Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i'r Ysgol

Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i'r Ysgol

 

 

 

 

 

Sut y bydd yn gweithio

Rydym yn gwahodd plant ym mlynyddoedd 1 i 6 ledled Cymru i gymryd rhan yn ein Harolwg Dwylo i Fyny Teithio i'r Ysgol, a gynhelir rhwng 17 a 21 Mehefin 2024.  

Mae'r arolwg yn syml iawn ac mae’n cymryd llai na deng munud i'w gwblhau. Caiff ei gynnal yn yr ystafell ddosbarth. Mae athrawon yn darllen rhestr o ddulliau teithio ac mae’r plant yn codi eu dwylo pan maent yn clywed y dull o deithio a ddefnyddiwyd ganddynt i gyrraedd yr ysgol y diwrnod hwnnw. Yna mae athrawon yn cofnodi'r ymatebion ac yn eu hanfon atom. 

Eleni, bydd y data'n cael ei gasglu rhwng 17 a 21 Mehefin. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar un diwrnod yn unig yn ystod yr wythnos hon, a bydd ysgolion yn rhydd i ddewis y diwrnod sy'n gweddu orau i'w hamserlen. Bydd athrawon yn cael arweiniad ac adnoddau i'w cefnogi wrth gynnal yr arolwg. Yna bydd yr athrawon yn cyflwyno eu data ystafell ddosbarth ar ffurflen ar-lein i Iechyd Cyhoeddus Cymru eu coladu a'u dadansoddi. Bydd ysgolion yn derbyn adroddiad llawn gyda’u canlyniadau ar unwaith – a gellir defnyddio data’r arolwg i asesu effaith unrhyw fesurau y maent wedi’u rhoi ar waith i wella lefelau AST ymhlith disgyblion yn eu hardal. 

Os ydych yn athro neu'n arweinydd ysgol gynradd, byddem yn croesawu eich cefnogaeth drwy annog eich disgyblion i gymryd rhan. Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at TravelToSchool@wales.nhs.uk   

Gallwch weld canlyniadau arolwg Dwylo i Fyny Teithio i'r Ysgol 2023 yma 

 

 

 

 

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Mae ffynonellau data ar gyfer ysgolion cynradd sydd ar gael ar hyn o bryd yn cyflwyno darlun anghyson ac annibynadwy o ran nifer y disgyblion sy’n teithio’n llesol i’r ysgol.

Yr arolwg hwn fydd yr arolwg cyntaf o’i fath i wahodd holl ysgolion Cymru, a bydd yn caniatáu inni ddeall lefelau cenedlaethol teithio llesol am y tro cyntaf. Bydd yn cael ei gyflwyno'n flynyddol, i'n galluogi i fonitro lefelau teithio llesol yn barhaus.

Credwn fod ysgolion mewn sefyllfa ddelfrydol i fesur lefelau teithio llesol ac i gynllunio ar gyfer newid ar lefel ysgol ac ardal leol.

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio’r data i asesu effaith unrhyw fesurau y maent wedi’u rhoi ar waith i wella lefelau teithio llesol mewn poblogaethau disgyblion yn eu hardal.

 

 

 

Sut y bydd cynnydd mewn AST o fudd i bobl Cymru? 

Gall gwneud gweithgarwch corfforol yn y modd hwn ddatblygu hunanhyder, sgiliau asesu a rheoli risg, datrys problemau a sgiliau cymdeithasol; a gall wella cyrhaeddiad addysgol. 

Nid yn unig y mae AST yn cyfrannu at iechyd plant nawr, ond mae'n helpu i sicrhau bod plant yn tyfu i fod yn oedolion iachach a chorfforol egnïol. 

Trwy leihau teithiau mewn ceir i'r ysgol, gall leihau tagfeydd traffig a chyfrannu at wella ansawdd aer, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n agos at ysgolion. 

Cydnabyddir y bydd cynnydd mewn cerdded a beicio i’r ysgol yn cyfrannu at greu Cymru iachach, a chymdeithas carbon isel lewyrchus o gymunedau diogel sydd â chysylltiadau da.