Mae'r Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real wedi'i sefydlu ar gyfer Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Ebrill 2022.
Un o'r uchelgeisiau yn y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed 'Beth am siarad â fi' yng Nghymru (2015-2022) oedd sefydlu systemau gwyliadwriaeth i wella ansawdd data a gwybodaeth i lywio atal. Mae un o'r systemau hyn yn ymwneud â chipio data (tybiedig) mewn amser real, drwy ddulliau cipio data sy'n seiliedig ar yr Heddlu.