Cyhoeddwyd: 13 Mehefin 2023
Mae adolygiad o dystiolaeth ac ymarfer rhyngwladol effaith Prydau Ysgol Gynradd am Ddim i Bawb (UPFSM) wedi dangos amrywiaeth eang o fanteision economaidd-gymdeithasol i unigolion, cymunedau, a datblygu lleol a chenedlaethol.
Edrychodd yr Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Prydau Ysgol Gynradd am Ddim i Bawb, ar brofiadau, polisïau, rhaglenni ac ymchwil o Frasil, Lesotho, y Ffindir a Sweden, gan ddod o hyd i nifer o fanteision diriaethol ac effaith gadarnhaol ar y ffactorau ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant.
Mae UPFSM yn ymyriad lle mae pob plentyn oedran ysgol gynradd yn cael prydau ysgol am ddim heb unrhyw gost i deuluoedd, beth bynnag yw eu statws economaidd-gymdeithasol.
Ar sail unigol, mae'r dystiolaeth yn dangos y gall UPFSM arwain at well twf, datblygiad ac iechyd corfforol plant.
Gwella maeth ac arferion bwyta cyffredinol plant.
Manteision iechyd unigol hirdymor gan gynnwys llai o ordewdra plentyndod ac oedolaeth sy'n gysylltiedig â lleihau clefyd ac anabledd sy'n gysylltiedig â deiet.
Gwell gallu i ddysgu a gostyngiad mewn absenoliaeth.
Hyrwyddo datblygu dysgu a sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.
Gwell cyrhaeddiad addysgol gan arwain at well cynhyrchiant a rhagolygon cyflogaeth yn y tymor hwy.
Canfu'r adolygiad fod manteision eang posibl mewn cymunedau lleol sy'n gysylltiedig â darparu UPFSM a gall helpu i:
Leihau ansicrwydd bwyd aelwydydd drwy leihau pwysau ariannol ar gyllidebau aelwydydd, yn enwedig i aelwydydd ar incwm is.
Lleihau anghydraddoldeb rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig mewn cymdeithas.
Nododd yr adolygiad drwy ychwanegu amodau ymarferol at raglenni UPFSM, fel talu cyflog byw i staff cegin ysgol, sicrhau bod bwyd yn cyrraedd safonau bwyd cenedlaethol, ac adrodd ar nifer y rhai sy'n manteisio ar UPFSM, gall y rhaglenni hyn sicrhau'r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl gan arwain at sawl mantais economaidd-gymdeithasol gan gynnwys:
Effeithiau cadarnhaol ar yr economi genedlaethol a lleol.
Gostyngiad mewn rhwystrau i ymuno â'r gweithlu, gan hyrwyddo twf economaidd.
Gwella cydraddoldeb rhywiol a chyfranogiad menywod yn y gweithlu.
Meddai Dr Mariana Dyakova, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Iechyd Rhyngwladol:
“Mae darparu prydau am ddim mewn ysgolion yn gofyn am gyllid sylweddol a seilwaith, offer a gweithlu priodol i'w gyflawni. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a phrofiad o bob rhan o'r byd yn dangos eu bod yn fuddsoddiad pwysig yn ein cenedlaethau'r dyfodol, gan gael effeithiau cadarnhaol uniongyrchol ac anuniongyrchol.
“Gall hyn helpu i leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, arbed costau i'r sectorau gofal iechyd ac addysg, cyfrannu at gynaliadwyedd hinsawdd drwy hyrwyddo arferion cynhyrchu lleol a gwyrdd, ac annog dinasyddiaeth weithredol, ymddiriedaeth a chyfranogiad y cyhoedd. Gall prydau ysgol am ddim hefyd helpu i amddiffyn plant a'u hiechyd yn ystod adegau o argyfwng.”
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gynnig cyflwyno UPFSM yn raddol o fis Medi 2022; bydd £70 miliwn o gyllid yn cynorthwyo'r cam nesaf wrth ehangu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru. Hyd yma mae bron 5 miliwn o brydau am ddim ychwanegol wedi'u gweini ledled Cymru ers mis Medi 2022. Bydd cam nesaf yr ehangu i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob myfyriwr mewn ysgol gynradd yn dechrau ym mis Medi 2023, gyda'r rhaglen yn ehangu i gynnwys mwyafrif y dysgwyr ym mlynyddoedd tri a phedwar. Yna bydd y rhaglen yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd blynyddoedd pump a chwech.
Comisiynwyd yr Adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o'n hymateb i COVID-19 ond ers hynny maent wedi'u hymestyn i drafod pynciau iechyd cyhoeddus â blaenoriaeth, gan gynnwys gwella a hybu iechyd a diogelu iechyd.
Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Prydau ysgol am ddim i bawb yn rhoi crynodeb lefel uchel o ddysgu o brofiadau bywyd go iawn o wledydd dethol, ac amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol a llwyd. Mae'r gyfres o adroddiadau'n cynnig cipolwg byr o'r dystiolaeth, polisi ac ymarfer presennol, gan rannu enghreifftiau o wledydd perthnasol a chanllawiau ac egwyddorion cyrff rhyngwladol.
Gallwch weld yr adroddiad yma.