Mae marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda marwolaethau oherwydd gwenwyno gan gyffuriau wedi cynyddu 78 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu y gall marwolaethau oherwydd cyffuriau fod yn digwydd yn gynyddol ymhlith pobl sy'n defnyddio cyffuriau hamdden, gyda chynnydd mewn marwolaethau sy'n ymwneud â chocên, amffetamin ac MDMA gyda'i gilydd yn cyfrif am 14 y cant o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau. Roedd y marwolaethau hyn yn tueddu i ddigwydd ymhlith pobl iau yn eu 20au.
Mewn traean o'r holl farwolaethau oherwydd cyffuriau a adolygwyd, nodwyd ‘dim cysylltiad hysbys’ rhwng yr ymadawedig ac unrhyw wasanaeth iechyd lleol, gofal cymdeithasol neu gyfiawnder troseddol yn y 12 mis cyn y farwolaeth.
Mae’r adroddiad yn argymell camau gweithredu i ddylanwadu ar y dull deddfwriaethol presennol o ran polisi cyffuriau yn y DU, yn ogystal â pholisi amnest meddygol i amddiffyn pobl sy'n ceisio sylw meddygol sy'n ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau.
Mae marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau, sef is-set o farwolaethau oherwydd gwenwyno gan gyffuriau, wedi cynyddu 52 y cant dros y degawd diwethaf a 12 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, i fyny o 185 o farwolaethau yn 2017 i 208 yn 2018 – gyda chyfradd bresennol o 72 o farwolaethau fesul miliwn o'r boblogaeth. Mae gan Gymru yr ail gyfradd uchaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yn rhanbarthau Cymru a Lloegr.
Meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae marchnadoedd cyffuriau wedi newid ac ehangu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, o ran argaeledd, ac amrywiaeth y cyffuriau, a disgwylir i'r duedd hon barhau. Un o effeithiau mwyaf gofidus y newidiadau hyn yw'r cynnydd mewn marwolaethau cyn pryd.
“Ledled Cymru mae ymyriadau effeithiol ar waith i leihau marwolaethau cyn pryd oherwydd cyffuriau gan gynnwys gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol ac, ar gyfer marwolaethau opioid, darparu Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref Fodd bynnag, bydd angen ehangu'r rhaglen Naloxone er mwyn sicrhau mynediad eang i'r ymyriad hwn sy'n achub bywydau. Yn ogystal, mae'n hanfodol bod yr amrywiaeth o bobl sy'n defnyddio cyffuriau yn gallu gwneud defnydd gwell o wasanaethau sy'n gallu eu cynorthwyo, a lleihau eu risg o niwed a marw cyn pryd.
“O ystyried maint y broblem defnyddio cyffuriau yng Nghymru, mae'n debygol y bydd pob aelod o'r boblogaeth yn adnabod rhywun y mae cyffuriau'n effeithio arnynt neu y maent yn wynebu problemau oherwydd cyffuriau, boed hwy'n gyffuriau anghyfreithlon neu ar brescripsiwn, ond efallai nad ydynt yn ymwybodol o hyn. Mae'r dystiolaeth yn glir bod ceisio cymorth yn gynnar yn gallu atal defnydd problemus a dibyniaeth rhag gwaethygu. Fodd bynnag, gall ofn stigma ac allgáu cymdeithasol fod yn rhwystrau i hyn. Mae angen ystyried sut y gellir goresgyn hyn yng Nghymru i atal marwolaethau trasig yn y dyfodol.”
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd opioidau gan gynnwys heroin yn rhan o ychydig dros hanner y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau a gofnodwyd yn 2018. Nodwyd defnyddio amryw o gyffuriau, y defnydd o gyffuriau eraill gan gynnwys bensodiasepinau a chocên, mewn 49 y cant.
Yn ogystal, bu cynnydd o fwy na phedair gwaith yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chocên dros y pum mlynedd diwethaf. Yn 2018, cofnodwyd cocên mewn 31 o farwolaethau, gan gynrychioli 15 y cant o'r holl farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau.
Cronfa Ddata Lleihau Niwed Cymru: Marwolaethau Cysylltiedig â Chyffuriau Adroddiad Blynyddol 2018-19