Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2021
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (18 Mawrth 2021) yn galw am fwy o bwyslais ar degwch iechyd – sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach – mewn ymateb i'r Coronafeirws ac adfer ohono.
Mae’r adroddiad wedi'i baratoi gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhan o fenter fyd-eang – a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – gan roi Cymru ar flaen y gad fel gwlad sy'n hyrwyddo, yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag annhegwch ym maes iechyd.
Mae'r adroddiad agoriadol hwn yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach y pandemig, nad ydynt yn amlwg ar unwaith, ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:
Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol
Diweithdra, addysg a'r gagendor digidol
Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu
Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi'i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae pobl ifanc yn nodi eu bod yn poeni am golli eu swydd neu fethu dod o hyd i swydd; ac mae'r gagendor addysgol wedi parhau a chynyddu, yn enwedig i'r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig y Coronafeirws yn arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd, llesiant ac economaidd-gymdeithasol. Mae'n cael ei deimlo'n anghyfartal ar draws ein cymdeithas gan fygwth y rhai mwyaf anghenus.
“Fodd bynnag, yng nghanol yr argyfwng, mae cyfle newydd wedi codi. Mae iechyd cyhoeddus wedi dod yn ffocws byd-eang, gan gryfhau'r achos dros fuddsoddi yn llesiant pobl - atal clefydau'n gynnar, diogelu a hybu iechyd, gwella cydnerthedd a thegwch, cefnogi'r mwyaf agored i niwed a grymuso ein cymunedau.”
“Gan weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Cymru yw'r wlad gyntaf i fod yn ddylanwadwr byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd.
“Wedi'i gyflwyno drwy ein Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, mae'r fenter Adroddiad ar Statws Tegwch Iechyd Cymru yn rhoi llwyfan ar gyfer cyfosod a rhannu tystiolaeth a gwybodaeth, datblygu offer ymarferol a helpu i gau'r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella ein dealltwriaeth ar y cyd o effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pandemig y Coronafeirws ac yn cefnogi ymateb cynaliadwy a theg ac adfer yng Nghymru.”
Mae’r adroddiad yn rhoi darlun o'r niwed amrywiol, yn ogystal â chyfleoedd sy'n deillio o bandemig y Coronafeirws a mesurau cyfyngol cysylltiedig, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau anghyfartal ar draws gwahanol sectorau, meysydd bywyd a grwpiau poblogaeth; a sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain.
Er enghraifft, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at dechnoleg ddigidol fel modd i bobl allu cefnogi a chynnal eu llesiant meddyliol. Ystyrir bod technoleg ddigidol yn hanfodol wrth ysgogi pobl ifanc i liniaru effeithiau'r pandemig a chryfhau cydnerthedd unigol a chymdeithasol yn erbyn ergydion a thrychinebau yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae gagendor digidol yn bodoli, o ran mynediad anghyfartal at dechnoleg ddigidol, neu arbenigedd ohoni, sy'n atal rhai unigolion rhag gweithio gartref. Mae hyn wedi cael effaith anuniongyrchol fawr ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys ‘allgáu digidol’ y rhai o gefndir difreintiedig, yn ogystal â phobl hŷn a grwpiau ymylol.
Mae data o Gymru yn dangos bod:
Mwy nag un o bob 10 o bobl (11 y cant) wedi'u cofnodi fel rhai nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd (‘wedi'u hallgáu'n ddigidol’)
Nododd bron un o bob pump (19 y cant) yng Nghymru nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau digidol sylfaenol, sy'n sylweddol uwch na gweddill y DU
Nid oedd gan 60 y cant o oedolion wybodaeth a sgiliau digidol sylfaenol pan achosodd y pandemig i weithleoedd ac ysgolion gau
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan: "Yn ystod y pandemig rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau newydd i fynd i'r afael â'r gagendor digidol a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf.
“Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn i bobl hŷn a'n hymgyrch Edrych ar ôl ein gilydd yn ddiogel sy'n rhoi cyngor ar sut i gadw mewn cysylltiad ac atal teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd.
"Wrth symud ymlaen byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gan bawb fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, p'un a ydynt yn ifanc neu'n hen, a lleihau nifer y bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Yn ystod y pandemig:
Darparodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn ychwanegol i ddarparu gliniaduron a rhyngrwyd symudol ar gyfer disgyblion sydd ‘wedi'u hallgáu'n ddigidol’. Defnyddiwyd cyllid ar gyfer darparu 10,848 o ddyfeisiau WiFi a 9,717 o drwyddedau meddalwedd
Darparodd Llywodraeth Cymru 1100 o ddyfeisiau i gartrefi gofal i alluogi apwyntiadau rhithwir y GIG a helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad
Mae cynllun cydnerthedd COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ôl-16 yn amlinellu strategaeth i gefnogi dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr yn ystod yr achos o COVID-19 ac ar ôl hynny
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn hyfforddi staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i sicrhau y gallant gefnogi pobl i gadw mewn cysylltiad yn ystod y pandemig ac atal teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd."
Mae’r adroddiad, ‘Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd yr ymateb cynaliadwy i COVID-19 ac adfer ohono: Adeiladu bywydau llewyrchus i bawb yng Nghymru’ yn rhoi darlun manwl o'r effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y mae Coronafeirws wedi'u cael ar bobl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar leihau'r bwlch iechyd cynyddol. Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau i wella iechyd a llesiant, ac eirioli dros hynny a chyflawni bywydau llewyrchus iach i bawb yng Nghymru a thu hwnt.