Cynnwys:
I'w gadarnhau.
Dyddiad: Dydd Iau 1 Mai 2025
Lleoliad: Stadiwm Swansea.com (Stadiwm Liberty)
Mae'n bleser gan y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu gyhoeddi y bydd Cynhadledd Imiwneiddio Cymru (WIC) 2025 yn cael ei chynnal yn Abertawe ar 1 Mai.
Yn dod yn fuan.
Dyddiad Cau: I'w gadarnhau
Byddwn yn cysylltu gyda'r gydweithwyr yn fuan ar ôl y dyddiad cau i gadarnhau eu lle ar y diwrnod.
Mae posteri yn rhan bwysig o Gynhadledd Imiwneiddio Cymru gan helpu i rannu mentrau imiwneiddio ac arfer da o bob rhan o Gymru.
Bydd e-bosteri’n cael eu harddangos ar sgriniau yn y gynhadledd a bydd pawb sy’n bresennol yn cael cyfle i’w gweld drwy gydol y dydd ac i bleidleisio dros eu hoff ddau boster.
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi a bydd eu gwobr yn cael ei chyflwyno iddyn nhw a bydd cyfle i dynnu lluniau cyn i'r gynhadledd ddod i ben.
Mae Gwobrau Brechu yn Achub Bywydau (VSL) yma!
Mae’r Gwobrau VSL yn gyfle gwych i gydnabod, gwobrwyo a dathlu rhywfaint o’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n digwydd gyda’n rhaglen(ni) imiwneiddio ni yng Nghymru.
Yn newydd ar gyfer 2025: Categori Gwobr Myfyriwr!
Mae’r ychwanegiad cyffrous hwn at y gwobrau yn cydnabod myfyrwyr cyn-gofrestru (e.e., myfyrwyr nyrsio, bydwragedd neu feddygon) ac yn dathlu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr imiwneiddio!
Mae’r gwobrau cenedlaethol hyn yn agored i dimau ac unigolion sy’n gweithio ar unrhyw agwedd ar imiwneiddio yng Nghymru.
Categorïau Gwobrwyo:
Gwobr Hyrwyddwr – Yn cydnabod unigolyn rhagorol.
Gwobr Tîm - Yn dathlu grŵp o ddau neu fwy yn gweithio ar yr un prosiect.
Gwobr Cydraddoldeb a Chynhwysiant - yn agored i unigolion neu grwpiau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb.
Gwobr Cyflawniad Oes - Yn dathlu cyfraniad unigol hirdymor.
Gwobr Myfyriwr (NEWYDD ar gyfer 2025) - Yn cydnabod myfyriwr cyn-gofrestru.
Pam enwebu?
Bydd pawb a enwebir yn cael eu cydnabod yng Nghynhadledd Imiwneiddio Cymru ar 1 Mai 2025. Bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobr yn ystod y gynhadledd yn Stadiwm Swansea.com (Stadiwm Liberty).
Sut mae enwebu
I weld y meini prawf dyfarnu a chyflwyno enwebiad, cwblhewch y ffurflen gywir gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Gwobr Hyrwyddwr: https://forms.office.com/e/mgZhxvUJD5
Gwobr tîm: https://forms.office.com/e/4p6iLMBnnu
Gwobr Cydraddoldeb a Chynhwysiant: https://forms.office.com/e/R5fvvDFqf3
Gwobr cyflawniad oes: https://forms.office.com/e/qzUGw5tF33
Gwobr myfyriwr (NEWYDD ar gyfer 2025): https://forms.office.com/e/2GhGqE562Y
Sicrhewch eich bod yn cadw'ch derbynneb ar ôl llenwi'r Ffurflen Microsoft.
Dyddiad Cau: 7 Mawrth 2025.
Edrychwch ar enillwyr y llynedd yma: Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2024 (sharepoint.com)
Cwestiynau? Cysylltwch â phw.vaccines@wales.nhs.uk
Cludiant
I'w gadarnhau.
Parcio
I'w gadarnhau.
I gael rhagor o fanylion, gan gynnwys agenda'r gynhadledd, rhestr y siaradwyr, manylion y lleoliad a nawdd, cadwch lygad am ddiweddariadau i'r dudalen yma.
Ar gyfer pob ymholiad am y gynhadledd, cysylltwch â phw.vaccines@wales.nhs.uk