Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Mae ein gwybodaeth yn gywir ar adeg ei chyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2026
Cynnwys:
Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws. Mae’n fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Mae’n fwy tebygol y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl sydd mewn mwy o berygl os byddant yn dal COVID-19.
Ymhlith symptomau cyffredin COVID-19 mae pesychu parhaus, methu arogli neu flasu neu newid i'ch synnwyr o arogl neu flas, poenau, cur pen, blinder, a gwendid. Mae rhagor o wybodaeth am COVID-19 ar gael yma: Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYW.CYMRU (safle allanol). Bydd cael eich brechu yn eich helpu i gael symptomau llai difrifol a gwella'n gyflymach.
Mae brechiadau'n achub bywydau ac maent yn ffordd effeithiol o helpu i amddiffyn eich hun rhag mynd yn sâl iawn. Mae brechlynnau ar gyfer COVID-19 yn helpu i'ch amddiffyn rhag y mathau cyfredol o feirysau COVID-19. Yn union fel y ffliw, gall y math presennol newid a gall lefelau amddiffyniad leihau dros amser, felly y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag mynd yn sâl iawn yw cael dos tymhorol.
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar ddefnyddio brechlynnau gwahanol yn rhan o raglenni brechu. Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf priodol, a all fod yr un fath â'r brechlynnau a gawsoch o'r blaen neu'n wahanol iddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 cyfredol, a gweld y daflen wybodaeth i gleifion (safle allanol, Saesneg yn unig). Teipiwch 'COVID-19' yn y blwch chwilio.
Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi pasio safonau diogelwch llym i'w defnyddio yn y DU, ac maent yn ddiogel iawn. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gyfrifol am gymeradwyo'r defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau, a monitro eu diogelwch. Mae'r asiantaeth wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau i’w defnyddio yn y DU gan nodi eu bod yn frechlynnau diogel ac effeithiol ar gyfer COVID-19. Yn yr un modd â phob meddyginiaeth a brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgileffeithiau'r brechlyn COVID-19 yn cael eu monitro a'u hadolygu'n fanwl.
Efallai na fydd y rhai chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol bob amser yn meithrin imiwnedd llawn i COVID-19. Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall arbenigwyr meddygol eich cynghori i gael dosau ychwanegol i wella'ch amddiffyniad. Efallai y cynigir y dosau ychwanegol hyn i chi y tu allan i'r rhaglen dymhorol, i hybu eich amddiffyniad tan yr ymgyrch frechu nesaf.
Os oes gennych gwestiynau, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs y practis. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych chi a oes angen brechlynnau COVID-19 ychwanegol arnoch chi neu'ch plentyn.
Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am y brechlyn COVID-19 isod. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.