Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio cyfarwyddwyr anweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am benodi tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fel cyfarwyddwr anweithredol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a’ch profiad i wneud cyfraniad i’n gweledigaeth: Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru. 

Wrth gyflawni ein gweledigaeth, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rôl ganolog yn ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ar draws Cymru.

Byddwch yn ymuno â ni ar adeg gyffrous, wrth i ni weithredu ein strategaeth hirdymor. Ein huchelgais ar gyfer pobl Cymru yw, erbyn 2030:

  • y bydd ganddynt gyfle mwy cyfartal o fyw bywyd boddhaus, yn rhydd rhag salwch y gellir ei atal 
  • y byddant yn gwybod sut i gefnogi lles meddwl eu teuluoedd, sy’n cynorthwyo pawb i fod yn ddinasyddion iach yn feddyliol gyda mwy o gadernid a lles meddwl gwell 
  • y byddant yn byw mewn amgylchedd a chymdeithas lle mae dewisiadau iach yn ddewisiadau hawdd; ac yng Nghymru lle bydd 
  • plant wedi cyflawni eu potensial llawn

Rydym eisiau Cymru:

  • â gwasanaethau iechyd y boblogaeth ac ymyriadau sydd yn seiliedig ar ddeallusrwydd a dadansoddiad o safon fyd-eang, gan roi’r elw mwyaf ar fuddsoddiad
  • lle mae’r pwyslais wedi symud o ofal yn yr ysbyty i’r gymuned; llai o faich clefydau yn sgil cyflyrau hirdymor gyda llai o achosion, canfod cynnar a chyfraddau goroesi gwell; a hefyd Cymru  
  • gyda ffocws ar ataliaeth ac ymyrraeth gynnar 
  • gyda llai o heintiau ac sydd yn barod ar gyfer ac yn gallu delio ag effeithiau disgwyliedig newid hinsawdd 

Mae'r manylion am y rolau isod a gellir hefyd eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru lle gallwch hefyd yn dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais.

Neges o Jan Williams - Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

 

Ynglŷn â’n Bwrdd

Mae Kate a Judi yn rhannu ei rhesymau dros ddewis ymuno â'r bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i diddordebau allweddol.

Kate Eden - is-cadeirydd 

 

 

Judi Rhys - Cyfarwyddwr anweithredol (Trydydd Sector)

 

 

Gwybodaeth am y swydd 

Swydd un – Swydd Prifysgol (1 swydd – tua 4 diwrnod y mis)

Bydd gennych, fwy na thebyg, neu byddwch wedi cael profiad sylweddol trwy fod wedi gweithio fel academydd profiadol mewn maes yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth mewn Prifysgol. Mae eich dealltwriaeth a’ch gwerthfawrogiad o faterion yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth ar gyfer Cymru yn hanfodol ac os nad oes gennych bortffolio sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd y boblogaeth, bydd eich dealltwriaeth a’ch ymrwymiad i egwyddorion iechyd y boblogaeth yn allweddol i’ch gallu i gyflawni’r swydd hon. 

 


Swydd dau – Swydd iechyd y cyhoedd (1 swydd – tua 4 diwrnod y mis)

Byddwch, fwy na thebyg, yn gweithio ym maes, neu wedi cael swydd, arweinyddiaeth genedlaethol yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth ar lefel uwch, gyda phrofiad sylweddol yn arwain gwelliannau ar raddfa fawr ym maes iechyd a llesiant.  Bydd eich dealltwriaeth a’ch gwerthfawrogiad o faterion yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth, ac amgylchedd polisi, yng Nghymru, yn hanfodol i’ch gallu i gyflawni’r swydd hon. 

 


Swydd Tri - Rôl Awdurdod Lleol (0.5 swydd - tua 2 ddiwrnod y mis)

Byddwch wedi gweithio yn ddiweddar mewn, neu yn dal i weithio ar lefel uwch, mewn amgylchedd cysylltiedig ag Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd eich dealltwriaeth a'ch gwerthfawrogiad o swyddogaeth Awdurdodau Lleol, eu heriau ynghyd â'u rôl bwysig wrth gyfrannu at iechyd y boblogaeth yn allweddol i'ch gallu i gyflawni'r rôl hon. Rydym yn chwilio am rywun i rannu'r rôl hon yn gyfartal, ac ochr yn ochr â'n Cyfarwyddwr Anweithredol presennol, Alison Ward. Mae hwn yn gyfle unigryw i rannu cyfrifoldeb Cyfarwyddwr Anweithredol gyda gofyniad o oddeutu 2 ddiwrnod y mis.

 

 

Am mwy o wybodaeth am ein Bwrdd a’n Tîm Gweithredol cliciwch yma

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:       16:00, 13 Chwefror 2020
                  Dyddiad cyfweld:        2 a 3 Ebrill 2020       

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Busnes y Bwrdd: 07711 819665.