Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau 25 Mehefin 2020 am 10am.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae’n ymdrin â chymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso fel arfer i aelodau’r cyhoedd ei mynychu ac arsylwi arni naill ai’n bersonol neu’n electronig. Fodd bynnag, yn wyneb y cyngor a chanllawiau cyfredol o ran Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu peidio â chynnal ein cyfarfodydd yn gyhoeddus. Mae hwn yn benderfyniad rydym wedi’i wneud er budd gorau amddiffyn y cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd. Byddwn yn sicrhau bod crynodeb o’n cyfarfod ar gael cyn gynted â phosibl a bydd cofnodion llawn ar gyfer gwybodaeth gyhoeddus yn dilyn.
Mae papurau cyfarfod y bwrdd ar gael yma.
Cofnodion wedi'u cadarnhau o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2020.