Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o gyffredinrwydd clefydau anhrosglwyddadwy a nifer yr achosion o ganser yng Nghymru – tueddiadau ac amcanestyniadau 10 mlynedd

Rhys Powell, Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2024

Penawdau

Trwy ddefnyddio data hanesyddol, rydym wedi gwneud amcanestyniadau ar gyfer naw clefyd anhrosglwyddadwy a nifer yr achosion o ganser hyd at 2033/34.  Os na fydd unrhyw beth yn newid, megis cyflwyno ymyriad iechyd neu bolisi, rydym yn rhagamcanu y bydd pob clefyd a nifer yr achosion o ganser ymhlith y ddau ryw yn parhau i gynyddu.

Rydym wedi astudio data cyffredinrwydd hanesyddol ar gyfer nifer o glefydau, gan gynnwys diabetes, clefydau cardiofasgwlaidd, clefydau anadlol a chlefydau cyhyrysgerbydol, yn ogystal â nifer yr achosion o ganser. Dangosodd y gwaith hwn fod y cynnydd hwn wedi bod yn digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mewn rhai achosion yn hirach na hynny.

Mae modd priodoli rhywfaint o'r newid i boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau risg (y gellir addasu rhai ohonynt) hefyd yn dylanwadu ar y tebygolrwydd o ddatblygu'r clefydau hyn. 

Cynnydd yn nifer a chanran yr oedolion â chlefydau cronig yn 2023/24

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 1: Siart yn dangos nifer o gofrestrau clefydau a’r cynnydd yn y ganran a’r newid yn y cyfrif rhwng pan gofnodwyd data gyntaf a’r data diweddaraf sydd ar gael, 2023/24.  Mae pen y lolipop yn dangos nifer y bobl a oedd â'r cyflwr yn 2023/24.  Mae gwaelod y lolipop yn dangos nifer y bobl â'r cyflwr pan gofnodwyd data gyntaf.  Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (2009/10 i 2018/19) a Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella, Llywodraeth Cymru)

Adrannau

 

Trosolwg 

Diben yr erthygl hon yw helpu’r rhai sy’n llunio polisïau, yn cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau i ddeall cyffredinrwydd a digwyddedd y cyflyrau hyn ar hyn o bryd. Yn ogystal â sut y gallai pethau edrych yn y dyfodol os na fydd dim yn newid, megis cyflwyno ymyriadau iechyd neu bolisïau, wedi’u hanelu at ffactorau sy'n dylanwadu ar gyffredinrwydd.  Yr erthygl hon yw'r gyntaf mewn cyfres o erthyglau, a fydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cyffredinrwydd, digwyddedd ac amcanestyniadau

  • Ffactorau risg

  • Clefyd cardiofasgwlaidd

  • Clefyd anadlol

  • Clefyd cyhyrysgerbydol

  • Canser

  • Ysmygu

  • Iechyd meddwl 

Rydym eisoes wedi creu erthygl yn canolbwyntio ar ddiabetes.

 

Cyffredinrwydd a digwyddedd 

Mae cyffredinrwydd yn fesur sy'n edrych ar faint o achosion hysbys o glefyd sydd yn y boblogaeth ar unrhyw adeg benodol.  Mae digwyddedd yn edrych ar nifer yr unigolion sydd newydd gael diagnosis o fewn cyfnod penodol yn unig.  Yn achos diabetes, clefyd cardiofasgwlaidd, clefyd anadlol a chlefyd cyhyrysgerbydol byddwn yn edrych ar gyffredinrwydd, ac yn achos canser, byddwn yn edrych ar ddigwyddedd.

Mae dwy ffordd o edrych ar gyffredinrwydd a digwyddedd, sef niferoedd neu gyfraddau.  Mae niferoedd yn dangos faint o achosion gwirioneddol sy’n bodoli, tra bod cyfraddau'n dangos nifer yr achosion wedi'i rannu â'r boblogaeth sydd mewn perygl.  Mae ein dadansoddiad ni’n canolbwyntio ar niferoedd.  Fe wnaethom ddewis niferoedd, gan mai dyma'r mesur data mwyaf cyson sydd ar gael i ni dros gyfnod digon hir i ganiatáu i ni wneud amcanestyniadau.  Mae cyfraddau cyffredinrwydd wedi'u safoni yn ôl oedran yn gwneud addasiadau ar gyfer gwahaniaethau yn strwythur oedran y boblogaeth rhwng ardaloedd neu dros amser. Mae hynny’n eich galluogi i wneud cymariaethau ystyrlon.  Mae rhywfaint o ddadansoddiadau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gael ar ein dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol a’n Hofferyn Adrodd ar Ganser.

Mae tabl 1 a 2 yn dangos bod yr holl gyflyrau hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd.  Yn gyffredinol, mae'r cynnydd mwyaf nodedig mewn cyffredinrwydd yn tueddu i ddigwydd ymhlith oedolion canol oed a hŷn. Fodd bynnag, mae grwpiau oedran iau hefyd yn cael eu heffeithio.  Bydd yr erthyglau sydd ar y ffordd sy’n canolbwyntio ar glefydau penodol yn edrych ar y ddemograffeg yr effeithir arni yn fwy manwl.

Newid yn y gofrestr cyflyrau cronig o’r data cynharaf sydd ar gael hyd at 2023/24 

Grŵp Cyflwr O Nifer yn 2023/24 Cynnydd canrannol
Diabetes Diabetes (17+ oed) 2009/10 222,700 45%
Clefyd cardiofasgwlaidd Ffibriliad atrïaidd 2009/10 84,900 59%
  Methiant y galon 2009/10 42,500 49%
  Pwysedd gwaed uchel 2009/10 529,300 11%
  Strôc/ Pwl o Isgemia dros dro (TIA) 2009/10 72,400 13%
Anadlol Asthma 2009/10 237,400 13%
  Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) 2009/10 75,600 21%
Cyhyrysgerbydol Osteoporosis 2012/13 7,700 165%
  Arthritis gwynegol (16+ oed) 2013/14 25,300 18%

Tabl 1: Tabl yn dangos nifer o gofrestrau clefydau a'r newid canrannol a’r newid mewn niferoedd rhwng pan gasglwyd y data gyntaf a'r data diweddaraf sydd ar gael.  Mae canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf a’r niferoedd i'r cant agosaf.  Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (2009/10 i 2018/19) a Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella, Llywodraeth Cymru 

 

Y newid yn nifer yr achosion o ganser rhwng 2002 a 2019

Grŵp Rhyw Nifer yn 2019 Cynnydd canrannol
Nifer yr achosion o ganser Dynion 10,800 33%
  Menywod 9,600 21%

Tabl 2: Tabl yn dangos canran yr achosion o ganser a’r newid yn y niferoedd rhwng 2002 a 2019.  Mae canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf a’r niferoedd i'r cant agosaf.  Data cofrestr canser, offeryn adrodd am ganser Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU)

 

Amcanestyniadau

Trwy ddefnyddio’r gofrestr a’r data digwyddedd uchod, rydym wedi rhagamcanu sut y gallai’r ffigyrau edrych erbyn mis Ebrill 2024.  Nid ydym yn disgwyl i'r amcanestyniadau hyn fod yn fanwl gywir. Maent yn dangos y  cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo pe na bai unrhyw newid yn y cyfamser.  Er enghraifft, cyflwyno ymyriad iechyd neu bolisi gyda'r nod o leihau ymddygiadau nad ydynt yn iach, megis cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu.  Mae rhagor o wybodaeth am y dull ar gael yn yr adran ansawdd data a dehongli, neu gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol.

Newid rhagamcanol mewn cyflyrau cronig rhwng 2023/24 a 2033/34

Grŵp Cyflwr Rhagamcenir nifer yn 2033/34 Cynnydd canrannol
Diabetes Diabetes (17+ oed) 272,300 22%
Clefyd cardiofasgwlaidd Ffibriliad atrïaidd 106,900 26%
  Methiant y galon 61,800 46%
  Pwysedd gwaed uchel 565,900 7%
  Strôc/TIA 78,400 8%
Anadlol Asthma 256,400 8%
  COPD 84,800 12%
Cyhyrysgerbydol Arthritis gwynegol (16+ oed) 29,200 16%

Tabl 3: Tabl yn dangos nifer o gofrestrau clefydau a'r newid canrannol a’r newid mewn niferoedd rhwng y data diwethaf a arsylwyd (2023/24) a’r amcanestyniadau ar gyfer 2033/34. Mae canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf a’r niferoedd i'r cant agosaf.  Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (2009/10 i 2018/19) a Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella, Llywodraeth Cymru

