Cyhoeddwyd: 7 Mehefin 2023
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru am dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyfleoedd i bobl hŷn fod yn fwy gweithredol yn gymdeithasol i ddiogelu eu hiechyd. Mae ymchwilwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar sut y mae pandemig Covid-19 a heriau parhaus costau byw wedi effeithio ar rwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn. Maent yn tanlinellu'r manteision iechyd mawr y gellir eu creu drwy ddarparu cyfleoedd i bobl hŷn fod yn fwy gweithredol yn gymdeithasol ac ymgysylltu â'u cymunedau.
Mae pandemig COVID-19 wedi tanseilio hyder cymdeithasol llawer o bobl hŷn, yn enwedig y rhai sy'n sâl neu sydd ag anableddau. Gyda chostau byw yn cynyddu pris hanfodion, mae pobl hŷn hefyd yn llai tebygol o allu gwario arian ar y pethau a allai fod wedi gwella eu rhwydweithiau cymdeithasol yn flaenorol, fel teithio, gweithgareddau cymdeithasol neu ymweld â ffrindiau neu deulu. Mae perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol yn ffactor amddiffynnol gwerthfawr wrth gynnal llesiant seicolegol ac iechyd da drwy gydol oes person.
Y cymunedau yng Nghymru a oedd yn y sefyllfa orau i ymateb i heriau'r pandemig oedd y rhai â rhwydweithiau cymdeithasol a oedd yn bodoli eisoes. Roedd y rhain yn aml yn gallu gweithio gyda'r sector cyhoeddus i hwyluso gwirfoddoli. Felly mae “cyfalaf cymdeithasol” o bwys hanfodol i wneuthurwyr polisi a darparwyr gwasanaethau sy'n ceisio gwella iechyd a lleihau anghydraddoldeb iechyd.
Meddai'r Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “Wrth i ni wynebu argyfwng costau byw, ni ddylem anghofio'r gwersi o Covid-19, bod perthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol yn ffactor amddiffynnol hanfodol mewn iechyd. Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, byddai’n wych pe gallai mwy o sefydliadau feddwl am sut y gallwn greu'r cyfleoedd hynny ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol i bobl hŷn. Er enghraifft, defnyddio presgripsiynu cymdeithasol, gwirfoddoli a chyfeillio, yn ogystal â sut y gallwn feithrin y cysylltiadau hynny yn anuniongyrchol drwy eu hystyried ym meysydd trafnidiaeth a chynllunio.”
Gallai lleihau caledi ariannol i bobl hŷn eu galluogi i wario mwy ar weithgareddau cymdeithasol, a gallai gwell trafnidiaeth gyhoeddus wella eu gallu i gael mynediad at eu cymunedau a gwasanaethau lleol.
Meithrin perthnasoedd cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru: heriau a chyfleoedd.