Neidio i'r prif gynnwy

Mae nyrsys a bydwragedd Cymru yn teimlo bod ganddynt yrfaoedd gwerth chweil – ond maent yn wynebu pwysau ariannol a phwysau yn y gweithle

Mae tri chwarter o nyrsys a bydwragedd Cymru a arolygwyd yn teimlo bod ganddynt yrfa werth chweil, ac mae dros ddwy ran o dair yn frwdfrydig am eu swydd – ond roedd llawer yn rhannu'r pwysau yn y gweithle a'r pwysau ariannol maent yn ei wynebu. 

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad newydd heddiw sy'n trafod iechyd a llesiant nyrsys a bydwragedd ledled Cymru cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). 

Gweithiodd yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso'n agos gyda Choleg Brenhinol y Nyrsys a Choleg Brenhinol y Bydwragedd i gynnal arolwg ar-lein. Casglodd safbwyntiau 1,642 o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd ledled Cymru.

Canfu arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru fod:

  • 75 y cant yn teimlo bod eu galwedigaeth yn werth chweil ac roedd 69 y cant yn frwdfrydig am eu swydd. byddai 55 y cant yn argymell gyrfa ym maes nyrsio, bydwreigiaeth neu weithiwr cymorth gofal iechyd i eraill.
  • roedd 80 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan gleifion ac roedd bron 70 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan deuluoedd cleifion – ond dim ond 42 y cant oedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan uwch aelodau o staff.
  • nododd 62 y cant eu bod yn dioddef o straen sy'n gysylltiedig â gwaith. Roedd straen sy'n gysylltiedig â gwaith ar ei uchaf ymhlith menywod a staff iau, a'r rhai ym Mandiau Cyflog 5 a 6 y GIG.  
  • Nododd 14 y cant lesiant meddyliol isel a nododd 37 y cant eu bod yn cael trafferth ymlacio. Roedd llesiant meddyliol yn waeth ymhlith aelodau iau o'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth.
  • roedd 61 y cant wedi mynd i'r gwaith pan oeddent yn teimlo'n sâl ddwywaith neu'n fwy yn y 12 mis diwethaf. 

Meddai Benjamin Gray, Uwch-ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a arweiniodd yr astudiaeth:

“Mae ein hadroddiad newydd yn taflu goleuni ar y materion ehangach sy'n effeithio ar iechyd a llesiant nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

“Rydym yn gwybod bod y gweithle yn chwarae rhan allweddol yn ein hiechyd a'n llesiant. Os gwneir ymdrechion i ateb rhai o'r heriau a amlygir yn ein hadroddiad, mae cyfle i greu amgylchedd gwaith sy'n fwy ffafriol i iechyd a hapusrwydd.”

Wrth sôn am ryddhau'r adroddiad, meddai Rhiannon Beaumont-Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae llesiant staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ganolog i brif strategaeth Llywodraeth Cymru ‘Cymru Iachach’ a chyda 2020 yn flwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig mae hwn yn amser da i helpu i wella iechyd a llesiant y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru.”

“Nodwyd rhai heriau a allai ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad system, ond mae yna hefyd gamau y gall arweinwyr nyrsio a bydwreigiaeth ar bob lefel eu hyrwyddo”

Argymhellodd yr adroddiad 4 maes allweddol ar gyfer gweithredu yn y dyfodol:

  1. Datblygu a chynnal amgylcheddau gwaith cefnogol i wella canlyniadau i staff a chleifion, gan ganolbwyntio ar gefnogi llesiant meddyliol y gweithlu a chryfhau'r gwaith o atal afiechyd.
     
  2. Nodi a gwerthfawrogi'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth.
     
  3. Deall achos sylfaenol pwysau ariannol.
     
  4. Canolbwyntio cymorth ar aelodau iau'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth, a'r rhai sy'n cael eu cyflogi ar Fandiau Cyflog 5 a 6 y GIG.

Cafwyd bod dynion, nyrsys a bydwragedd iau (18-39 oed), a'r rhai ag iechyd gwaeth yn cael eu heffeithio'n benodol gan bwysau ariannol. Gall sicrhau mynediad cynnar i gyngor a chymorth ariannol i'r rhai sy'n cael trafferth ar hyn o bryd liniaru rhywfaint o'r pwysau yn y tymor byr.  

Yn y tymor hwy, mae angen deall yr achosion sylfaenol a chydgynhyrchu atebion cefnogol gyda nyrsys a bydwragedd a'u cyrff proffesiynol – Coleg Brenhinol y Nyrsys a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.

Meddai Nicky Hughes, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio (Cysylltiadau Cyflogaeth) yng Ngholeg Brenhinol y Nyrsys:

“Mae'n galonogol gweld nyrsys yn nodi lefelau uchel o foddhad swydd. Fodd bynnag, mae straen sy'n gysylltiedig â gwaith yn cael effaith sylweddol ar nyrsys a bydwragedd. 

Mae'n hanfodol bod cyflogwyr yn blaenoriaethu iechyd a llesiant eu staff a bod ganddynt wasanaethau i'w cynorthwyo mewn llawer o ffyrdd amlochrog gwahanol”.

Gan groesawu cyhoeddi'r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd Helen Rogers, Cyfarwyddwr Cymru yng Ngholeg Brenhinol y Bydwragedd:

“Mae'n hanfodol bod GIG Cymru yn sicrhau bod iechyd a llesiant staff yn flaenoriaeth. Mae gweithleoedd cefnogol ac agored yn galluogi bydwragedd i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i fenywod a'u babanod. 

Pan fydd staff wedi'u gorweithio ac o dan bwysau dwys, mae eu hiechyd corfforol a meddyliol yn dioddef ac mae hyn yn sicr yn effeithio ar eu gallu i weithio i'w lefel uchaf. 

Rydym hefyd yn gwybod, pan gaiff llesiant staff ei gefnogi, bydd cyfranogiad cyflogai'n cynyddu, ac mae lefelau cymhelliant a pherfformiad yn cynyddu hefyd. 

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn croesawu'r adroddiad hwn ac yn gobeithio y daw'n gatalydd ar gyfer newid.”

Gydag iechyd a llesiant ein staff iechyd a gofal yn un o elfennau craidd ‘Cymru Iachach’, gyda 2020 yn flwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig, a'r her gan COVID-19 y mae ein staff GIG wedi ei hwynebu'n ddewr, mae'n amser da i fuddsoddi yn iechyd y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru. Mae astudiaeth ddilynol iechyd a llesiant wedi'i chynllunio yn ystod y flwyddyn nesaf i drafod effaith COVID-19 ar y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru.