Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â thymor ffliw 2025-26.   

Am y brechiad

 

 

Cefndir

Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Mae'n cael ei achosi gan feirws, sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint), a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty. 
 
Mae ffliw yn heintus iawn, a gall symptomau ymddangos yn gyflym iawn. Mae symptomau ffliw yn cynnwys tymheredd uchel, blinder a gwendid, cur pen, poenau a pheswch. Mae rhagor o wybodaeth am y ffliw ar gael o NHS 111 Wales - Lechyd A-Y Ffliw (saffle allanol ) 

Mae achosion o ffliw y rhan fwyaf o aeafau, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal. 
 
Yn ystod gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i amddiffyn rhag y ffliw. 

 

Gwybodaeth am y brechlyn ffliw 

Mae achosion o ffliw bob gaeaf. Mae’n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi’n gymwys. 

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol. 

 
 

 

Oedolion

 

 

Plant a phobl ifanc

 

Fideos - Beth yw'r brechlyn ffliw?

 

 

 

 

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i 111.wales.nhs.uk (safle allanol), siarad â'ch meddyg neu nyrs, neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.  

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gan gynnwys ei gynnwys a sgîl-effeithiau posibl, ewch i www.medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig). Bydd angen i chi nodi enw'r brechlyn yn y blwch chwilio.  

Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir yn www.mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig) (gwefan allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yp).   

Mae'r amserlen sy'n dangos pa frechiadau sy'n cael eu cynnig yn rheolaidd yng Nghymru ar gael o icc.gig.cymru/AmserlenGyflawn