Os ydych chi'n feichiog, gallwch helpu i ddiogelu eich baban rhag y clefyd difrifol hwn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd drwy gael eich brechu.
Mae’r rhaglen frechu wedi bod ar waith ers 2012 ac mae’n effeithiol iawn o ran amddiffyn babanod rhag y pas o’u geni.
Mae'n bwysig eich bod yn cael brechlyn y pas cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ddod yn gymwys o wythnos 16 eich beichiogrwydd.
Bydd yr amddiffyniad y bydd eich baban yn ei gael o ganlyniad i chi’n cael y brechlyn yn pylu, felly mae'n bwysig eich bod yn mynd â'ch baban i gael ei frechiadau arferol.
Mae babanod yn cael cynnig brechlyn y pas fel rhan o'u hamserlen imiwneiddio plant sy'n dechrau pan fyddant yn wyth wythnos oed. Mae'n bwysig eu bod yn cael cynnig yr holl frechiadau ar gyfer y pas er mwyn cwblhau'r amserlen lawn i gael lefel dda o amddiffyniad.
Mae'n bwysig cael eich brechu rhag y pas bob tro y byddwch yn feichiog.