymru). Ond er y gwelliant hwn, nid oes disgwyl cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o lai na 5% o bobl yn ysmygu erbyn 2030.  

Dychwelyd i'r cynnwys

 
9.5.4 Yfed alcohol

Mae yfed alcohol yn rheolaidd, yn enwedig lefelau uchel o alcohol, yn gysylltiedig â datblygu pwysedd gwaed uchel (British Heart Foundation, 2025).

Ers 2016/17, mae canran yr oedolion sy’n yfed mwy nag 14 uned mewn wythnos, sy’n uwch na’r canllawiau, wedi codi a gostwng ychydig o dan 20%. Yn 2022/23, 17% oedd y ffigur. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru).  

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.5.5 Amddifadedd

Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl o ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru yn fwy tebygol o ddioddef cyfraddau uwch o afiachedd a marwolaeth yn sgil clefydau cardiofasgwlaidd. Nid oes un peth yn achosi hyn, ond cymysgedd cymhleth o ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar ymddygiadau a chanlyniadau iechyd unigolyn. Wrth ystyried clefydau cardiofasgwlaidd, bydd y cymysgedd cymhleth hwn o ffactorau nid yn unig yn cynyddu risg unigolyn o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd, ond gallai hefyd effeithio ar allu’r unigolyn o geisio a dilyn cynlluniau triniaeth ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd yn brydlon. 

Mae bwlch sylweddol a pharhaus yng nghyfraddau marwolaethau a derbyniadau clefydau cardiofasgwlaidd rhwng pobl sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf a’r ardaloedd o amddifadedd isaf yng Nghymru. Mae hyn hefyd wedi’i adlewyrchu yng nghyffredinrwydd y bobl sy’n byw gyda gordewdra (Ffigur 9) a ffactorau risg ymddygiadol clefydau cardiofasgwlaidd (Ffigur 10). Yfed alcohol yw’r unig eithriad yn hyn o beth. Er bod unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf yn yfed llai o alcohol o bosib, maen nhw’n dueddol o ddioddef canlyniadau iechyd gwaeth (Lewer et al., 2016). 

Mae oedolion sy’n byw yn y pumed o ardaloedd â’r amddifadedd uchaf yng Nghymru tua 50% yn fwy tebygol o fod yn byw gyda gordewdra na phobl yn y pumed â’r amddifadedd isaf, lle mae tua 1 o bob 3 o bobl yn byw gyda gordewdra (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru).

 

Canran yr oedolion dros 16 oed sy’n hunan-gofnodi eu bod yn byw gyda gordewdra yn y pumed o ardaloedd â’r amddifadedd uchaf ac isaf yng Nghymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 9: Mae oedolion sy’n byw yn y pumed o ardaloedd â’r amddifadedd uchaf yng Nghymru tua 50% yn fwy tebygol o fod yn byw gyda gordewdra na phobl yn y pumed â’r amddifadedd isaf, lle mae tua 1 o bob 3 o bobl yn byw gyda gordewdra (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2016/17 - 22/23, Llywodraeth Cymru). 

 

Mae lefelau peryglus o yfed alcohol yn cael eu diffinio fel yfed rhwng 14 a 50 uned yr wythnos i ddynion, a rhwng 14 a 35 uned yr wythnos i ferched. Mae unigolion mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn yfed mwy na’r terfynau yfed sy’n cael eu hargymell, ond mae unigolion mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn dioddef mwy o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae’r ‘paradocs niwed alcohol’ yw enw ar hyn. (Lewer et al., 2016

 

Canran yr oedolion sy’n byw yn y pumed o ardaloedd â’r amddifadedd uchaf ac isaf yng Nghymru ac sy’n cofnodi ymddygiadau nad ydynt yn iach

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 10: Mae lefelau uwch o ymddygiadau nad ydynt yn iach yn cael eu cofnodi yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf o’i gymharu â’r ardaloedd o amddifadedd isaf, ac eithrio yfed alcohol. Mae’r siart chwith uchaf yn dangos lefelau peryglus o yfed alcohol, mae’r siart dde uchaf yn dangos oedolion oedd heb gael unrhyw ddogn o ffrwythau na llysiau yn ystod y diwrnod blaenorol, mae’r siart chwith isaf yn dangos oedolion a oedd yn gorfforol egnïol am lai na 30 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, ac mae’r siart dde isaf yn dangos oedolion sy’n dweud eu bod yn ysmygu neu’n defnyddio e-sigaréts. Nodyn 1: Cafodd yr arolwg ei ohirio ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i COVID-19. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, canran a welwyd, 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru). 

 

Y tu hwnt i'r ffactorau ymddygiad afiach sy'n cyfrannu at fwy o achosion o glefyd cardiofasgwlaidd, mae pobl yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf yn aml yn ceisio cyngor meddygol yn hwyrach, sy’n gallu arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth. Mae dadansoddiad gan y Kings Fund wedi edrych ar y berthynas rhwng tlodi a’r GIG. Yn 2022, roedd arolwg yn dangos bod 56% o ddarparwyr y GIG wedi adrodd cynnydd yn nifer y bobl sy’n oedi cyn ceisio cymorth o ganlyniad i gostau byw (Y Kings Fund, 2025 ).

Roedd y dadansoddiad hwn wedi cyfeirio at broblemau mynediad. Mae’r rhain yn gallu bod yn broblemau ymarferol, fel y gallu i deithio i apwyntiadau meddygol. Mae rhwystrau fel llythrennedd iechyd hefyd. Mae hyn yn cyfeirio at y nodweddion personol a’r adnoddau cymdeithasol sydd eu hangen ar unigolion i ddefnyddio, deall a gwerthuso gwybodaeth a gwasanaethau er mwyn gwneud penderfyniadau am iechyd. Mae llythrennedd iechyd yn cynnwys y gallu i gyfathrebu a gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, nid yw’r cyfrifoldeb ar y claf yn gyfan gwbl. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau hefyd wneud yn siŵr bod deunydd darllen, cyngor a gwasanaethau yn cael eu darparu a’u cyfathrebu mewn ffordd sy’n ddealladwy i’r gynulleidfa.

Mae enghreifftiau o’r ‘Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal, a gafodd ei diffinio gan Julian Tudor Hart (Hart, 1971).  Mae’n disgrifio sut mai’r bobl â’r angen mwyaf am ofal iechyd sydd lleiaf tebygol o gael y gofal hwnnw. Roedd adroddiad yn edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â’r ddeddf gofal gwrthgyfartal wedi canfod bod meddygfeydd teulu yn yr ardaloedd o amddifadedd uchaf yn Lloegr wedi’u tanariannu’n gymharol ac nad oes digon o feddygon ganddynt, ac nad ydynt yn perfformio cystal ar amrywiaeth o ddangosyddion ansawdd o’i gymharu â meddygfeydd mewn ardaloedd mwy cyfoethog (Fisher et al., 2022).

Dychwelyd i'r cynnwys

 
9.5.6 Ffactorau risg anaddasadwy

Mae ffactorau risg anaddasadwy hefyd, fel geneteg, oedran, rhyw ac ethnigrwydd. Mae’r ffactorau hyn yn gallu effeithio ar ba mor debygol ydych chi o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd, a golygu eich bod yn wynebu risg uwch o afiachedd a marwolaeth yn sgil clefyd cardiofasgwlaidd. O blith yr holl ffactorau risg anaddasadwy, a’r ffactorau risg yn gyffredinol, gellir dadlau mai heneiddio yw’r pwysicaf o ran llunio amcanestyniadau o niferoedd clefydau cardiofasgwlaidd yn y dyfodol. Gan fod poblogaeth Cymru yn heneiddio (Ffigur 11), bydd cynnydd wrth i’r boblogaeth gyrraedd yr oedrannau y mae clefydau cardiofasgwlaidd yn effeithio arnynt fwyaf.

 

Pyramid poblogaeth yn ôl oedran a rhyw, canran, Cymru, 2021 a 2035, canran

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 11: Pyramid poblogaeth yn dangos cyfansoddiad poblogaeth Cymru nawr a’r boblogaeth amcanestynedig. Mae hyn yn dangos bod yr amcanestyniad yn dweud y bydd gan Gymru boblogaeth hŷn, gyda chanrannau uwch yn y grwpiau oedran dros 70, sef y grwpiau y mae clefydau cardiofasgwlaidd yn effeithio arnynt fwyaf (Amcangyfrifon Canol-blwyddyn ac amcanestyniadau poblogaeth ar sail 2020, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

 

Hefyd, mae astudiaethau wedi dangos cyswllt rhwng y risg o glefydau cardiofasgwlaidd ac ethnigrwydd, a bod grwpiau De Asiaidd yn fwy tebygol o wynebu risg uwch o afiachedd a marwolaeth yn sgil clefydau cardiofasgwlaidd (Ho et al., 2022).

