Gwybodaeth am frechlynnau yn cynnwys y ffliw, COVID-19, feirws syncytiol anadlol (RSV)
Cynnwys:
Ymunwch â miloedd o bobl yng Nghymru i fanteisio ar y cynnig o gael brechlyn ffliw am ddim. Ewch i wefan eich bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd orau o gael eich brechu.
Rhowch eich cod post isod i ddod o hyd i'ch bwrdd iechyd lleol:
Gall y bobl ganlynol gael brechiad rhag y ffliw y GIG am ddim:
Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i blant ifanc iawn, pobl hŷn, merched beichiog a'r rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.
Y gaeaf diwethaf, roedd angen gofal ysbyty ar fwy na 2,000 o bobl yng Nghymru ar ôl profi'n bositif am y ffliw.
Os cewch gynnig y brechiad rhag y ffliw, mae hyn yn golygu eich bod mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn pe byddech yn dal y ffliw. Bydd y brechlyn yn eich helpu i ddiogelu eich hun rhag salwch difrifol.
Mae'r brechlyn ffliw am ddim ac mae’n cael ei gynnig bob blwyddyn am bod feirysau'n newid yn gyson a bod yr amddiffyniad yn pylu dros amser. Felly hyd yn oed os cawsoch eich brechiad y llynedd, mae'n bwysig eich bod yn ei gael bob blwyddyn.
Mae cael eich brechu cyn i'r feirws ledaenu yn un o'r ffyrdd gorau o ddiogelu eich hun a’i atal rhag lledaenu i'r rhai o'ch cwmpas.
Mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu bob blwyddyn i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid rhag y ffliw. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi eich diogelu cyn tymor y ffliw hefyd. Bydd diogelu eich hun hefyd yn helpu i amddiffyn y rhai sy'n bwysig i chi.
Rhagor o wybodaeth am y brechlyn ffliw.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael brechlynnau GIG eraill am ddim i'ch diogelu y gaeaf hwn fel:
Cael eich brechu yw'r ffordd orau o’ch amddiffyn chi a'r rhai o'ch cwmpas rhag salwch difrifol.