Gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag alergedd i wyau gael y brechlyn chwistrell drwynol heb unrhyw broblemau. Dylai'r nifer bach o unigolion yr oedd angen arnynt driniaeth gofal dwys yn flaenorol (adwaith alergaidd prin, sy'n bygwth bywyd) i wyau gael eu hatgyfeirio i arbenigwr. Mae pigiadau brechlyn ffliw nad ydynt yn cynnwys wyau ar gael.