Wedi'i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2024-25
Mae'r wybodaeth yn y fersiwn hon yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol o 11.09.2024
Disgrifiad: Mae’n rhoi gwybodaeth am y ffliw a pham mae brechiad rhag y ffliw mor bwysig i bob aelod o staff. Yr enw blaenorol ar y modiwl hwn oedd FluOne.
Addas ar gyfer: Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn rhan o’r GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector/sector gwirfoddol.
Hyd: 5 munud
Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR). I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR, cliciwch yma.
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar eAteb@wales.nhs.uk, neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunan-gofrestru.
Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: Cliciwch ar enw'r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill, os ydych yn ansicr o'ch allwedd cofrestru, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth ar eAteb@wales.nhs.uk.
I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs drwy blatfform Dysgu@Cymru, cliciwch yma.