Neidio i'r prif gynnwy

Merched ysgolion uwchradd yng Nghymru yn adrodd bod eu defnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol ddwywaith cymaint â bechgyn

Cyhoeddwyd: 9 Mai 2025

Mae darganfyddiadau newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dangos bod gan ferched oedran ysgol uwchradd gyfraddau llawer uwch o ddefnydd problemus hunangofnodedig o gyfryngau cymdeithasol na bechgyn. Roedd y gwahaniaethau fwyaf amlwg ym mlynyddoedd naw a deg, gydag un o bob pump o ferched yn nodi eu defnydd problemus eu hunain o'i gymharu ag un o bob deg bachgen.  

Daw'r data hyn o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHW) 2023, un o'r arolygon mwyaf o blant ysgol yng Nghymru. Gofynnodd yr arolwg i bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed a ydynt wedi ceisio cyfyngu ar eu defnydd eu hunain o gyfryngau cymdeithasol ac wedi methu â gwneud hynny, a ydynt ond yn gallu meddwl pryd y byddant yn gallu defnyddio'r safleoedd hyn nesaf, a ydynt wedi esgeuluso gweithgareddau eraill fel chwaraeon a hobïau er mwyn blaenoriaethu cyfryngau cymdeithasol, neu a yw wedi achosi gwrthdaro gyda theulu neu ffrindiau?. Daw'r cwestiynau hyn o offeryn a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef Graddfa Anhwylder Cyfryngau Cymdeithasol (SMDS*). 

Adroddodd 21.0 y cant o ferched ym mlwyddyn deg a 20.5 y cant ym mlwyddyn naw y gyfradd uchaf o ddefnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol, o'i gymharu â 10.1 a 9.8 y cant o fechgyn yn y drefn honno.  Y ffigur cyffredinol ar gyfer Cymru yw 17.9 y cant ar gyfer merched a 9.7 y cant ar gyfer bechgyn. 

Yn ogystal â'r gwahaniaeth rhwng y rhywiau, roedd bwlch hefyd rhwng teuluoedd mewn gwahanol sefyllfaoedd economaidd.  Adroddodd merched o gartrefi cyfoeth isel a chyfoeth canolig (gan ddefnyddio'r Raddfa Cyfoeth Teuluoedd*) sgoriau ar gyfer defnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol ar 20.8 a 19.0 y cant yn y drefn honno, sy'n sylweddol uwch na'r bechgyn yn yr un grwpiau a oedd ar 12.1 a 10.3 y cant yn y drefn honno. 

Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym wedi gweld llawer o drafodaeth am y defnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol gan bobl ifanc yn ystod y misoedd diwethaf. 

“Gall cyfryngau cymdeithasol ddarparu manteision trwy gysylltedd gwell, ond mae nifer pryderus o bobl ifanc yn nodi effeithiau negyddol ar eu perthnasoedd, eu diddordeb mewn hobïau ac anawsterau wrth gyfyngu ar eu hamser yn eu defnyddio.  

“Er ein bod ni wrthi’n gweithio ar ein dealltwriaeth o effaith defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc, byddem yn argymell bod gan bob person ifanc ‘ddeiet cytbwys’ o weithgareddau, sy’n cynnwys gwneud amser ar gyfer hobïau, cymdeithasu gyda ffrindiau, gweithgaredd corfforol a gwaith ysgol, ochr yn ochr â phethau fel cyfryngau cymdeithasol neu gemau ar-lein. 

“Gall diffodd hysbysiadau, osgoi mynd â dyfeisiau i mewn i ystafelloedd gwely a pheidio â’u defnyddio cyn amser gwely helpu i gyfyngu ar yr effeithiau a chefnogi cwsg da sy’n bwysig ar gyfer ein hiechyd meddwl a’n lles.” 

“Dyma’r flwyddyn gyntaf i ganlyniadau arolwg yr SHRN ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gael eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd dadansoddi’r wybodaeth hon yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae gwahanol grwpiau o bobl ifanc yn defnyddio’r platfformau hyn.”  

Cynhelir arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ysgolion uwchradd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cynhelir yr arolwg ysgolion uwchradd bob yn ail flwyddyn. Mae’n gofyn cwestiynau i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 am ystod eang o bynciau yn eu bywydau, fel iechyd meddwl a lles, gweithgarwch corfforol, rhyw a pherthnasoedd, bywyd ysgol, cyfeillgarwch, defnyddio sylweddau a gamblo ac iechyd cyffredinol. Cwblhawyd yr arolwg diweddaraf (2023) gan bron i 130,000 o ddysgwyr mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir gan y wladwriaeth ledled Cymru. Cynhelir arolwg tebyg o blant ysgolion cynradd bob dwy flynedd hefyd. 

 Dywedodd Dr Kelly Morgan, Cyfarwyddwr SHRN:  

“Drwy gynnwys y cwestiynau hyn yn ein harolwg cenedlaethol, rydym yn gallu cael dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac archwilio sut mae profiadau'n amrywio ar draws gwahanol grwpiau. Mae hyn yn caniatáu inni feithrin dealltwriaeth llawer cyfoethocach o sut mae'r mater hwn yn ymwneud ag ymddygiadau iechyd ehangach.” 

Gellir cael mynediad at y dangosfwrdd yma, a rhagor o wybodaeth am  Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yma.