Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi cyngor i fenywod beichiog yn ystod y tymor wyna

Mae menywod beichiog yng Nghymru yn cael eu hatgoffa i gadw draw o anifeiliaid sy'n rhoi genedigaeth, neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, neu sydd wedi erthylu.  Daw'r cyngor, sydd hefyd yn berthnasol i fenywod nad ydynt efallai'n siŵr a ydynt yn feichiog, yn ystod y tymor wyna yng Nghymru.  Mae'r cyngor yn cael ei roi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd y risg i feichiogrwydd o heintiau a all ddigwydd mewn rhai mamogiaid. 

Gall menywod beichiog a'r rhai a allai fod ag imiwnedd gwan yn sgil cyflwr meddygol neu gemotherapi, ac sy'n dod i gysylltiad agos â defaid yn ystod wyna beryglu eu hiechyd eu hunain a'u plentyn heb ei eni, o heintiau a all ddigwydd mewn rhai mamogiaid. Mae’r rhain yn cynnwys erthylu ensootig (EAE), twymyn Q, Salmonela a heintiau Campylobacter yn ogystal ag achosion heintus eraill erthyliad sydd â photensial milheintiol gan gynnwys Tocsoplasma a Listeria.  

Meddai Dr Robert Smith, Gwyddonydd Clinigol Milheintiau, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod nifer y beichiogrwydd dynol yr effeithir arnynt gan gysylltiad ag anifail heintiedig yn fach iawn, gall yr effaith unigol fod yn uchel. Felly mae’n bwysig bod menywod beichiog yn ymwybodol o'r risgiau posibl ac yn cymryd rhagofalon priodol. Nid yw’r risgiau hyn yn gysylltiedig â defaid yn unig, nac wedi'u cyfyngu i'r gwanwyn yn unig (pan gaiff y rhan fwyaf o ŵyn eu geni).  

“Efallai na fydd yn amlwg i ddechrau bod mamog yn erthylu neu'n rhyddhau deunydd neu hylifau a allai fod yn heintus. Gall gwartheg a geifr sydd wedi rhoi genedigaeth neu erthylu yn ddiweddar, yn aml ar adegau eraill o'r flwyddyn gario heintiau tebyg.” 

Er mwyn osgoi'r risg bosibl o haint, dylai menywod beichiog sicrhau'r canlynol: 

  • Ni ddylent helpu mamogiaid i wyna, na rhoi cymorth gyda buwch sy'n geni llo neu afr fenyw sy'n bwrw myn 
  • Dylent osgoi cysylltiad ag ŵyn, lloeau neu fynnod sydd wedi'u herthylu neu newydd-anedig, neu â'r brych, hylifau geni neu ddeunyddiau (e.e. deunydd gorwedd neu ddillad) sydd wedi'u halogi gan gynnyrch geni o'r fath, brechlynnau neu ddefaid a frechwyd yn ddiweddar 
  • Dylech osgoi trafod (gan gynnwys golchi) dillad, esgidiau neu unrhyw ddeunyddiau a allai fod wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, eu hepil neu frych. Bydd dillad a allai fod wedi'i heintio yn ddiogel i'w drafod ar ôl cael ei olchi ar gylch poeth 
  • Sicrhewch fod cysylltiadau neu bartneriaid sy'n bresennol wrth wyna mamogiaid neu anifeiliaid eraill sy'n rhoi genedigaeth yn cymryd rhagofalon iechyd a hylendid priodol eraill, gan gynnwys gwisgo cyfarpar a dillad diogelu personol a golchi digonol i gael gwared ar unrhyw halogiad posibl 
  • Os nad yw'n bosibl glanhau'n drylwyr yn ystod y nos, dylent gysgu mewn ystafelloedd gwely ar wahân 
  • Sgwriwch eich dwylo â sebon a dŵr (nid yw geliau llaw yn briodol), a chadwch ewinedd yn fyr ac yn lân 
  • Dylai menywod beichiog geisio cyngor meddygol os byddant yn profi twymyn neu symptomau sy'n debyg i ffliw neu os ydynt yn pryderu y gallent fod wedi cael haint o amgylchedd fferm. 

Mae gan ffermwyr a cheidwaid da byw gyfrifoldeb i leihau'r risgiau i fenywod beichiog, gan gynnwys aelodau o'u teulu, y cyhoedd a staff proffesiynol sy'n ymweld â ffermydd. Cynghorir na ddylai menywod beichiog ac unigolion ag imiwnedd gwan fod yn rhan o ofal neu hwsmonaeth anifeiliaid beichiog iawn  

Mamogiaid sy'n Erthylu – Pwysigrwydd Diagnosis 

Os bydd mamog yn erthylu, cynghorir ffermwyr i gynnwys eu milfeddyg mewn ymchwiliad. Gall hyn gynnwys archwilio a phrofi'r ffetws a'r brych sydd wedi'u herthylu. Yng nghanolfan ymchwilio filfeddygol leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i benderfynu ar yr achos.   

Gwaredu brych 

Er budd hylendid, dylai ffermwyr gael gwared ar bob brych yn brydlon ac yn ddiogel yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

Gwybodaeth ddefnyddiol: