Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau gweithredu ffrydiau gweithgarwch ar gyfer 2024- 2026

Rheoli carbon

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymo i gyflwyno prosesau rheoli carbon ac arferion gorau sy'n ffurfio sylfaen gadarn i alluogi rhoi ein Cynllun Gweithredu ar waith yn llwyddiannus. Mae arferion gorau o ran rheoli carbon yn mynd y tu hwnt i fonitro ac adrodd ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr i gynnwys datblygu a gweithredu cynlluniau gweithredu datgarboneiddio, gosod targedau, a chefnogi newid ymddygiad mewn perthynas â datgarboneiddio. Rydym yn cydnabod bod angen newid penodol yn ein prosesau i roi mwy o bwyslais ar ddatgarboneiddio ar draws 
ein gweithrediadau, wedi’i hwyluso drwy ymgorffori rheoli carbon yn ein cyfarwyddiaethau. Er mwyn galluogi hyn, mae angen inni gefnogi staff i ddeall effaith eu camau gweithredu ar yr amgylchedd a gwella sut rydym yn mesur ein hallyriadau carbon.

Cyflawni sero net 2030
  • Rydym yn deall effaith popeth a wnawn ar yr amgylchedd
Gwneud cynnydd: 2026-2030
  • Gallwn fesur ein hôl troed carbon yn gywir ac mae'r dull gweithredu wedi'i ymwreiddio ym methodoleg rhaglen ni a phrosiectau a'n proses gwneud penderfyniadau
Ycamau nesaf ar gyfer-2026
  • Parthau i ddatblygu ein dull o feithrin gallu a hyfforddiant i gefnogi arferion iechyd y cyhoedd sy'n ymwybodol o'r hinsawdd
  • Myw o ymwybyddiaeth ymhlith staff o bwysigrwydd lleihau ein hôl troed carbon, ac annog staff i fwrw ymlaen â mentrau a chamau gweithredu o fewn eu cyfarwyddiaethau a'u hisa 

 

Cyfeirnod Cam Gweithredu Cam Gweithredu Allweddol: Dyddiad cyfla wni'r cam gweithredu Effaith bosibl ar leihau allyriadau carbon Cysylltiadau 

â'r Economi Sylfaenol

Cysyltiadau 

â'r Economi Gylchol

CMO1 Sefydlu proses a chynnal adolygiad chwarterol a chymharu data i egluro cynnydd a llywio datblygiad parhaus targedau mewnol interim yn unol â thargedau Cynllun Cyflenwi Stratefol Datgarbonediddio GIG Cymru. 02/09/24 Isel    
CMO2 Ymgorffori ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd ym mhroses adrodd Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) Iechyd Cyhoeddus Cymru. 31/05/24 Isel    
CMO3 Datblygu a chyhoeddi Cynllun Datgarboneiddio a Chnaliadwyedd 2026-28 wedi'i ddiweddaru. 31/03/26 Canolig Ie Ie
CMO4 Cytuno ar themâu datgarboneiddio i'w cyflwyno i'w datblygu yng Nghymuned Ymarfer Newid yn yr Hinsawdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. 31/03/26 Isel   Ie
CMO5 Parhau i ddatblygu ein dull o feithrin gallu a hyfforddiant i gefnogi arferion iechyd y cyhoedd sy'n ymwybodol o'r hinsawdd. Bydd hyn yn cynwys hyrwyddo modiwlau hyfforddi ar-lein presennol (ar gael ar ESR), hyfforddiant arddul llythrennedd carbon a phecyn cymorth Amgylchedd Iach yr Hwb. 31/12/25 Isel   Ie
CMO6 Datblygu fynllun cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer gweithgarwch y byddwn yn ei ddefnyffio i ymgorffori ein cynllun gweithredu, codi ymwybyddiaeth ledled y sefydliad ac i gefnogi camu gweithredu i leihau ein hôl troed carbon. 31/07/24 Isel   Ie
CMO7 Cyflwyno gweithdy Amgylchedd Iach i 100% o Gyfarwyddiaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn mis Mawrth 2026. 27/02/2026 Canolig   Ie
CMO8 Datblygu tudalennau datgarboneiddio i staff ar y rhyngrwys a'r fewnrwyd, i hyrwyddo'r cynllun gweithredu a chyflawniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth leihau allyriadau carbon. Cynnwys dolenni i'r economi sylfaenol/economi gylchol, Llesiant Cenedlaethau'r Dyfofol a biomrywiaeth ar dudalennau mewnrwyd eraill. Isel Ie Ie Yes
CMO9 Datblygu dulliau gwell ac awtomataidd ar gyfer coladu data i ddarparu sefyllfa fwy cywir o ran ein hôl troed carbon a'n llinell sylfaen, gan gynnwys allyriadau carbon gweithio gartef. 30/04/25 Isel    
CM10 Gwreiddio mesur ôl troed carbon ac effeithiau'r economi sylfaenol yn ystod camau cynnar cynllunio prosiectau, rhaglenni ac achosion busnes yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau. 22/12/25 Canolig Ie  

