Neidio i'r prif gynnwy

Nod prosiect gwerth £600,000 yw defnyddio data gweinyddol i wella bywydau teuluoedd sy'n ffermio

Mae grant sy'n werth bron £600,000 wedi'i gyhoeddi gan Administrative Data Research UK i harneisio data i ddeall yn well nodweddion aelwydydd fferm gyda'r bwriad o wella polisïau yn y dyfodol yn ogystal â gwella llesiant ffermwyr a'u teuluoedd. 

Mae'r Prosiect AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol) yn adeiladu ar yr adroddiad  Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd a gyhoeddwyd gan Adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Medi y llynedd. 

Bydd y buddsoddiad yn creu'r llwyfan data cyntaf ar gyfer y DU gyfan sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth. Drwy gasglu data'r sector cyhoeddus y nodau yw deall yn y well y bobl sy'n gweithio yn y sector hwn yn y DU a'u nodweddion diffiniol.

Y gobaith yw y bydd canfyddiadau'r ymchwil yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol, gan arwain o bosibl at well ymatebion i heriau fel gwella cynhyrchiant, ymateb i bwysau amgylcheddol, sicrhau gwell canlyniadau iechyd, a gwella incwm aelwydydd ffermydd.

Bydd y prosiect AD|ARC yn cysylltu Arolwg Strwythur Fferm 2010 yr UE, Cyfrifiad Amaethyddol Mehefin 2010 ar gyfer data amaethyddol a defnydd tir a Chyfrifiad Poblogaeth 2011 ar gyfer data demograffig-gymdeithasol ar gyfer ffermwyr, aelodau o aelwyd y ffermwr a gweithwyr fferm. Mae'r ffynonellau data presennol hyn yn darparu adnodd gyda lefel uchel o gysondeb ar draws y DU. 

Bydd y prosiect hefyd yn ceisio caffael data am gymorthdaliadau fferm, trosiant ffermydd, iechyd teulu ffermydd a chyrhaeddiad addysgol. Er na fydd y prosiect yn casglu data newydd, y bwriad yw diweddaru ac ymestyn y broses o gasglu data dros amser.

Gan groesawu'r buddsoddiad, dywedodd Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrif Ymchwilydd AD|ARC: “Mae'r prosiect AD|ARC yn gam sylweddol tuag at greu'r ddealltwriaeth sydd ei hangen i ddeall yn well a llywio penderfyniadau sy'n effeithio ar ffermwyr a'r gymuned ffermio ehangach ar draws y DU. 

“Mae teuluoedd sy'n ffermio yn ymdrin ag ansicrwydd bob dydd, ond hyd yn oed yn fwy yng nghyd-destun Brexit, newid yn yr hinsawdd ac afiechyd. Mae'r prosiect hwn ar draws y DU wedi'i lywio gan ein gwaith yng Nghymru ar gydnerthedd ymhlith ffermwyr a'u teuluoedd. 

“Bydd y rhaglen yn cael ei datblygu gyda chyfraniad gan y rhai sy'n ymwneud â'r sector ffermio ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwell gwybodaeth i lywio polisi ac arfer ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u bywoliaeth.”