Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon cynyddol am gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Datganiad gan Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau (sy'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru).
 

Cynnydd yn nifer yr achosion positif ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg

“Er gwaethaf y mesurau cynyddol a'r cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf yn gynharach yr wythnos hon, mae achosion o'r Coronafeirws ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg yn parhau i godi ac maent yn destun pryder gwirioneddol. 

“Yn rhwystredig, mae rhai pobl yn dal i beidio â dilyn y canllawiau ac maent yn anghofio bod yn ofalus, yn enwedig yng nghwmni pobl y maent yn eu hadnabod yn dda. 

“Nid yw'r Coronafeirws dim ond yn effeithio ar yr oedrannus a’r rhai agored i niwed. Gall effeithio ar unrhyw un ohonom. Mae'r cynnydd mewn achosion yn y grŵp oedran 40 oed a throsodd yn dangos bod trosglwyddo'n digwydd rhwng cysylltiadau agos; mae hynny rhwng ffrindiau ac aelodau o'r teulu.  

“Ar draws ein rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, rydym hefyd yn gweld amrywiad o batrymau trosglwyddo o glystyrau bach i nifer mawr o achosion. 

“Mae'r Tîm Rheoli Digwyddiadau yn cydnabod yn llawn bod y cynnydd mewn achosion positif yn dilyn patrymau gwahanol ar draws bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a Rhondda Cynon Taf. 

“Yn fras, ar draws Rhondda Cynon Taf, mae'r achosion yn gyffredinol yn ymwneud â niferoedd lluosog o glystyrau bach.  Ym Merthyr rydym yn gweld llai o glystyrau ond mae'r rhain yn cynnwys nifer mwy o achosion.  
 

Achosion Pen-y-bont ar Ogwr yn codi

“Dros y saith diwrnod diwethaf, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae hwn yn achos pryder gwirioneddol ac mae'r sefyllfa hon sy'n datblygu yn cael ei monitro'n agos iawn.  

“Unwaith eto, rwy'n annog pawb i ddilyn y rheolau a bod yn ofalus iawn.
 

Pwysigrwydd ceisio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy

“Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i bawb sy'n byw yn y cymunedau hyn ddilyn cyngor a chanllawiau'r asiantaethau sy'n gyfrifol am reoli'r sefyllfa hon sy'n datblygu.  Rydym yn ymwybodol o wybodaeth anghywir sy'n cylchredeg yn y parth cyhoeddus.  

“Ymddiriedwch ynom, yn ein negeseuon, yn ein cyfathrebu â chi.  Gallai achub bywydau. 

“Defnyddiwch ffynonellau dibynadwy o wybodaeth yn unig gan eich awdurdod lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru eich bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru.
 

Derbyniadau i'r ysbyty yn cynyddu

“Y gwir amdani yw bod derbyniadau i'r ysbyty  yn cynyddu; nid myth yw hwn.   Mae coronafeirws yn real iawn ac yn fygythiad i iechyd pob un ohonom. 

“Os na fydd pob un ohonom yn dilyn y rheoliadau iechyd cyhoeddus, bydd nifer y derbyniadau yn parhau i gynyddu dros yr wythnosau nesaf ac, fel y gwelsom yn Ewrop, mae wedi'i brofi'n wyddonol i ddangos y gall y feirws ledaenu'n gyflym o drosglwyddiadau cymunedol i dderbyniadau i'r ysbyty.”
 

Profi

“Rwy'n cydnabod yn llawn ac yn deall effaith oedi a brofwyd gan rai wrth gael gafael ar brofion. Hoffem eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu capasiti ein hunedau profi symudol yn ogystal â lleihau'r amseroedd gweithredu ar gyfer derbyn canlyniadau profion. 

“Ceir tair uned brofi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a Rhondda Cynon Taf. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y canolfannau profi hyn ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd lleol a'r awdurdod lleol. 

“Hoffwn ddiolch i'n cymunedau am bopeth y maent wedi'i wneud dros yr wythnos ddiwethaf i chwarae eu rhan wrth leihau trosglwyddo'r feirws hwn.  Rydym yn dechrau gweld newid mewn ymddygiad ac rwy'n ddiolchgar i bawb am wneud yr hyn a allant i gadw eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau a'r cymdogion yn ddiogel. 

“Daliwch ati i weithio gyda ni drwy ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, er mwyn i ni allu diogelu pobl hŷn ac agored i niwed rhag Coronafeirws.”

I gael gwybod rhagor am ganolfannau profi, ewch i:  https://llyw.cymru/cyfleusterau-profi-coronafeirws-rhanbarthol?_ga=2.6790907.859290065.1600446780-715066856.1507051773

 

Symptomau

“Rydym yn eich annog i gael prawf dim ond os oes gennych un o'r symptomau hyn:  

“Os ydych chi neu aelod o'ch cartref yn datblygu symptomau peswch, twymyn neu newid o ran blas neu arogl, rhaid i chi drefnu prawf ar gyfer Coronafeirws yn brydlon er mwyn helpu i reoli lledaeniad yr haint.

“Mae gan y cyhoedd rôl hanfodol o ran atal lledaeniad Coronafeirws drwy ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser – sef cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill - golchi dwylo â sebon yn rheolaidd neu drwy ddefnyddio hylif diheintio sy'n seiliedig ar alcohol, a gweithio gartref os gallant a gwisgo gorchudd wyneb yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru.   

“Dylai pobl sy'n profi'n bositif am Covid-19 barhau i hunanynysu am 10 diwrnod.”