Neidio i'r prif gynnwy

Sut fydd fy nata yn cael eu storio neu eu defnyddio?

Mae diogelu data personol yn un o brif flaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru a DJS Research Ltd, a bu erioed felly. Mae DJS Research yn cydymffurfio â chanllawiau a 
gofynion y cod ymddygiad proffesiynol sy'n berthnasol i bob cwmni ymchwil i'r farchnad cofrestredig a'r holl reoliadau lleol presennol, yn enwedig o ran diogelu data 
ymatebwyr. Mae DJS Research yn defnyddio technegau anhysbysu i ddiogelu data personol ymatebwyr. Fel rhan o'i weithrediadau casglu data, mae mynediad at ddata personol wedi'i gyfyngu i'r bobl sydd angen gweithio gyda'r data yn uniongyrchol yn unig.

Bydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio am gyhyd ag sydd ei angen at ddibenion Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Ar ben hynny, ni fydd eich data personol yn cael eu storio'n uniongyrchol gyda'r atebion arolwg a ddarperir gennych.

Os ydych chi'n poeni am sut mae eich data yn cael eu rheoli, ewch i hysbysiad preifatrwydd DJS Research a hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd). Mae croeso i chi anfon e-bost hefyd i SiaradICCymru@djsresearch.com neu ffonio 01663 761 697 i drafod unrhyw bryderon.