Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach: Pum blaenoriaeth polisi

Archwilio ein pum maes blaenoriaeth iechyd y cyhoedd a sut y gallant helpu i greu Cymru iachach a thecach i bawb. 

 

 

Pum blaenoriaeth polisi iechyd y cyhoedd i Gymru  

Bywydau hirach, iachach a Chymru decach a mwy llewyrchus 

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu'r cyfle i fyw bywyd hir ac iach.  

Drwy roi atal wrth wraidd ein dull gweithredu, gallwn adeiladu Cymru iachach, decach a mwy llewyrchus ar gyfer y dyfodol a chefnogi system iechyd a gofal gref a chynaliadwy. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi pum maes lle gall gweithredu wneud y gwahaniaeth mwyaf. 

  1. Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd
  2. Llesiant Ariannol
  3. Mannau Iach Bob Dydd
  4. Gofal wedi'i Deilwra i Anghenion Lleol
  5. Planed Iach, Pobl Iach

 

 

Mae cael y dechrau gorau mewn bywyd yn meithrin iechyd a llesiant gydol oes 

Mae'r sylfaen ar gyfer bywyd iach yn cael ei meithrin yn ein blynyddoedd cynnar.  

Camau allweddol:

 

 
Mae llesiant ariannol yn arwain at iechyd gwell ac economi lewyrchus.

Mae gwaith diogel sydd wedi’i wobrwyo’n deg ac sy'n talu cyflog byw yn dda i'n hiechyd.

Camau allweddol: 
  • Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn darparu swyddi diogel a sicr sy'n talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.  
  • Monitro cynnydd ar gydraddoldeb yn y gweithle, gan gynnwys bylchau cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd.  
  • Cefnogi pobl sydd â heriau iechyd i ddechrau gweithio, aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i'r gwaith.  
  • Cysylltu gwasanaethau cyflogaeth â chymorth iechyd yn enwedig i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu iechyd meddwl fel bod pobl yn cael cymorth pan fydd ei angen arnynt. 

 

 
Mae bywydau iach yn dechrau yn ein lleoedd bob dydd.

Pan fydd y lleoedd lle rydym yn byw, bwyta, siopa a chwarae yn iach yn ddiofyn, mae'n haws i bob un ohonom fyw bywydau iachach a hapusach. 

Camau allweddol: 
  • Cynyddu argaeledd cartrefi iach a fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol.  
  • Codi safonau tai rhent preifat.  
  • Lleihau amlygiad ac argaeledd tybaco a fêps drwy drwyddedu manwerthwyr, ac ymestyn parthau di-fwg.  
  • Gwneud bwyd a diod iachach yn opsiynau fforddiadwy a gweladwy mewn siopau a bwytai, a chyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar gyfer bwyd a diodydd llai iach. 

 

 
Mae gofal sydd wedi'i deilwra i anghenion lleol yn meithrin iechyd a gwydnwch.

Mae mynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael - nid y canlyniadau yn unig - yn sicrhau y gall pawb yng Nghymru ffynnu a mwynhau gwell iechyd a llesiant a bod ein system iechyd yn wydn. 

Camau allweddol: 
  • Cynyddu cyfran flynyddol cyllideb y GIG a werir ar atal a gofal sylfaenol a chymunedol yn lle triniaeth ysbyty.  
  • Cysylltu iechyd a gofal cymunedol â gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol i gefnogi'r person cyfan.  
  • Buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd cymunedol, staff medrus, data ac offer digidol sy'n cysylltu â chofnodion iechyd i gefnogi gofal cynnar ac ataliol. 

 

 

Mae planed iach yn amddiffyn ein pobl yn awr ac yn y dyfodol

Mae iechyd pobl a'r blaned yn gysylltiedig â'i gilydd. Mae llawer o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd hefyd yn cefnogi bywydau hirach ac iachach. 

Camau allweddol: 
  • Buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio diogel, llwybrau troed, a chanol trefi di-geir.  
  • Gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch ac yn fforddiadwy, gan gynnwys teithio ar fysiau am ddim i bobl ifanc. 
  • Diogelu cymunedau rhag niwed i iechyd oherwydd newid hinsawdd drwy fynd i'r afael â llifogydd, gwella diogelwch bwyd, sicrhau digon o ddŵr o ansawdd uchel ar gyfer cyflenwad preifat, ac ehangu mynediad at fannau gwyrdd a gorchudd coed


 

Pam mae atal yn bwysig

Mae dull atal yn gyntaf yn bwysicach yn awr yn fwy nag erioed.  

Gall pob £1 a fuddsoddir mewn atal greu elw o £14 i gymdeithas drwy greu pobl iachach, economi gryfach a GIG cynaliadwy.  

Mae gan Gymru fwlch o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes iach i fenywod rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Yn ogystal, mae tair gwaith yn fwy o farwolaethau y gellid eu hosgoi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 

Heb newid, bydd anghydraddoldebau iechyd yn parhau i gostio £322 miliwn i Gymru mewn costau ysbytai’r GIG bob blwyddyn. 

Mae Cymru yn wynebu heriau iechyd sylweddol:

  • Mae 1 o bob 4 o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi 
  • Mae 7.2 miliwn o ddiwrnodau yn cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch bob blwyddyn  
  • Mae 18% o gartrefi yn peri risgiau iechyd 
  • Disgwylir 50,000 yn fwy o achosion o ddiabetes mewn 10 mlynedd  
  • Bron i £1 biliwn y flwyddyn – costau iechyd a chynhyrchiant llygredd aer 

Mae'r bylchau hyn yn annheg a gellir eu hosgoi. 

 

Am Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ni yw sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.  

Gyda’n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Rydym yn arwain ymdrechion atal hirdymor ac iechyd y boblogaeth, gan weithio gyda phartneriaid ledled y wlad i helpu i greu cymunedau iach a llewyrchus. 
Ein nod yw Cymru lle gall pawb fyw bywydau hirach ac iachach gyda mynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n cefnogi iechyd a llesiant da. 
Drwy ddod â thystiolaeth, partneriaeth ac arloesedd at ei gilydd, rydym yn helpu i greu'r amodau i bobl a chymunedau ledled Cymru ffynnu. 

 

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â'n Tîm Eiriolaeth Polisi: phw.advocacy@wales.nhs.uk