Cyhoeddig: 11 Medi 2023
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog rhieni i frechu plant ifanc rhag y feirws ffliw yr hydref hwn, i'w hamddiffyn rhag cael heintiau eilaidd. Y llynedd roedd bron i 800 o blant 2-16 oed yn yr ysbyty gyda ffliw, a derbyniwyd 78 y cant ohonynt oherwydd y ffliw.
Mae pryder o hyd y gallai plant na ddaethant i gysylltiad â'r feirws ffliw rhwng 2020-2022, pan nad oedd llawer o gymysgu cymdeithasol, fod yn arbennig o agored i niwed. Gall plant ifanc ddal a lledaenu ffliw yn hawdd a gallant ddioddef symptomau annymunol. Gall dal ffliw hefyd arwain at heintiau eilaidd fel broncitis a niwmonia. Dyna pam ei bod yn bwysig bod rhieni plant dwy a thair oed yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad ffliw ar gyfer eu plentyn yr hydref hwn. Mae brechu plant nid yn unig yn eu hamddiffyn, ond mae hefyd yn amddiffyn perthnasau hŷn, y gymuned ehangach a'r GIG. Bydd pob plentyn oed ysgol hefyd yn cael cynnig y brechlyn ffliw. Mae feirysau ffliw yn newid yn gyflym, felly bob blwyddyn mae angen brechlyn wedi'i ddiweddaru i gynnig amddiffyniad.
Mae ffliw a Covid-19 yn salwch anadlol sy'n ffynnu yn y gaeaf. Cael eich brechu yw'r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn clefyd difrifol. “Bydd rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 yn fyw cyn bo hir hefyd. Mae pawb dros 65 oed ymhlith y rhai sy'n cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.
I hyrwyddo'r brechiadau hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch i annog pobl i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn. Gan ganolbwyntio ar y thema “gwisgo eich cot gaeaf”, mae'n annog pobl i gael eu brechlynnau i ychwanegu haen ychwanegol o amddiffyniad yn y misoedd oer sydd i ddod.
Bydd meddygon teulu a byrddau iechyd yn cysylltu â'r rhai sy'n gymwys gyda manylion ynghylch pryd a ble y gallant gael eu brechu. Cynghorir pobl i ddod ymlaen cyn gynted â phosibl unwaith y cysylltir â nhw i gael eu brechiad.
Gyda disgwyl pwysau'r gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.
Fel yr esbonia Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Gall ffliw fod yn ddifrifol. Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Yn yr un modd, mae brechiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19 yn ymestyn yr amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol. Mae unrhyw sgil-effeithiau o'r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd. Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunan ac eraill y gaeaf hwn yn erbyn salwch difrifol.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, “Brechu yw un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd ar gyfer ein hiechyd ein hunain, a dyma'r cam ataliol pwysicaf y gall GIG Cymru ei gynnig i bobl yng Nghymru. Mae'r hen a'r ifanc iawn yn wynebu risg benodol o salwch anadlol, a bydd ein dull ar gyfer rhaglen frechu anadlol y gaeaf yn sicrhau bod y rhai sy'n gymwys yn cael eu hamddiffyn rhag COVID-19 a ffliw tymhorol. Rwy'n annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer y ddau frechlyn hyn pan fyddant yn cael eu cynnig, yn enwedig yn sgil yr amrywiolyn newydd o Omicron (BA.2.86), fel y gallwn barhau i amddiffyn ein hanwyliaid a chadw Cymru'n ddiogel y gaeaf hwn.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys pwy sy'n gymwys i gael y brechlynnau ffliw a Covid-19 am ddim, cliciwch yma.