 

Newid rhagamcanol yn nifer yr achosion o ganser rhwng 2019 a 2033

Grŵp Rhyw Rhagamcenir nifer yn 2033 Cynnydd canrannol
Nifer yr achosion o ganser Dynion 12,700 18%
  Menywod 10,800 12%

Tabl 4: Tabl yn dangos canran nifer yr achosion o ganser a’r newid mewn niferoedd rhwng y data arsylwyd (2019) ac amcanestyniadau ar gyfer 2033. Mae canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf a’r niferoedd i'r cant agosaf.  Data cofrestr canser, offeryn adrodd am ganser Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU)

Fel y dangosir yn nhabl 3 a 4, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, ac na chymerir unrhyw gamau ychwanegol i geisio lleihau cyffredinrwydd y clefydau hyn, byddant yn parhau i gynyddu dros y 10 mlynedd nesaf.  Rhagwelir hefyd y bydd nifer yr achosion o ganser ymhlith gwrywod a benywod yn parhau i gynyddu.    

 

Pam mae hyn yn bwysig? 

Mae'r dadansoddiad hwn yn edrych ar grŵp dethol o glefydau yn unig. Mae clefydau eraill sydd heb eu dadansoddi ar hyn o bryd.  Mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin, fodd bynnag, sef effaith uniongyrchol ar iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd unigolyn.
Gall effeithiau o ddydd i ddydd y cyflyrau hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) i’r canlynol: 

  • Monitro'r cyflwr yn rheolaidd trwy apwyntiadau meddygol, neu fonitro lefelau glwcos yn y cartref i reoli diabetes
  • Gorfod cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd i reoli cyflwr a lleihau'r risg o ddirywiad pellach a chymhlethdodau
  • Yr amser sydd ei angen i fynd i apwyntiadau meddygol
  • Iechyd gwaeth yn gyffredinol
  • Canlyniadau iechyd gwaeth pe bai'r unigolyn yn mynd yn sâl
  • Mwy o siawns o ddatblygu clefydau eraill
  • Ansawdd bywyd gwaeth, yn enwedig yn achos cyflyrau symudedd ac anadlol
  • Effaith ar allu unigolyn i weithio.

Yn ogystal, mae rheoli a thrin y clefydau hyn yn cael effaith ar y GIG, gan gynnwys:

  • Cost i’r GIG (rhagnodi meddyginiaeth, gwneud ymchwiliadau, cynnal ymgynghoriadau/clinigau, cost derbyniadau i’r ysbyty a darparu triniaethau)
  • Yr adnoddau sydd eu hangen i drefnu a chynnal apwyntiadau a thriniaethau, o ran nifer y staff a’r amser sydd ei angen
  • Cost cyfle, sy'n golygu dargyfeirio adnoddau oddi wrth gleifion eraill
  • Costau economaidd a chymdeithasol ehangach os nad yw unigolion yn gallu gweithio.

Mae nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar y tebygolrwydd o ddatblygu'r clefydau hyn.  Ni ellir addasu rhai, megis oedran, rhyw ac ethnigrwydd.  Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau risg y gellir eu haddasu megis gordewdra, ysmygu a lefelau gweithgarwch corfforol.  Mae hefyd ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach sy'n chwarae rhan fel incwm, addysg, cyflogaeth a thai.  


Cyfeirir at y rhain yn gyffredin fel penderfynyddion ehangach iechyd, fel y disgrifir gan Dahlgren a Whitehead.  Mae’r model hwn yn disgrifio sut y gall pob agwedd ar fywyd ddylanwadu ar iechyd unigolyn. Gall ein helpu i ddeall pam fod pobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n gysylltiedig â lefelau uwch o amddifadedd yn aml yn profi canlyniadau iechyd gwaeth.  Er enghraifft, o safbwynt ariannol gall bwyd iach a chostau aelodaeth cyfleusterau ffitrwydd fod yn llai fforddiadwy.  Gall y bobl hyn hefyd fod yn brin o amser oherwydd natur eu gwaith, gan gynnwys cael nifer o swyddi.  Gallai’r diffyg amser hwn olygu nad oes ganddynt amser i baratoi prydau iachach na gwneud ymarfer corff, gan gynnwys gweithgareddau a allai fod yn gymharol rad.

