Neidio i'r prif gynnwy

O straeon i bolisïau

Cyhoeddwyd: 30 Tachwedd 2022

Sara Elias, Uwch-swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n esbonio pam mae angen i ni weithio'n wahanol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Ar 23 Tachwedd 2022, cynhaliodd ein Prif Weithredwr Dr Tracey Cooper sesiwn Wythnos yr Hinsawdd Cymru 2022.

Gan ymateb i alwad am ffordd newydd o weithio yn adroddiad Anghydraddoldeb yng Nghymru'r Dyfodol, canolbwyntiodd ein sesiwn ar brosiect yr oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (OFGC) wedi comisiynu FLiNT i'w gynnal.

Mae'r prosiect, Cymunedau a Newid Hinsawdd yng Nghymru'r Dyfodol, wedi'i gynllunio i ysbrydoli a chynorthwyo eraill i gynnwys cymunedau na chlywir ganddynt yn aml mewn meddwl hirdymor.   

Crynodeb 

Dangosodd Dr Genevieve Lively a Dr Will Slocomb o FLiNT sut y gwnaethant ddefnyddio dulliau dyfodol creadigol i gynnwys cymunedau a oedd yn aml ar goll o'r drafodaeth gyhoeddus ar newid hinsawdd. Gall meddwl am yr hirdymor fod yn anodd ond roedd eu defnydd o ddulliau adrodd straeon wedi galluogi cyfranogwyr i drafod eu gobeithio'n a'u hofnau yn greadigol, gan gyfnewid meddyliau a barn mewn gofod diogel, strwythuredig. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gwnaethant ei ddysgu, darllenwch yr adroddiad llawn. 

Siaradais am droi straeon yn bolisïau.  Drwy fyfyrio ar yr hyn y mae'r canfyddiadau'n ei olygu ar gyfer y ffordd rydym yn gweithio heddiw, mae'n amlwg bod ymgorffori'r pum ffordd o weithio yn angenrheidiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur; o integreiddio ein gwaith i uno'r dotiau, i gynnwys a chydweithio â chymunedau er mwyn dod o hyd i atebion a rennir a chymryd camau gweithredu cynnar i atal effeithiau negyddol ar iechyd, llesiant a chydraddoldeb.  

Yr hyn a ddysgwyd 

Gan fyfyrio ar yr amrywiaeth o faterion a godwyd, gwnaeth ein tri aelod panel arsylwadau craff. Rhoddodd Sarah Jones o Iechyd Cyhoeddus Cymru drosolwg gwych o sut y gall y ddeddfwriaeth 20mya gynnig manteision ar gyfer teithio mwy diogel, cydlyniant cymunedol ac economïau lleol, gan ein harwain at gylch rhinweddol yn hytrach na chylch dieflig.

Nesaf, siaradodd Patience Bentu o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am y camau gweithredu y gall cyrff yng Nghymru eu cymryd heddiw i greu Cymru sy'n fwy cyfartal yfory, sy'n sail i Gymru iachach, lewyrchus, gydnerth, gydlynus, ddiwylliannol fywiog ac sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Daeth y cyfarfod i ben gyda Kim Mamhende yn ein hatgoffa i barhau i roi sedd i bobl ifanc wrth y bwrdd; “Fy nghenhadaeth i yw i genedlaethau'r dyfodol etifeddu Cymru sy'n decach ac yn fwy llewyrchus”. 

Ac i gloi 

Mae ein prosiect Cymunedau a Newid Hinsawdd yng Nghymru'r dyfodol yn dangos gwerth cynnwys lleisiau na chlywir ganddynt yn aml mewn trafodaethau am newid hinsawdd. Y brwdfrydedd a'r angerdd sydd gan bobl ar gyfer sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ein penderfyniadau heddiw i gynorthwyo Cymru sy'n fwy cyfartal yfory. Mae'r adnoddau o'r prosiect hwn ar gael i'r cyhoedd a gobeithio y bydd hyn yn eich ysbrydoli i siarad â “grwpiau y mae angen eu clywed”, fel y dywedodd un o gyfranogwyr y prosiect.  

Gallwch ddod o hyd i adroddiadau'r prosiect, ynghyd ag adnoddau methodolegol yma.  

Cynnwys y gynhadledd ar alw