Dsgrifiad: Dyma gwrs e-ddysgu rhyngweithiol ar imiwneiddio, sydd wedi’i ysgrifennu'n unol â’r safonau gofynnol cenedlaethol diwygiedig ar gyfer hyfforddiant. Mae’n cynnwys saith sesiwn wybodaeth gydag asesiadau i gyd-fynd â nhw. Mae’r cwrs ar gael i bob ymarferydd gofal iechyd sy’n ymwneud ag imiwneiddio. Argymhellir eich bod yn cael mentor cyn cofrestru ar y cwrs.
Os ydy'r gwaith o imiwneiddio pobl yn newydd i chi, argymhellir eich bod yn cwblhau asesiad cymhwysedd gyda’ch mentor. Cliciwch yma i weld teclyn fframwaith cymhwysedd sydd wedi cael ei greu gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Public Health England.
Addas ar gyfer: Pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â’r broses imiwneiddio yn unrhyw gyd-destun, boed hynny’n roi brechiad i bobl neu gynghori ynghylch brechu ac imiwneiddio.
Hyd: Isafswm o 10 awr
Cofrestru: Mae posib i staff GIG Cymru i gael mynediad at y modiwl (000 Rhaglen Imiwneiddio GIG Cymru) drwy’r ESR.
Sylwch ar ESR, gelwir y Rhaglen Imiwneiddio yn 000 Rhaglen Imiwneiddio GIG Cymru a gellir ei gweld yn yr is-gategori Imiwneiddio a Brechu yn y catalog cyrsiau Gwybodaeth a Sgiliau Galwedigaethol. Rhestrir 000 Rhaglen Imiwneiddio GIG Cymru o dan yr adran Llwybrau Dysgu.
I gael rhagor o gyngor cliciwch yma
Gall staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru gyrchu'r e-Ddysgu ar blatfform Dysgu@Cymru. Cliciwch yma am arweiniad pellach.