Adeiladau a'n hystâd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheoli ein gwasanaethau ledled Cymru. Oherwydd yr amrywiaeth o wasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer ein cymunedau lleol, rydym yn gweithredu o amrywiaeth o adeiladau gwahanol gan gynnwys clinigau, labordai, a swyddfeydd mewn ysbytai mwy a lleoliadau gofal iechyd. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau hyn yn cael eu prydlesu gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau partner o fewn GIG Cymru. Mae ffynhonnell fwyaf arwyddocaol allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n gweithgareddau ar y safle yn gysylltiedig â’r defnydd o drydan a 
nwy. 

Cyflawni sero net: 2030
  • Adeiladau a datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu i safon sero net
  • Lle bo modd, pob adeilad yn cael gwres carbon isel ac yn cynhyrchu eu trydan eu hunain
  • Rydym yn rhannu ein hadeiladau ar draws y sector cyhoeddus
Gwneud cynnydd: 2026-
2030
  • Bydd adeiladau presennol yn hynod ynni-effeithlon neu bydd cynlluniau adnewyddu a gwres adnewyddadwy yn cael eu cyflwyno.
  • Rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd i leihau allyriadau carbon a chynyddu effeithlonrwydd ynni mewn ysbyta
  • Dim plastigion untro yn cael eu defnyddio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru
Y camau nesaf: 2024-2026
  •  Mae ein rhaglenni adeiladu yn cynnwys amcanion sero net gorfodol.
  • Rydym wedi lleihau ein gwastraff ac wedi gweithredu arferion gorau ailgylchu ar draws y sefydliad
  • Rydym yn deall allyriadau carbon staff sy'n gweithio gartref yn fwy cywir

 

Cyfeirnod 
Cam 
Gweithredu
Cam Gweithredu Allweddol: Dyddiad 
cyflawni’r cam 
gweithredu
Effaith bosibl ar 
leihau allyriadau 
carbon
Effaith bosibl ar 
leihau allyriadau 
carbon
Cysylltiad 
â’r 
Economi 
Gylcho
BE01 Cynnal ymarfer costio ar gyfer ein hystâd i lywio 
buddsoddiad mewn technoleg datgarboneiddio yn y 
dyfodol.
31/03/25 Canolig    
BE02 Gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i 
archwilio cyfleoedd i ddefnyddio technolegau 
adnewyddadwy (e.e. Solar Ffotofoltäig) mewn adeiladau 
priodol ar draws ystâd Iechyd Cyhoeddus Cymru 
31/03/26 Canolig    
BE03 Cynnal adolygiad o brosesau presennol y gweithle i bennu 
dulliau i gyfarwyddiaethau leihau gwastraff ar draws yr 
holl weithrediadau lle bo hynny'n ymarferol ac 
ymgorffori'r economi gylchol.
31/03/2025 Canolig   Ie
BE04 Sefydlu proses archwilio i sicrhau bod holl safleoedd 
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gydymffurfio â 
gofynion ailgylchu gwastraff ledled Cymru a chyrraedd 
targedau ailgylchu cenedlaethol.
31/03/26 Isel   Ie
BE05 Cyfathrebu parhaus i gefnogi gwahanu gwastraff yn gywir 
gan staff trwy ddarparu lle, biniau a chymhorthion 
gweledol.
30/09/24 Isel   Ie
BE06 weithio'n agos gyda chontractwyr gwastraff a 
landlordiaid adeiladu i wella data casglu gwastraff.
31/03/25 Isel   Ie
BE07 Adolygu’r defnydd o blastigau untro a rhoi dewisiadau 
amgen cynaliadwy ar waith lle bo’n ymarferol ar gyfer 
meysydd gwasanaeth unigol mewn lleoliadau anghlinigol. 
31/03/26 Canolig   Ie
BE08 Ymchwilio i gyfleoedd ehangach ar gyfer cynlluniau 
gwrthbwyso carbon sydd o fudd i'r amgylchedd a 
chymunedau lleol (e.e. rhaglenni plannu coed).
31/03/25 Canolig Ie  
BE09 Cynnal adolygiad a nodi meysydd i wella sut y defnyddir 
ynni o fewn adeiladau/safleoedd (e.e. lleihau oeri diangen 
yn yr haf a gwresogi yn y gaeaf mewn adeiladau swyddfa). 
31/03/25 Canolig    

