Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau sylweddol yn y cymorth

Roedd y rhan fwyaf o becynnau gofal ailalluogi yn lleihau'r angen am gymorth hirdymor.

  • Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a RhCT, roedd y rhan fwyaf o becynnau gofal ailalluogi a gwblhawyd yn atal yr angen am gymorth hirdymor pellach (67.5% ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 62.7% yn RhCT).
  • Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd 14.0% o becynnau gofal yn lleihau'r angen am gymorth, tra bod 11.6% yn cynnal y lefel bresennol o gymorth. Mewn cyferbyniad, yn RhCT, ni arweiniodd unrhyw becynnau gofal at lai o gymorth, ac arweiniodd 37.2% at gynnal y lefel bresennol o gymorth. Gall hyn fod oherwydd gwahaniaethau mewn arferion adrodd lleol neu ffactorau lleol eraill, y byddai angen ymchwilio iddynt ymhellach i ddeall y rhesymau dros yr amrywiadau hyn.
  • Mae'r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd â phrif nod gofal ailalluogi: helpu unigolion i adennill neu gynnal annibyniaeth yn y cartref. Fodd bynnag, ni allem nodi'r cyflyrau penodol a arweiniodd at ofal ailalluogi o'r data a oedd ar gael, gan gyfyngu ar ein gallu i asesu anghenion unigol neu werthuso effeithiolrwydd hirdymor y pecynnau gofal y tu hwnt i'r canlyniadau a gofnodwyd.
  • Mae’n bwysig nodi hefyd nad oedd data ar gynlluniau gofal a chymorth hirdymor a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar gael ar gyfer yr astudiaeth hon, ac nid yw’n glir a allai rhai unigolion fod wedi dilyn gofal preifat yn annibynnol yn dilyn eu pecyn ailalluogi.

Ffigur 2: Canran y pecynnau gofal ailalluogi a gwblhawyd yn ôl lefel gymharol yr anghenion cymorth gofal ôl-alluogi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a RhCT. (Sylwer: * yn nodi gwerthoedd bras oherwydd cuddio niferoedd bach)

Roedd newidiadau sylweddol mewn anghenion cymorth yn dilyn gofal ailalluogi yn amrywio yn ôl demograffeg.

  • Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd gofal ailalluogi yn fwy effeithiol o ran lleihau'r angen am gymorth pellach ymhlith grwpiau oedran iau a'r rhai heb aml-forbidrwydd. Yn benodol, nid oedd angen cymorth hirdymor ar 77.3% o unigolion o dan 75 a 77.3% o’r rhai heb aml-forbidrwydd mwyach, o gymharu â 63.5% o unigolion 75 oed a hŷn a 65.5% o’r rhai ag aml-forbidrwydd. Mae hyn yn awgrymu bod gofal ailalluogi yn tueddu i fod yn llai effeithiol o ran dileu’r angen am gymorth hirdymor ymhlith oedolion hŷn ac unigolion mewn iechyd gwaeth.
  • Er gwaethaf hyn, hyd yn oed ar gyfer unigolion hŷn a’r rhai ag aml-forbidrwydd, roedd y mwyafrif yn dal i brofi gostyngiad yn eu hangen am gymorth hirdymor ar ôl gofal ailalluogi (79.8% ar gyfer y rhai 75 oed a hŷn ac 80.4% ar gyfer y rhai ag aml-forbidrwydd).
  • Nid oedd llawer o amrywiad yn y newidiadau mewn anghenion cymorth yn seiliedig ar ryw neu amddifadedd ar ôl gofal ailalluogi. Fodd bynnag, oherwydd maint bach y sampl yn RhCT, nid oedd dadansoddiad pellach yn ôl demograffeg yn bosibl.