Bydd ein herthygl ar ffactorau risg yn edrych ar rai o'r rhain yn fwy manwl.

 

Ansawdd data a dehongli 

Data ar gyffredinrwydd 

Daw’r data ar gyffredinrwydd o Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (2009/10 i 2018/19) a Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella (2019/20 ymlaen) Llywodraeth Cymru.  Mae'r data hyn a ddarparwyd gan feddygon teulu yn dangos nifer y cleifion cofrestredig sydd ar gofrestrau clefydau penodol a chyfanswm y boblogaeth gofrestredig.  


Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli cofrestrau gofal sylfaenol, oherwydd efallai na fydd rhai newidiadau o ganlyniad i newid gwirioneddol mewn cyffredinrwydd.  Wrth i feddygaeth ddatblygu, efallai bydd dulliau i ganfod cyflyrau yn fwy effeithiol yn cael eu datblygu, a fydd yn arwain at allu adnabod cyflyrau yn well yn hytrach na chynnydd gwirioneddol.  I’r gwrthwyneb, pan ddisodlwyd Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau gan Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella yn 2019/20, mae’r newid yn y contract o ran sut mae data gofal sylfaenol yn cael eu casglu wedi arwain o bosibl at newidiadau mewn ansawdd data, yn bennaf gostyngiad posibl mewn adrodd, gan arwain at dangyfrif cyffredinrwydd.  Mae hyn yn arbennig o wir pan fo’r newidiadau’n fach iawn, oherwydd nad oes modd dweud â sicrwydd llwyr a yw’n cynrychioli newid gwirioneddol neu a yw o ganlyniad i newid mewn casglu data. 


Daw'r data o un ffynhonnell ddata sy'n seiliedig ar gleifion sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu.  O ganlyniad, nid yw'n cynnwys rhai sydd efallai heb gael diagnosis, neu rai sydd wedi cael diagnosis ond sydd heb gofrestru â meddyg teulu.  Golyga hyn y gallai'r ffigurau a ddarperir gynrychioli tangyfrif o'r cyffredinrwydd gwirioneddol.

 
Data am nifer yr achosion o ganser

Mae data hanesyddol am nifer yr achosion o ganser yn dod o Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru.  


Mae data am nifer yr achosion o ganser ar gael hyd at 2021, ond defnyddiwyd 2019 fel y flwyddyn gyfeirio.  Oherwydd effaith COVID-19 ar wasanaethau, nid yw data rhwng 2020 a 2021 yn addas iawn ar gyfer amcanestyniadau neu ddeall tueddiadau hirdymor.

 
Dulliau rhagamcanu 

Rydym wedi defnyddio model cyfres amser safonol a elwir yn fodel ARIMA i gyfrifo ein hamcanestyniadau.  Mae'r model yn rhagamcanu cyffredinrwydd a digwyddedd yr achosion hyd at 2033/34.   Rydym hefyd wedi darparu cyfyngau hyder uchaf ac isaf o 95%, sy’n amcangyfrif cyfwng ar gyfer cyffredinrwydd yn y dyfodol.  Mae'r rhain yn dangos ein bod yn credu gyda sicrwydd o 95% y byddai'r ffigwr rhywle rhwng y niferoedd hyn, o dybio bod y tueddiadau presennol yn parhau.  Mae'r rhain ar gael yn y lawrlwythiad data.  Yr amcangyfrif canolog, yr ydym yn cyfeirio ato yn yr erthygl, yw'r amcangyfrif mwyaf tebygol, o ystyried yr hyn a arsylwyd eisoes.  Po bellaf ymlaen y byddwn yn rhagamcanu, y lleiaf o hyder sydd gennym yn yr amcangyfrifon.   

Nid ydym yn disgwyl i'r amcanestyniadau hyn fod yn fanwl gywir. Maent yn dangos y  cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo pe na bai unrhyw newid yn y cyfamser.  Er enghraifft, cyflwyno ymyriad iechyd neu bolisi gyda'r nod o leihau ymddygiadau nad ydynt yn iach, megis pan gyflwynwyd gwaharddiad ar ysmygu.  


Os hoffech ragor o wybodaeth am fanylion technegol yr amcanestyniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ffeiliau data

Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon - Excel

Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon - CSV