Mae cyflyrau genetig hefyd, fel hypergolosterolaemia teuluol, lle nad yw’r iau yn gallu prosesu colesterol yn iawn, sy’n effeithio ar 1 o bob 250 o bobl, neu 13,000 o bobl, yng Nghymru (British Heart Foundation, 2025).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.6 Ansawdd aer

Mae ansawdd aer gwael yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd. Gellir defnyddio gwaith modelu ansawdd aer, wedi’i gadarnhau gan waith monitro ansawdd aer, i amcangyfrif crynodiad y llygredd yn yr aer. Mae rheoliadau’r DU yn golygu bod angen mesur nifer o lygryddion aer. Y rhai sy’n cael eu monitro amlaf yw; crynodiad gronynnau â diamedr o lai na 10 micrometr (PM10) a'r rhai sy’n llai na 2.5 micrometr (PM2.5), a Nitrogen Deuocsid (NO2), oherwydd mae’r amcanion ansawdd aer ar gyfer y llygryddion hyn yn cael eu methu mewn nifer o leoliadau. Mae maint ffracsiynau’r deunydd gronynnol yn bwysig oherwydd mae’n golygu y gallant fynd i mewn i’ch llif gwaed a chael eu cludo o amgylch y corff, gan aros yn y galon, yr ymennydd ac organau eraill, sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu clefydau’r galon a’r system gylchredol, ymysg eraill. I gymharu, tua 70 micrometr yw lled blewyn gwallt dynol. Mae dod i gysylltiad â NO2 yn gallu niweidio’r galon a’r ysgyfaint.

Mae ansawdd aer wedi bod yn gwella ers 2007. Mae crynodiad cyfartalog nitrogen deuocsid (NO2) yng Nghymru wedi haneru bron, o 14µg/m3 yn 2007 i tua 8µg/m3 yn 2022. Yn yr un cyfnod, mae PM10 wedi gostwng o 16 µg/m3 i 11 µg/m3, a PM2.5 o 9 µg/m3 i 7 µg/m3 (Ansawdd Aer yng Nghymru, Llywodraeth Cymru). Fodd bynnag, nid oes lefel ddiogel o ran dod i gysylltiad â llygredd aer ac mae ansawdd aer yn gallu amrywio’n fawr ar lefel leol. Y rhai mwyaf agored i niwed sy’n teimlo’r effaith fwyaf (pobl ifanc, pobl hŷn, a phobl â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli). 

 

Dychwelyd i'r cynnwys


9.7 Argaeledd data

Fel y nodwyd yn adran 9.3, mae bylchau yn y gwaith casglu data. Er nad yw hyn yn risg yn feddygol yn yr un ffordd â byw gyda gordewdra, mae data’n chwarae rôl bwysig mewn gofal iechyd modern ac iechyd y cyhoedd. Mae data o ansawdd uchel yn hollbwysig ar gyfer nodi, monitro a gwella iechyd a llesiant Cymru ar raddfa eang. Byddai mynediad at ddata cadarn a manwl o ansawdd uchel yn creu manteision fel:

  • mae data manwl ar unigolion â ffactorau risg a chlefydau cardiofasgwlaidd yn gallu helpu i nodi demograffeg a allai fod yn wynebu risg uwch (h.y. oedran, rhyw, ethnigrwydd a BMI);
  • mae hyn yn ei dro yn gallu hwyluso cymhellion/ymyriadau iechyd wedi’u targedu;
  • mae data cyffredinrwydd hirdymor, pan fydd wedi’i baru â chyd-destun ynghylch ymyriadau iechyd, yn gallu helpu i fesur effaith ymyriadau;
  • mae monitro’r gwaith o ddarparu triniaeth yn gallu helpu i nodi a yw triniaethau priodol yn cael eu cynnig;
  • monitro’r ymlyniad at driniaeth i sicrhau bod cleifion yn cymryd y feddyginiaeth sy’n cael ei phresgripsiynu i sicrhau ei bod yn gweithio yn ôl y bwriad.