Trafnidiaeth a Theithio

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod ganddo rôl bwysig i’w chwarae wrth ddatgarboneiddio ei fflydoedd cerbydau yn ogystal â chefnogi ein gweithwyr i wneud dewisiadau trafnidiaeth iachach a mwy cynaliadwy. Bydd lleihau allyriadau egsôst o’n fflyd cerbydau yn helpu nid yn unig i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ond bydd hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd aer yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae mwyafrif ein hallyriadau trafnidiaeth (52.3%) yn deillio o deithio a gwblhawyd gan ein Fflyd Lwyd (cerbydau sy’n eiddo i staff ac sy’n cael eu 
gyrru at ddibenion busnes). Yn wahanol i’n fflydoedd sy’n eiddo i ni lle gallwn ymyrryd yn uniongyrchol i leihau allyriadau, mae lleihau allyriadau o’n Fflyd Lwyd yn ei gwneud yn ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gefnogi ein staff i fabwysiadu dulliau trafnidiaeth cynaliadwy a galluogi hyblygrwydd i weithio mewn gwahanol ffyrdd.

Cyflawni sero net: 2030
  • Rydym wedi lleihau ein hôl troed carbon ar gyfer trafnidiaeth a theithio i lefelau a welwyd yn ystod y pandemig
Gwneud cynnydd: 2026- 2030
  •  Rydym wedi cynyddu nifer y staff sy’n defnyddio dulliau trafnidiaeth gynaliadwy ac wedi cynyddu’r ganran sy’n teithio’n llesol
  • Cefnogi mwy o staff i weithio'n hyblyg, gan ddefnyddio mannau a rennir a lleihau'r angen am ein hystâd
Y camau nesaf 2024-2026
  • Mae gennym fflyd gwbl drydanol/hybrid o gerbydau a seilwaith ategol ledled Cymru
  • Rydym yn deall ôl troed carbon teithio busnes a chymudo ein staff 
Cyfeirnod 
Cam 
Gweithredu
Cam Gweithredu Allweddol: Dyddiad 
cyflawni’r cam 
gweithredu
Effaith bosibl ar 
leihau allyriadau 
carbon
Cysylltiad â'r 
Economi 
Sylfaenol
Cysylltiad 
â'r 
Economi 
Gylchol
T01 Cynnal adolygiad o ddarpariaeth gwefru cerbydau trydan ar 
gyfer cerbydau staff ac ymgysylltu â pherchnogion safleoedd
i gynyddu’r ddarpariaeth seilwaith. 
28/02/25 Isel    
T02 Caffael cerbydau trydan batri a/neu gerbydau allyriadau isel 
iawn (hybrid) yn lle’r fflyd DESW. 
31/03/26 Uchel    
T03 Adolygu opsiynau ac ymarferoldeb ar gyfer gwefru beiciau 
trydan ar gyfer staff ac ymgysylltu â pherchnogion safleoedd 
i gynyddu'r ddarpariaeth.
28/02/25 Isel    
T04 Datblygu polisi teithio Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgorffori 
teithio cynaliadwy ac ystyried adborth o arolwg teithio staff 
2023. 
31/03/25 Uchel    
T05 Defnyddio’r data a’r mewnwelediadau a gasglwyd fel rhan 
o’r arolwg teithio staff a grwpiau ffocws i ystyried ymyriadau 
posibl, archwilio cyfleoedd a hyrwyddo opsiynau i gefnogi 
ymddygiadau teithio iach a chynaliadwy, a hyrwyddo 
cymudo a theithio busnes gwyrddach.
23/12/24 Canolig    
T06 Ehangu ymrwymiadau Siarter Teithio Iach Caerdydd ar 
draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gwmpasu pob safle 
ledled Cymru.
31/03/26 Isel    
T07 Proses wedi’i datblygu i gasglu data allyriadau ar gyfer pob 
math o deithiau busnes staff (gan gynnwys trên, bws, fferi, 
awyr, car – un person yn unig, car – rhannu car ac ati)
30/06/24 Isel    
T08 Casglu a choladu data cymudo staff yn flynyddol  31/03/26 Isel    

 

