Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ar fêpio i helpu rhieni, gofalwyr, athrawon ac eraill sy’n gweithio gyda phlant oedran uwchradd yng Nghymru.
Mae 'Pobl Ifanc a Fêpio - Gwybodaeth i rieni a gofalwyr' ar gyfer rhieni a gofalwyr i'w helpu i gael dealltwriaeth glir sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fêpio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r arweiniad yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau fêpio ar iechyd a faint o blant a phobl ifanc sy’n fêpio ar hyn o bryd yng Nghymru, yn ogystal â chyngor ymarferol ar sut i adnabod arwyddion posibl fêpio, a sut i gael sgwrs amdano.
Mae 'Gwybodaeth ac Arweiniad ar Fêpio ar gyfer Dysgwyr Oedran Uwchradd yng Nghymru' ar gyfer athrawon a'r rhai sy'n gweithio gyda dysgwyr oedran uwchradd, gan ddarparu data a gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am fêpio. Mae'r adnodd hwn yn helpu ysgolion i fynd i'r afael â fêpio yn eu lleoliadau trwy bolisïau, arferion a chynnwys y cwricwlwm.
Gyda’i gilydd, bydd yr adnoddau hyn yn helpu rhieni, athrawon ac eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i gael sgyrsiau gonest, cefnogol a seiliedig ar ffeithiau am fêpio er mwyn mynd i’r afael â’r materion pwysig.
Nid yw'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn fêpio. Fodd bynnag, mae astudiaethau gan gynnwys Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) wedi dangos bod y defnydd o e-sigaréts ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi bod ar gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae bron i un o bob chwe myfyriwr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio e-sigaréts yn rheolaidd, yn ôl data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a dywed dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigarét.
Er bod newid i fêpio o ysmygu yn dod ag amrywiaeth o fanteision iechyd i ysmygwyr, nid oes unrhyw fudd o fêpio i'r rhai nad ydynt yn ysmygu, yn enwedig plant a phobl ifanc. Am y rheswm hwn, mae eisoes yn anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts i bobl o dan 18 oed.
Prin iawn yw'r dystiolaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd sy'n deillio o’r defnydd o dyfeisiau fêpio. Fodd bynnag, mae fêpio yn rhoi pobl ifanc mewn perygl o fod yn gaeth i nicotin, dibyniaeth sy'n effeithio ar eu haddysg, eu hymddygiad a'u bywyd bob dydd.
Mae effaith y ddibyniaeth hon yn cael ei gweld gan ysgolion sydd hefyd yn adrodd am broblemau cynyddol gyda defnyddio e-sigaréts ac ymddygiadau problemus o ganlyniad. Mae penaethiaid wedi adrodd bod y defnydd o e-sigaréts wedi dod yn broblem gynyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan olygu eu bod yn gorfod monitro ardaloedd penodol o'u safle ar gyfer fêpio (er enghraifft toiledau). Nododd arweinwyr ysgol hefyd gynnydd mewn gwaharddiadau ysgol yn ymwneud â fêpio yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Mae gennym ddiddordeb mewn cael eich adborth ar y ddogfen ganllaw. Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich adborth.