Dychwelyd i'r cynnwys


10. Beth sy’n Gallu Gweithio

Mae Prif Swyddogion Meddygol ym mhob rhan o’r DU yn cydnabod yr angen am raglenni i fynd i’r afael â chlefydau cardiofasgwlaidd drwy waith atal cychwynnol ac eilaidd (Whitty et al., 2023). Dyma ddiffiniad o atal cychwynnol ac eilaidd: 

“Mesurau ataliol, seiliedig ar dystiolaeth i helpu i atal neu oedi clefyd, sy’n cael eu rhoi ar waith yn ystod rhyngweithiad rhwng claf unigol a chlinigydd. Mae’r rhain yn wahanol i waith atal cychwynnol ar lefel y boblogaeth. Mae atal cychwynnol ac eilaidd ill dau yn bwysig ac yn cefnogi ei gilydd”

Nod atal cychwynnol yw atal clefyd neu anaf cyn i hynny ddigwydd. O ran atal clefydau cardiofasgwlaidd, caiff hyn ei wneud drwy atal pobl rhag dod i gysylltiad â ffactorau risg a datblygu mentrau sy’n helpu pobl i newid ymddygiad. Er enghraifft, mae’r DU wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol yn lleihau cyffredinrwydd ysmygu drwy ddull gweithredu tair elfen sy’n cynnwys addysg, rhaglenni, gwasanaethau a deddfwriaeth, gan gynnwys polisïau rheoli tybaco cynhwysfawr y DU (Cairney, 2019). Mae gan y DU un o’r cyfraddau ysmygu isaf ymysg gwledydd datblygedig tebyg, ac mae’r rhain wedi cyfrannu at hynny.

Gallai ailadrodd y dull hwn ar gyfer ffactorau risg eraill, fel gordewdra, arwain at lwyddiant tebyg yn lleihau nifer y bobl sy’n byw gyda gordewdra. Byddai hyn, yn ei dro, yn debygol o arwain at ostyngiad yng nghyffredinrwydd ffactorau risg cardiofasgwlaidd y gellir eu hosgoi, fel ffibriliad atrïaidd a phwysedd gwaed uchel, a gostyngiad mewn marwolaethau y gellir eu hosgoi yn sgil digwyddiadau cardiofasgwlaidd fel strôc a chlefyd y galon.

Ar ben hynny, mae atal eilaidd, fel y diffinnir uchod, fel arfer yn cynnwys canfod ffactorau risg yn gynnar i leihau’r risg o ddigwyddiad cardiofasgwlaidd, neu ganfod ac atal cynnar i rwystro clefyd cardiofasgwlaidd sefydledig rhag datblygu. Rydyn ni wedi gweld bod ymyriadau wedi’u harwain gan glinigwyr, fel atgyfeiriadau i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu a rhaglenni rheoli pwysau, wedi cael effeithiau pwysig ar ddatblygiad clefydau cardiofasgwlaidd. Yn ogystal, mae tystiolaeth a Chanllawiau NICE yn dangos bod nodi a thrin ffactorau risg clinigol allweddol, fel ffibriliad atrïaidd, pwysedd gwaed uchel a cholesterol, ochr yn ochr â salwch cysylltiedig fel diabetes, yn gallu lleihau digwyddedd clefydau cardiofasgwlaidd a’u datblygiad yn sylweddol.

Mae ymyriadau atal cychwynnol ac eilaidd ill dau yn bwysig. Mae atal cychwynnol yn gallu lleihau cyffredinrwydd clefydau a chyflyrau risg cardiofasgwlaidd y gellir eu hosgoi, ac felly’n lleihau’r effaith ar y gwasanaeth iechyd. Mae atal eilaidd yn ymyrryd yn gynnar i drin ffactorau risg cardiofasgwlaidd ac i atal digwyddiadau cardiofasgwlaidd sy’n newid bywyd. Fel y nodwyd gan y Prif Swyddogion Meddygol yn 2023:

“Mae'r dystiolaeth bod atal eilaidd yn gallu lleihau digwyddedd a datblygiad clefydau yn sylweddol ymysg y dystiolaeth fwyaf cadarn ym maes meddygaeth. Mae effeithiau cadarnhaol atal eilaidd ar glefydau cardiofasgwlaidd, gan gynnwys cyngor sy’n seiliedig ar risgiau a phresgripsiynu statinau a chyfryngau gwrth-gorbwysedd priodol, yn ddwfn ac yn gyflym.”

Dychwelyd i'r cynnwys

 

11. Trosolwg o wasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau atal a deddfwriaeth yng Nghymru

Yma, rydyn ni’n amlinellu rhai o’r strategaethau a deddfwriaeth, y rhaglenni a’r gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at leihau cyffredinrwydd rhai o’r ffactorau risg sy’n cael eu disgrifio yn yr erthygl hon. Nid yw’n rhestr hollgynhwysfawr ac os oes gennych raglen neu wasanaeth yr hoffech ei ychwanegu at y rhestr, mae croeso i chi gysylltu â ni ar Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk.