Caffael

Mae caffael nwyddau a gwasanaethau drwy Wasanaethau Caffael PCGC yn cynrychioli effaith amgylcheddol anuniongyrchol fwyaf Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond mae hefyd yn gyfle i gefnogi datgarboneiddio traws-sector ar draws ein cadwyn gyflenwi. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio deall sut mae ein hymddygiad presennol yn ymwneud â chaffael yn cyfrannu at ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a bydd yn nodi camau gweithredu i wella cynaliadwyedd ein nwyddau caffael. Mae lleihau’r nwyddau hyrwyddo plastig untro sy’n cael eu caffael ac adolygu’r gofyniad i gael copïau caled o gyhoeddiadau, yn ddwy enghraifft yn unig o sut y gallwn geisio lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cyflawni sero net: 2030
  • Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gadwyn gyflenwi sydd bron yn sero net yng Nghymru
Gwneud cynnydd: 2026-
2030
  • Rydym wedi gweithio gyda’n cyflenwyr mwyaf i archwilio cyfleoedd i leihau effeithiau hinsawdd a’n hallyriadau carbon cysylltiedig
  • Mae gofyn am ddewisiadau amgen di-garbon a defnyddio egwyddorion economi gylchol yn arfer arferol ac yn cael ei gefnogi ar draws y sefydlia
Y camau nesaf 2024-2026
  • Mae pob gweithgaredd caffael yn cynnwys isafswm pwysoliad o ran lleihau carbon
  • Rydym wedi gweithio gyda PCGC i gael gwell dealltwriaeth o’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’n cadwyn gyflenwi ac wedi nodi meysydd sy’n cael yr effaith fwyaf
Cyfeirnod 
Cam 
Gweithredu
Cam Gweithredu Allweddol: Cam Gweithredu Allweddol Effaith bosibl ar 
leihau allyriadau 
carbon
Cysylltiad â'r 
Economi 
Sylfaenol
Cysylltiad 
â'r 
Economi 
Gylcho
P01 Ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob manyleb sefydliadol, i 
sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys mewn gwerthusiadau 
caffael.
31/01/25 Canolig    
P02 Creu canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer ysgrifennu 
manylebau a phwysoli elfennau cynaliadwyedd mewn 
tendrau. Ymgorffori Egwyddorion Economi Gylchol a’r 
Economi Sylfaenol ym mhob manyleb tendro.
31/01/25 Canolig Ie Ie
P03 Cynnal ymarfer gyda rheolwyr contract i ddatblygu 
cynlluniau gweithredu yn dilyn adolygiad o nodweddion 
gwyrdd/economi sylfaenol/cyflogwyr cyflog byw ein pum 
prif gyflenwr
11/04/25 Canolig Yes  
P04 Gweithio gyda rheolwyr contract i gynnal gwerthusiad o’r 
ymarfer cynlluniau gweithredu ac ystyried ffyrdd y gallai 
Iechyd Cyhoeddus Cymru ddylanwadu ar y meysydd hyn.
30/05/25 Canolig Yes  
P05 Gweithio gyda thîm caffael PCGC i gynnal adolygiad o Iechyd 
Cyhoeddus Cymru yn erbyn caffael gwasanaethau a letyir, er 
mwyn deall ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 
well.
30/09/24 Isel    
P06 Gweithio gyda thîm caffael PCGC i gynnal adolygiad o Iechyd 
Cyhoeddus Cymru yn erbyn caffael gwasanaethau a letyir, er 
mwyn deall ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 
well.
31/03/26 Canolig Yes  
P07 Rhoi prosiect ar waith i leihau’r defnydd o bapur ymhellach 
a sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddi-bapur yn y 
dyfodol.
25/10/24 Canolig   Ie
P08 Gweithredu argymhellion o adroddiad plastig untro yn ein 
Gwasanaethau Microbioleg a datblygu cynlluniau 
gweithredu i ehangu ar draws y gwasanaeth.
30/09/25 Canolig   Ie
P09 Adolygu gwariant gyda rheolwyr caffael i nodi meysydd 
gwariant allweddol y gellir canolbwyntio arnynt ar gyfer yr 
effeithiau mwyaf o ran lleihau allyriadau carbon.
31/10/25 Canolig    
P10 Datblygu a chyhoeddi Cod Ymarfer Caffael Cynaliadwy i 
gynorthwyo rhyngweithio â'n cyflenwyr. I gynnwys 
asesiadau risg, cynnwys rheoli carbon mewn tendrau ac ati.
31/03/25 Medium Ie Ie
P11 Datblygu canllaw gwybodaeth i gyflenwyr ar ofynion Iechyd 
Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chaffael ac ôl troed 
carbon.
27/06/25 Isel    
P12 Adolygu ymddygiad caffael presennol yn y sefydliad a darparu ymgysylltiad a negeseuon defnyddiol i staff i gefnogi 31 Mawrth 2025IselTudalen 28 o 33 Fersiwn 2 20/03/24 newid ymddygiad a hyrwyddo arferion gorau. Cynnwys hyrwyddo e-ganllaw ‘Ni yw’r Newid – Caffael nad yw’n costio’r ddaear’. Creu astudiaeth achos ar arferion gorau caffael yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. 31/03/25 Isel    
P13 Cyfrannu at gwmpasu a datblygu rhaglen 'Iechyd y Cyhoedd 
yn yr Economi Llesiant' i gefnogi'r GIG fel Economi Sylfaenol 
a buddsoddi mewn ataliaeth ar gyfer y GIG, Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd. O dan flaenoriaeth strategol System iechyd a gofal cynaliadwy, AS4.2
30/04/25 Isel Ie  

