Neidio i'r prif gynnwy

26 Ionawr 2023

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau 26 Ionawr 2023 am 10am  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiynau y mae croeso i aelodau'r cyhoedd eu mynychu a'u harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau'r Bwrdd, na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd rhithwir, ac nid ydym wedi gallu eu ffrydio'n fyw.  

Rydym yn falch o gynghori ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd roi'r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real. Mae'r ddolen i'r cyfarfod wedi'i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Dolen i’r Digwyddiad Byw (26 Ionawr Cyfarfod)

Fel mynychwyr byddwch yn gallu arsylwi ar y cyfarfod drwy Microsoft Teams - bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu declyn symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Noder nid yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Papurau


Bydd y papurau ar gael yma ychydig cyn y cyfarfod.

 

Cofnodion


Mae'r cofnodion heb eu cadarnhau  ar gael yma.