 

11.1 Strategaethau a Deddfwriaeth

 

11.2 Gwasanaethau cymorth ar gyfer ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd

11.2.1 Archwiliadau Iechyd

  • Rhaglen Archwilio Iechyd Cardiofasgwlaidd Cwm Taf Morgannwg
    • Nod yr asesiad risg cardiofasgwlaidd yw helpu i leihau’r anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol drwy nodi cleifion sy’n wynebu risg uchel o glefydau cardiofasgwlaidd a rhoi meddyginiaeth a chymorth newid ymddygiad priodol iddynt.

11.2.2 Optimeiddio triniaeth ar gyfer ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd
  • Ffibriliad atrïaidd
  • Pwysedd gwaed
    •  Mae Size of the Prize yn adnodd modelu wedi’i ddylunio gan UCL Partners. Mae’n cael ei ddefnyddio ledled Lloegr i ddangos sut gallai’r GIG atal miloedd o drawiadau ar y galon a strociau drwy optimeiddio triniaeth ar gyfer ffactorau risg cyffredin fel pwysedd gwaed a cholesterol. Mae data’n cael ei gasglu i ddatblygu’r adnodd i Gymru.
  • Colesterol
    •  Gwasanaeth Hypergolosterolaemia Teuluol Cymru Gyfan. Mae hypergolosterolaemia yn cael ei achosi gan enyn annormal sy’n creu lefelau uchel iawn o golesterol yn y gwaed. Heb driniaeth, mae pobl â hypergolosterolaemia teuluol yn wynebu risg uwch o glefyd coronaidd y galon cynnar. Mae Gwasanaeth Hypergolosterolaemia Teuluol Cymru Gyfan yn nodi ac yn trin unigolion a theuluoedd yng Nghymru.
  • Diabetes
    • Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, wedi’i harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cymorth wedi’i dargedu i bobl sy’n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2, gyda’r nod o’u hatal rhag datblygu’r cyflwr hwn.
    • Rhaglenni addysg strwythuredig am ddiabetes fel DESMOND.

 

11.3 Gwasanaethau cymorth ar gyfer ffactorau risg clefydau cardiofasgwlaidd

  • Pwysau Iach Byw'n Iach yn strategaeth gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru sydd â'r nod o atal a lleihau gordewdra. Fel rhan o hyn mae rhaglen Pwysau Iach Iach Chi yn cynnig arweiniad personol i gefnogi unigolion i reoli eu pwysau yn effeithiol. Mae byrddau iechyd ledled Cymru hefyd yn cynnig gwasanaethau i gefnogi unigolion i reoli eu pwysau.
  • Cafodd Helpa Fi i Stopio ei lansio yn 2017, sef brand cyffredinol gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu y GIG yng Nghymru. Mae Helpa Fi i Stopio yn cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd lleol.
  • Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn ymyriad iechyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a thechnegau newid ymddygiad i helpu cleientiaid sy’n cael eu hatgyfeirio i newid eu ffordd o fyw er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant. 
  • Dan 24/7: Llinell gymorth ddwyieithog i roi cymorth i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.

Dychwelyd i'r cynnwys


12. Casglu a dehongli data

12.1 Pandemig COVID-19

Wrth ystyried y tueddiadau hyn, mae’n bwysig ystyried effaith bosib pandemig COVID-19 a rheolaeth gofal sylfaenol yn gyffredinol. Yn ystod y pandemig, byddai llai o fynediad wedi bod at wasanaethau. Gallai hyn fod wedi arwain at ostyngiad mewn diagnosis a thriniaethau, wedi’i ddilyn gan gynnydd sydyn pan oeddent ar gael eto, sy’n esbonio’r cynnydd sydyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O ran y gostyngiad cyffredinol, fel y gwelwn o’r data cyffredinrwydd, nid yw cyflyrau sy’n gysylltiedig â chlefydau cardiofasgwlaidd yn gostwng. Efallai fod y gostyngiad mewn derbyniadau yn ganlyniad i reoli gofal sylfaenol yn well, drwy bresgripsiynau er enghraifft.

 

12.2 Data cyffredinrwydd

Daw’r data cyffredinrwydd o’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (2009/10 i 2018/19) a’r Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd (2019/20 ymlaen) gan Lywodraeth Cymru. Mae’r data hwn, sydd wedi’i ddarparu gan feddygon teulu, yn dangos nifer y cleifion cofrestredig ar gofrestr clefyd penodol a chyfanswm y boblogaeth gofrestredig.  

Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli cofrestrau gofal sylfaenol oherwydd efallai na fydd rhai newidiadau’n deillio o newid gwirioneddol yng nghyfradd yr achosion. Wrth i feddyginiaeth ddatblygu, efallai y caiff dulliau eu datblygu i ganfod cyflyrau yn fwy effeithiol, gan arwain at wella’r gwaith canfod yn hytrach na chynnydd gwirioneddol. Ar y llaw arall, pan gafodd y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ei ddisodli gan y Fframwaith Gwella a Sicrwydd Ansawdd yn 2019/20, mae’n bosib bod y newid yn y contract ynghylch y wobr ariannol ar gyfer data sy’n cael ei gasglu o ofal sylfaenol wedi arwain at newidiadau mewn ansawdd data, yn bennaf gostyngiad posib yn yr adrodd, gan arwain at dangyfrif cyffredinrwydd. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd y newidiadau’n rhai bach, oherwydd ni ellir bod yn gwbl sicr a yw’n cynrychioli newid gwirioneddol neu’n deillio o newid yn y broses casglu data.

Daw’r data o un ffynhonnell data sy’n seiliedig ar gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu. Felly, nid yw’n cofnodi unrhyw un sydd heb ddiagnosis o bosib, neu wedi cael diagnosis ond heb gofrestru. Mae hyn yn golygu bod y ffigurau a gyflwynir yn tangyfrif y cyffredinrwydd gwirioneddol. 

 

12.3 Dulliau’r amcanestyniadau 

Ar gyfer ein hamcanestyniadau, rydyn ni wedi defnyddio model cyfres amser safonol, sef model ARIMA. Mae’r model yn llunio amcanestyniadau o gyffredinrwydd hanesyddol a nifer yr achosion hyd 2033/34.  Rydyn ni hefyd wedi darparu cyfyngau hyder uchaf ac isaf o 95%, gan amcangyfrif cyfwng y gallai cyffredinrwydd yn y dyfodol fod ynddo. Mae’r rhain yn dangos ein bod yn 95% yn siŵr y byddai’r ffigur rhywle rhwng y niferoedd hyn, gan dybio bod y tueddiadau presennol yn parhau. Mae’r rhain ar gael yn y data gellir ei lwytho i lawr. Y ffigur rydyn ni’n cyfeirio ato yn yr erthygl, yr amcangyfrif canolog, yw’r amcangyfrif mwyaf tebygol, o ystyried yr hyn rydyn ni eisoes wedi’i weld. Po bellaf yn y dyfodol y mae’r amcangyfrifon, y lleiaf o hyder sydd gennym ynddynt. ​  

Nid ydym yn disgwyl i’r amcanestyniadau hyn fod yn fanwl gywir. Yn hytrach, maen nhw’n dangos y trywydd tebygol os na fydd unrhyw beth yn newid yn y cyfamser. Er enghraifft, cyflwyno ymyriad iechyd neu bolisi sydd wedi’i anelu at leihau ymddygiadau nad ydynt yn iach, fel pan gafodd y gwaharddiad ar ysmygu ei gyflwyno.  

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fanylion technegol yr amcanestyniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

 

12.4 Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru

Mae ein data derbyniadau’n defnyddio Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru. Mae hon yn gronfa ddata genedlaethol sy’n cofnodi gwybodaeth am weithgarwch ysbytai. Byrddau iechyd sy’n darparu’r data hwn. Mae amrywiadau yng nghyfanrwydd data, fel meysydd diagnosis a dulliau derbyn sydd ar goll, yn gallu effeithio ar gywirdeb dadansoddiadau. Felly, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli dadansoddiadau oherwydd efallai eu bod yn tanamcangyfrif y ffigur gwirioneddol, ond nid yw hyn yn tanseilio canfyddiadau’r dadansoddiadau. Oherwydd hyn, nid ydym yn dangos dadansoddiadau lle roedd diagnosis sylfaenol ar goll mewn dros 10% o gyfnodau derbyn.  Rydyn ni wedi llunio rhestr o’r dadansoddiadau sydd wedi’u heithrio er gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth am gyfanrwydd Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru ar gael ar wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

 

12.5 Data arolygon sy’n cael ei hunan-gofnodi

Mae data ar ymddygiadau ffordd o fyw yn cael ei gasglu drwy’r arolygon canlynol:

  • Arolwg Iechyd Cymru
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru

Yn yr un modd â phob arolwg, maen nhw’n dibynnu ar ddata sy’n cael ei hunan-gofnodi. Mae amrywiaeth o ffynonellau tuedd, fel dymunolrwydd cymdeithasol, galw i gof, a dulliau ymateb. Er enghraifft, efallai y bydd pobl yn tangofnodi pa mor aml maen nhw’n yfed alcohol ac yn gorgofnodi pa mor aml maen nhw’n gwneud ymarfer corff.