 

Dulliau o gyflenwi ein gwasanaethau

Mae llawer o dystiolaeth bod cysylltiad arwyddocaol rhwng effeithiau Newid yn yr Hinsawdd ac iechyd a llesiant pobl. Mae'r effeithiau sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiant sy'n deillio o Newid yn yr Hinsawdd yn amrywio'n fawr; yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol ac ariannol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae anghydraddoldebau economaidd ac iechyd presennol yn golygu bod risgiau iechyd a llesiant yn debygol o effeithio’n anghymesur ar y rhai ar incwm is. Mae angen i'n dull o ddarparu gwasanaethau gynnwys yr effeithiau hyn a sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'n effeithiol ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.

Cyflawni sero net: 2030 
  •  Mae'r holl wasanaethau a ddarparwn i'r cyhoedd yn garbon niwtral
Gwneud cynnydd: 2026- 2003
  • Rydym wedi lleihau canran y plastigau untro sy’n cael eu caffael a’u defnyddio yn ein Gwasanaethau Microbioleg a Sgrinio
  • Rydym wedi lleihau’r gwastraff y mae ein gwasanaethau’n ei gynhyrchu ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru 50%
  • Presgripsiynu Cymdeithasol yw’r norm ledled Cymru
Y camau nesaf: 2024-2026
  • Rydym wedi trosglwyddo i Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer gwasanaethau sgrinio a microbioleg, lle y bo’n briodol
Cyfeirnod 
Cam 
Gweithredu
Cam Gweithredu Allweddol: Dyddiad 
cyflawni’r cam 
gweithredu
Effaith bosibl ar 
leihau allyriadau 
carbon
Cysylltiad â'r 
Economi 
Sylfaenol
Cysylltiad 
â'r 
Economi 
Gylchol
A01 Cynnal adolygiad o weithrediadau darparu gwasanaeth 
presennol i nodi lle gellir newid neu optimeiddio 
gweithdrefnau a phrosesau i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.
31/03/25 Canolig    
A02 Gan weithio gyda’r grŵp Awdurdod Data Dylunio Digidol, 
cwblhau adolygiad o’r dull presennol o ddarparu ein 
gwasanaethau i nodi meysydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru 
a allai elwa’n sylweddol o ddigideiddio. 
25/04/25 Canolig    
A03 Gan weithio gyda’r grŵp Awdurdod Data Dylunio Digidol, 
cwblhau adolygiad o’r dull presennol o ddarparu ein 
gwasanaethau i nodi meysydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru 
a allai elwa’n sylweddol o ddigideiddio. 
23/12/24 Uchel    
A04 Pontio i PPE y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer gwasanaethau 
sgrinio a microbioleg, lle bo'n briodol.
31/03/25 Canolig   Ie
A05 Gweithio gyda phum prif gyflenwr Iechyd Cyhoeddus Cymru 
i nodi meysydd posibl lle gellir lleihau gwastraff.
11/04/25 Canolig    
A06 Hyrwyddo'r defnydd o'r "Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer 
Presgripsiynu Cymdeithasol".
21/06/24 Isel    
A07 Cynnal treialon o fewn ein Gwasanaethau Microbioleg i nodi 
lle gellir newid deunyddiau i ddewisiadau amgen mwy 
cynaliadwy. Canolbwyntio ar eitemau effaith carbon uchaf 
gan gynnwys sterileiddio dolen, bagiau sbesimen, poteli 
toddiannau a phlatiau agar.
28/11/25 Canolig   Ie
A08 Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth newydd erbyn 
diwedd 2024.
22/12/24 Isel    
A09 Cyhoeddi adroddiad ar Ddyletswydd Adran 6 Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau ar ddiwedd 2025. 31/12/25 Isel