Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau COVID-19


Rhaglen frechu COVID-19
 

Disgrifiad: Mae rhaglen e-ddysgu Brechiadau COVID-19 yn cynnwys modiwl gwybodaeth graidd a modiwl sy'n canolbwyntio'n benodol ar frechlynnau, gyda modiwlau asesu'n cyd-fynd â nhw. Dylai pawb sy'n dilyn y rhaglen e-ddysgu hon gwblhau’r modiwl gwybodaeth graidd er mwyn cael gwybodaeth hanfodol am COVID-19 ac am y prif egwyddorion imiwneiddio sydd eu hangen i roi’r brechlyn. Yna dylai’r dysgwyr gwblhau'r modiwl(au) sy'n canolbwyntio'n benodol ar frechlynnau ar gyfer y brechlyn neu'r brechlynnau y byddan nhw'n eu rhoi, gan fod y rhain yn rhoi gwybodaeth fanylach amdanynt. Dylid cwblhau'r modiwlau asesu ar ôl pob modiwl. Sylwer: Mae’r modiwlau e-ddysgu COVID-19 yn cael eu diweddaru gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA). Mae’n bwysig felly i imiwneiddwyr yng Nghymru sicrhau eu bod yn ymgyfarwyddo â pholisi Cymru ar y rhaglen frechu COVID-19.

Cofrestru: Bydd staff GIG Cymru yn gallu cael mynediad at y modiwlau COVID-19 drwy ESR. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs, cliciwch yma.

Ar gyfer unigolion nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru, bydd y modiwlau COVID-19 hefyd ar gael gan Dysgu@Cymru.