Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn niwmococol i fabanod

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Clefyd niwmococol yw'r enw ar grŵp o heintiau a achosir gan germ o'r enw niwmococws. Gall yr heintiau hyn fod yn ysgafn, fel heintiau sinws neu haint yn y glust, ond mae rhai yn ddifrifol iawn ac yn gallu arwain at:  

  • Niwmonia – haint yn eich ysgyfaint  

  • Sepsis – ymateb i haint sy'n peryglu bywyd ac yn gallu niweidio'ch corff cyfan  

  • Llid yr ymennydd – chwydd o amgylch eich ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, sy’n gallu achosi problemau iechyd hirdymor neu farwolaeth  

Haint niwmococol yw un o achosion mwyaf cyffredin llid yr ymennydd. 

Gall heintiau niwmococol effeithio ar unrhyw un, ond mae babanod yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn. Cynigir y brechlyn niwmococol i fabanod fel rhan o raglen frechu reolaidd y GIG. Mae’r brechlyn niwmococol yn cael ei gynnig i bob baban pan fyddant yn:  

  • 16 wythnos oed, ac yn  

  • 12 mis oed

Mae'r brechlyn yn rhoi amddiffyniad da yn erbyn haint niwmococol. Nid yw'n amddiffyn rhag llid yr ymennydd sy’n cael ei achosi gan facteria neu feirysau eraill. Felly, mae’n dal yn bwysig eich bod yn ymwybodol o’r arwyddion a'r symptomau i edrych amdanynt. 

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau niwmococol, ewch i Heintiau niwmococol | NHS inform (safle allanol, Saesneg yn unig)

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

 

 

 

Am y brechlyn

 



Diogelwch ac effeithiolrwydd

 



Adnoddau

 

 

Mwy o wybodaeth

www.meningitisnow.org (safle allanol, Saesneg yn unig) 

GIG 111 Cymru – Iechyd A- Y : Niwmonia (safle allanol) 

Heintiau niwmococol | NHS inform (safle allanol, Saesneg yn unig)