Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r pandemig wedi amlygu'r angen am strategaethau hirdymor i sicrhau tai saff, diogel i bawb

Cyhoeddwyd: 26 Tachwedd 2021

Mae Asesiad o'r Effaith ar Iechyd newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos bod cael cartref saff, diogel yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd, llesiant a thegwch, a'r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau mai dyma'r realiti i'r rhan fwyaf o bobl. 

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig COVID-19, a mesurau i leihau trosglwyddo'r feirws, wedi cael llawer o effeithiau eang ar boblogaeth Cymru, ac wedi arwain at lawer o bobl yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd tai o ansawdd da, fforddiadwy a diogel.  

“Mae'r angen am ddiogelwch mewn perthynas â chael a chadw cartref a chael eich amgylchynu gan amgylchedd cartref diogel a chyson, ac effaith hyn ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol wedi'i gydnabod ers tro. Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, fel yn ystod pandemig COVID-19, gall cartref roi sylfaen ddiogel a sefydlog i unigolion ac aelwydydd er mwyn eu helpu i fyw a gweithio drwy'r pandemig a'i effeithiau ac adfer ohono yn y pen draw. 

“Mae rhaglenni cymorth lles a thai cenedlaethol wedi'u cyflwyno mewn ymateb i'r pandemig ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau i gefnogi perchnogion cartrefi a thenantiaid ac atal digartrefedd, ond mae'r rhain bellach yn dod i ben. 

“Gall y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn gynorthwyo'r rhai sy'n llunio polisïau ac sy'n gwneud penderfyniadau a'r trydydd sector ehangach wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, er mwyn lleihau anghydraddoldebau posibl ac effeithiau negyddol, a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd a llesiant cadarnhaol.” 

Dyma ganfyddiadau allweddol yr adroddiad: 

  • Mae effeithiau economaidd y pandemig wedi cael effaith negyddol ar y rhai ar incwm isel, menywod a phobl ifanc. Bydd llai o incwm wedi achosi caledi pellach i'r rhai ar incwm isel, a gallai hyn gael ei waethygu drwy eu sefyllfa fyw ansicr. 
  • Mae rhentwyr preifat yn wynebu risg uwch o dai ansicr oherwydd bod tai'n llai fforddiadwy yn ystod argyfwng economaidd. Fodd bynnag, bydd mesurau lliniaru, fel gohirio troi allan a'r cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth a ddarparwyd gan y Llywodraeth ac asiantaethau eraill wedi helpu llawer. 
  • Mae rhai menywod, plant a phobl ifanc wedi wynebu risg uwch o drais a cham-drin neu amlygiad i hyn, drwy dreulio mwy o amser gartref yn ystod y pandemig, ac mae Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi'i waethygu. Mae diffyg llochesi hefyd lle gall y rhai sydd mewn perygl o VAWDASV gael cymorth (yn enwedig cymorth wyneb yn wyneb) a thai diogel. 
  • Mae'r pandemig wedi amlygu effaith gadarnhaol mesurau cymorth COVID-19 tai a lles. Er enghraifft, mae cynlluniau atal digartrefedd wedi darparu llety dros dro. Fodd bynnag, mae rhai'n wynebu risg o fynd yn ddigartref eto pan fydd y mesurau cymorth yn dod i ben. 
  • Bu cynnydd yn nifer y cymdogaethau sy'n dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Fodd bynnag, effeithiwyd yn negyddol ar rai unigolion a grwpiau poblogaeth, fel teimlo'n ynysig neu'n methu cael gafael ar gymorth. 

Meddai Matthew Kennedy o'r Sefydliad Tai Siartredig:  

“Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn dangos yr effaith amlwg a gwrthgyferbyniol y mae amgylchiadau tai pobl wedi'i chael ar eu profiadau yn ystod y pandemig. Mae'n amlwg bod mynediad at gartref diogel, fforddiadwy lle nad oes fawr ddim ansicrwydd am allu rhywun i aros yn y cartref hwnnw dros y tymor hwy wedi bod yn ffactor enfawr o ran helpu pobl i ymdopi ag amodau'r pandemig. I'r rhai heb gartref, efallai fod byw mewn amgylchedd cartrefi peryglus neu y mae eu hamgylchiadau tai eisoes wedi bod yn ansicr - mae'n debygol bod profiad y pandemig wedi gwaethygu problemau ymhellach, gan greu hyd yn oed mwy o anghydraddoldeb.  

“Mae'r gwaith hwn yn atgyfnerthu'r angen i gael gwasanaethau cymorth gydag adnoddau da, hygyrch i fynd i'r afael yn uniongyrchol ag unrhyw gynnydd yn y galw sy'n deillio o'r pandemig. Yn fwy cyffredinol, mae'n codi'r effaith y gallai meddu ar well dealltwriaeth o sut y mae pobl yn teimlo am eu cartref, a'u hamgylchiadau tai parhaus ei chael ar lesiant pobl a'u gallu cyffredinol i fyw ansawdd bywyd dymunol.” 

Mae ‘Does unman yn debyg i gartref? Trafod effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai ac ansicrwydd tai Adroddiad Cryno’ yn trafod effaith iechyd a llesiant Coronafeirws ar dai ac ansicrwydd tai, ac mae'n ystyried pwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac yn teimlo'n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, a gallu cynnal to dros eich pen ac atal digartrefedd yn y pen draw.  Dyma'r trydydd mewn cyfres, sy'n canolbwyntio ar effaith iechyd a thegwch pandemig y Coronafeirws ar boblogaeth Cymru gan gynnwys ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ ac effaith gweithio gartref ac ystwyth. Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â'r rhain a'r adrannau ar dai a gweithio gartref ynddynt.  

Gall y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn a'r asesiadau o'r effaith ar iechyd blaenorol, gynorthwyo'r rhai sy'n llunio polisïau a phenderfyniadau wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, er mwyn lleihau anghydraddoldebau posibl ac effeithiau negyddol, a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd a llesiant cadarnhaol.