Mae maint samplau yn effeithio ar ein hyder wrth adrodd canfyddiadau. Lle bo’n bosib, rydyn ni wedi cynnwys cyfwng hyder o 95% yn y data y gellir ei lwytho i lawr. Mae hyn yn cynrychioli amrediad o werthoedd y gallwn fod yn 95% sicr eu bod yn cynnwys y gyfradd sylfaenol ‘wirioneddol’. Yn gyffredinol, po fwyaf yw maint y sampl, y lleiaf yw’r bwlch rhwng y cyfyngau hyder uchaf ac isaf.

Mae’r erthygl hon yn adrodd y canrannau a welwyd heb addasu ar gyfer newidiadau mewn strwythur oedran. Byddai canrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn darparu cymariaethau tecach dros amser, yn enwedig ar gyfer ymddygiadau y mae oedran yn dylanwadu arnynt, a byddant yn cael eu hychwanegu at y data y gellir ei lwytho i lawr yn nes ymlaen. Ar hyn o bryd, mae canrannau a welwyd yn cael eu cyflwyno i dynnu sylw at eu heffaith uniongyrchol ar wasanaethau a gwaith cynllunio gan eu bod yn cynrychioli’r ganran wirioneddol yn y boblogaeth.

 

12.6 Arolwg Iechyd Cymru

Cafodd Arolwg Iechyd Cymru ei gynnal rhwng 2003/04 a 2015, a’i sampl targed oedd 15,000. Yn 2016, cafodd Arolwg Iechyd Cymru ei ddisodli gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae data wedi’i archifo ac adroddiadau technegol ar gael ar-lein.

 

12.7 Arolwg Cenedlaethol Cymru

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cymryd lle Arolwg Iechyd Cymru yn 2016. Er ei fod wedi olynu Arolwg Iechyd Cymru, ni ddylid eu cymharu. Mae hyn oherwydd wrth i fethodoleg yr arolwg newid, efallai y byddwn yn gweld newid sylweddol o ganlyniad i hynny, yn hytrach na newid naturiol. Ar gyfer rhai ymddygiadau iechyd, efallai y bydd newid yng nghanllawiau’r Prif Swyddogion Meddygol hefyd, gan olygu nad oes modd llunio dadansoddiad hirdymor. Fodd bynnag, er y bydd angen i chi ystyried y newid sylweddol hwn wrth i’r fethodoleg newid, byddwch yn dal yn gallu dod i rai casgliadau ynghylch tueddiadau hirdymor. Dim ond dau ddadansoddiad sy’n ymwneud â’r ddau arolwg, sef tueddiadau BMI ac ysmygu. Mae’r categoreiddiad ar gyfer y ddau wedi aros yr un fath drwy gydol y cyfnodau; fodd bynnag efallai y bydd newid sylweddol bach rhwng arolygon a allai fod yn ganlyniad i newid yr arolwg, yn hytrach na bod yn newid naturiol.

O ganlyniad i bandemig COVID-19, roedd yn rhaid i Arolwg Cenedlaethol Cymru newid ei ddull cyflawni arferol, sy’n cynnwys cymysgedd o gyfweliadau wyneb yn wyneb a chyfweliadau ffôn. Roedd yr arolygon misol a chwarterol rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2021 yn arolygon ffôn hapsampl ar raddfa fawr, gan gysylltu â thua 1,000 o bobl y mis a chyfanswm o 12,000 dros y flwyddyn. O fis Gorffennaf 2021 ymlaen, gofynnwyd i is-sampl o ymatebwyr lenwi adran ar-lein yn dilyn yr adran dros y ffôn. Oherwydd y newid hwn yn y dull, nid oes modd cymharu canlyniadau yn uniongyrchol. Fodd bynnag, yn yr un modd â’r newid o Arolwg Iechyd Cymru i Arolwg Cenedlaethol Cymru, er bod yn rhaid ystyried unrhyw newid sylweddol, nid yw’n golygu na fu newid gwirioneddol mewn ymddygiad yn dilyn pandemig COVID-19. Dyna pam ei bod hi’n hollbwysig ystyried y gyfres data hirdymor. Mae rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolwg a gwybodaeth dechnegol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

12.8 Rhaglen Mesur Plant Cymru

Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn casglu mesuriadau o daldra a phwysau plant 4-5 oed sy’n mynd i’r ysgol yng Nghymru ac yn byw yng Nghymru. Ym mlwyddyn academaidd 2022/23. cafodd 29,916 o blant eu mesur, o 32,703 a oedd yn gymwys, gan roi cyfradd cyfranogiad o 91.5%. Cafodd y Rhaglen Mesur Plant ei sefydlu gan statud Llywodraeth Cymru yn 2011. Cafodd ei hadroddiad blynyddol cyntaf ei ryddhau yn 2013. Mae datganiad ansawdd data llawn ar gael ar-lein, yn ogystal â data drwy ein dangosfwrdd.

