Mae’r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun diogel a hynod effeithiol sy’n amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela.
Ar y dudalen
Mae’r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun diogel a hynod effeithiol sy’n amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela.
Mae’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela yn afiechydon hynod heintus sy’n gallu lledaenu’n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi’u brechu. Gall yr afiechydon hyn arwain at gymhlethdodau meddygol difrifol, a allai fod yn angheuol, gan gynnwys meningitis (tudalen allanol), enceffalitis (chwydd yn yr ymennydd), a cholli’r clyw. Gall rwbela (brech goch yr Almaen) arwain at gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd sy’n effeithio ar y babi heb ei eni a gall achosi camesgor.
Mae cael eich brechu yn bwysig. Mae’r nifer fawr o bobl sy’n cael y brechlyn MMR yn golygu ei bod bellach yn beth prin i blant yn y DU ddatblygu’r frech goch neu rwbela. Fodd bynnag, mae achosion o'r frech goch a chlwy'r pennau wedi'u gweld yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlyn a’r afiechydon yn: GIG 111 Cymru - Brechiadau (tudalen allanol).
Mae brechlyn MMR yn cael ei roi am ddim fel mater o drefn gan y GIG.
Mae angen dau ddos ar gyfer cwrs llawn y brechlyn MMR:
Hefyd gellir rhoi’r brechlyn MMR drwy’r GIG i blant hŷn, oedolion a babanod dros chwe mis oed sydd angen eu hamddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela a / neu os bydd achosion o’r frech goch.
Os nad ydych chi wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR, rydych mewn perygl o ddal yr afiechydon y mae'r brechlyn yn amddiffyn yn eu herbyn. Os ydych chi wedi cael un dos eisoes, dim ond un dos arall fydd arnoch ei angen, dim ots pa mor bell yn ôl y cawsoch eich dos cyntaf. Os oes arnoch angen dau ddos, gellir eu rhoi un mis ar wahân. Cysylltwch â'ch meddygfa cyn gynted â phosibl i gael unrhyw frechlynnau MMR a gollwyd.
Dylai unrhyw un sydd wedi’i eni ar ôl 1970, gan gynnwys y rhai sydd wedi symud i'r DU, sydd heb gael dau ddos o'r brechlyn MMR drefnu i'w gael yn eu meddygfa.
Mae rwbela (brech goch yr Almaen) yn brin iawn, ond gall fod yn ddifrifol yn ystod beichiogrwydd. Os ydych yn bwriadu cael babi, dylech fod wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR. Gan ei fod yn frechlyn byw, ni allwch ei gael pan fyddwch yn feichiog a dylech osgoi beichiogi am fis ar ôl cael y brechlyn MMR.
Os nad ydych chi wedi cael dau ddos, cysylltwch â'ch meddygfa cyn gynted â phosibl i gael unrhyw frechlynnau MMR a gollwyd.
Os ydych chi'n feichiog neu newydd gael babi a ddim yn siŵr a ydych chi wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR, siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu yn eich apwyntiad nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar drosolwg GIG 111 Cymru - Rwbela (tudalen allanol).
Mae'n bwysig cael unrhyw frechlynnau a gollwyd. Gallwch ofyn i'ch meddygfa am y brechlyn MMR os ydych chi neu'ch plentyn wedi colli un o'r ddau ddos.
Os yw’r brechlyn MMR wedi’i golli, gellir ei roi o hyd i unrhyw oedran. Os ydych chi’n ansicr ynghylch a ydych chi wedi cael dau ddos o’r brechlyn fel plentyn, gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu, a all wirio’ch cofnodion a threfnu brechlyn dal i fyny os oes angen.
Dylai unrhyw un sy'n teithio i ardal sydd wedi cael achosion o'r frech goch, clwy'r pennau neu rwbela gael y brechlyn MMR cyn teithio. Dim ond os nad ydynt wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR o'r blaen y mae hyn yn berthnasol.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlynnau sydd eu hangen ar gyfer teithio ar gael ar GIG 111 Cymru - Brechiadau teithio (tudalen allanol).
Mae amddiffyn gweithwyr gofal iechyd yn arbennig o bwysig, oherwydd efallai y gallant drosglwyddo heintiau'r frech goch, clwy'r pennau neu rwbela i grwpiau agored i niwed. Er y gallant fod angen brechlyn MMR er eu lles eu hunain, dylent hefyd fod ag imiwnedd i'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela er mwyn amddiffyn eu cleifion.
Mae’r brechlyn MMR yn cynnwys fersiynau gwan o feirysau byw y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae’n cael ei roi fel un pigiad i gyhyr y glun neu ran uchaf y fraich.
Mae'r brechlynnau MMR presennol sy’n cael eu rhoi yn y DU yn cael eu hadnabod o dan yr enwau brand MMR VaxPro® a Priorix®. Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlynnau hyn, gallwch weld y taflenni i gleifion gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Mae miliynau o ddosau o'r brechlyn MMR wedi cael eu rhoi ledled y byd ers dros 30 mlynedd. Mae gan y brechlyn enw da iawn o ran diogelwch. Mae sgil-effeithiau’r brechlyn MMR yn ysgafn fel rheol. Mae'n bwysig cofio eu bod yn ysgafnach na chymhlethdodau posibl y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.
I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin edrychwch ar:
Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Gallwch chi ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin wrth GIG 111 Cymru - Cwestiynnau cyffreddin y brechlyn MMR (tudalen allanol).
I archebu copïau o'r taflenni hyn, ewch i'r dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.