Neidio i'r prif gynnwy

Nod ac Amcanion

Nod yr RTSSS yw gweithredu fel ystorfa genedlaethol ganolog ar gyfer achosion tybiedig o hunanladdiad yng Nghymru a chynhyrchu'r wybodaeth i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.  Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i fonitro effaith y pandemig yn barhaus ar achosion tybiedig o farwolaethau hunanladdiad. 

Amcanion yr RTSSS yw:

  • canfod a choladu data ar achosion tybiedig o farwolaethau oherwydd hunanladdiad yng Nghymru a marwolaethau tybiedig o hunanladdiad ymhlith pobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru (a all farw mewn mannau eraill)
  • goruchwylio achosion tybiedig o hunanladdiadau gan gynnwys nodi a disgrifio clystyrau hunanladdiad sy'n dod i'r amlwg er mwyn hysbysu grwpiau ymateb lleol
  • ymgymryd â gwyliadwriaeth ar achosion tybiedig o hunanladdiadau i nodi patrymau a thueddiadau marwolaethau tybiedig o hunanladdiad er mwyn llywio polisi ac ymarfer
  • rhannu'r canfyddiadau drwy ddelweddu data hygyrch, er mwyn llywio camau gweithredu gan wahanol grwpiau a fforymau
  • cyfrannu at yr agenda atal hunanladdiad
  • cyfrannu at ymchwil i atal hunanladdiad

 

Cysylltwch â ni

E-bost: PHW.RTSSS@wales.nhs.uk