 

12.9 Ansawdd aer

Mae’r DU yn monitro ansawdd aer yn genedlaethol drwy nifer o rwydweithiau o orsafoedd monitro. Y rhwydwaith mwyaf, sy’n monitro crynodiadau o’r llygryddion mwyaf adnabyddus, yw’r Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig (AURN), sy’n adrodd data bob awr mewn amser real bron ar wefan UK-AIR. Mae rhwydweithiau monitro yn cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol a sefydliadau academaidd hefyd.

Mae ystadegau gwladol ar ansawdd aer yn y DU yn cael eu cynhyrchu ym mis Ebrill bob blwyddyn ac maen nhw’n darparu asesiad hygyrch o dueddiadau hirdymor ansawdd aer, yn ôl mesuriadau’r AURN. Ym mis Medi bob blwyddyn, mae mesuriadau’r rhwydweithiau monitro cenedlaethol yn cael eu cyfuno ag allbynnau modelu i ffurfio asesiad cenedlaethol o ansawdd aer yn erbyn y terfynau a’r gwerthoedd targed ar gyfer crynodiadau o lygryddion aer sy’n cael eu gosod yn rhyngwladol ac yn ddomestig. Mae’r llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ganlyniadau’r asesiad hwn ac mae’r data modelu sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi ar fap rhyngweithiol ar wefan UK-AIR.

 Bob blwyddyn, mae model Mapio’r Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y DU yn cyfrifo’r crynodiadau cyfartalog o lygryddion ar gyfer pob cilometr sgwâr yn y DU. Mae’r model yn cael ei raddnodi yn erbyn mesuriadau o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data hwn sydd wedi’i gyhoeddi i neilltuo crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 ar gyfer pob annedd breswyl yng Nghymru, ar sail cilometr sgwâr yr annedd.

Ar gyfer pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, mae cyfartaledd wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth dros ei ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad cyfansoddol yn cael ei gyfrifo i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 and PM10 ar sail ble mae pobl yn byw yn yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd ar draws holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad i roi ffigur cymaradwy ar gyfer Cymru gyfan. Ar gyfer diweddariad 2022 y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer ansawdd aer, cafodd gwelliant methodolegol ei wneud i’r dull o gyfrifo’r pwysoliadau anheddau. Mae rhagor o wybodaeth am y data ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.


12.10 Presgripsiynau

Mae’r data presgripsiynau yn cynnwys cyfanswm yr eitemau sydd wedi’u presgripsiynu (p’un a chawsant eu dosbarthu ai peidio) neu eu dosbarthu gan Feddygon Teulu yng Nghymru. Mae’r gost cynhwysion net yn cyfeirio at gost y cyffur cyn gostyngiadau ac nid yw’n cynnwys unrhyw gostau neu ffioedd dosbarthu. Nid yw’n cynnwys unrhyw addasiad pan fo’r claf wedi prynu tystysgrif rhagdaliad. Nid yw’r costau cynhwysion net ar gyfer pob blwyddyn wedi’u haddasu ar gyfer chwyddiant. Ni chredir bod addasiadau safonol ar gyfer chwyddiant yn briodol oherwydd mae prisiau cyffuriau yn cael eu rheoli o dan y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol a rheolaethau canolog eraill. Mae rhagor o wybodaeth am y data hwn ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Dychwelyd i'r cynnwys

13. Llwytho’r data i lawr

Rydym yn ymwybodol y gall fod problemau wrth lawrlwytho'r ffeiliau data yn Microsoft Edge.  Os hoffech gael y data, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio porwr gwahanol, defnyddiwch 'Cadw fel' os yw'r data'n agor mewn tab ar-lein neu cysylltwch â ni yn Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

13.1 Gellir llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon – Excel  
13.2 Llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV  

13.3Lawrlwythwch ddata ffactorau risg gyda dadansoddiadau ychwanegol- CSV 

Dychwelyd i'r cynnwys