Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwyafrif y bobl yng Nghymru yn cefnogi ailddyrannu ffyrdd lleol i wella cerdded a beicio

Cyhoeddwyd: 31 Mai 2023

Mae arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi ailddyrannu ffyrdd yn eu hardal leol ar gyfer cerdded (75 y cant) a beicio (68 y cant). Mae creu amgylchedd egnïol yn hanfodol i gynorthwyo pobl i fod yn gorfforol egnïol. 

Canfu'r arolwg hefyd awydd am deithio llesol yng Nghymru, gan fod 64 y cant o bobl wedi dweud bod ganddynt ddiddordeb (21 y cant â diddordeb mawr) mewn cynyddu faint o deithio llesol y maent yn ei wneud. Ystyr ‘teithio llesol’ yw defnyddio gweithgareddau fel cerdded neu feicio fel ffordd o deithio i gyrraedd lleoedd fel ysgol, gwaith neu siopau.
 
Gall deall pam y gallai pobl yng Nghymru ddewis neu beidio â dewis teithio llesol helpu i lywio camau gweithredu i gefnogi teithio llesol. Y tri phrif reswm pam y byddai pobl yn dewis teithio llesol yw er mwyn gwella eu hiechyd corfforol (73 canran), gwella eu hiechyd meddwl a llesiant (60 y cant), ac i arbed arian ar gostau tanwydd (40 y cant).  

Gall yr amgylchedd a'r mentrau cywir hefyd helpu pobl i ddewis teithio llesol yn lle eu ceir, a all fod o fudd i'r amgylchedd yn ogystal ag ymddygiad iechyd. 

Nododd 30 y cant o bobl bryder am ddiogelwch ar y ffyrdd fel rheswm pam y gallent ei chael yn anodd defnyddio teithio llesol. Mae cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ledled Cymru yn un o'r ffyrdd diriaethol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau i gefnogi teithio llesol.

Yn ogystal, dywedodd 27 y cant o bobl fod prinder cyfleusterau, fel llwybrau cerdded a beicio, yn un o'r rhesymau pam y gallent ei chael yn anodd teithio'n llesol.  
Pasiodd Cymru ddeddfwriaeth nodedig i hybu teithio llesol (Deddf Teithio Llesol Cymru) yn 2013. Fodd bynnag, nid yw uchelgais y Ddeddf wedi'i wireddu eto ac mae angen rhagor o waith i gyflawni ei nodau. 
Mae enghreifftiau o gynlluniau teithio llesol diweddar ledled Cymru yn cynnwys:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddatblygu llwybr heb draffig rhwng Llandudno a Betws-y-coed.
  • Bydd llwybr Dyffryn Tywi sy'n cysylltu trefi Caerfyrddin a Llandeilo yn rhoi diben newydd i reilffordd nad yw'n cael ei defnyddio i greu llwybr heb draffig. 
  • Mae Cyngor Caerdydd wedi ailddyrannu ffyrdd yn lonydd beicio. 

Meddai Dr Paul Pilkington, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus sy'n arwain ar weithgarwch corfforol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Cerdded yw'r ffordd symlaf o deithio'n llesol, ac er ei fod yn gam cadarnhaol gweld 25 y cant o bobl yn cerdded bob dydd fel ffordd o deithio'n llesol, a 34 y cant arall yn cerdded sawl gwaith yr wythnos, rydym yn gweithio i nodi ffyrdd arloesol o gefnogi'r cyhoedd i'w gwneud yn haws dewis teithio llesol dros eu ceir er mwyn cynyddu'r niferoedd hyn.   

“Mae teithio llesol yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision ar draws cymdeithas. Yn unigol mae'n hybu iechyd corfforol a meddyliol. At ei gilydd, mae'n lleihau'r galw ar ein gwasanaeth iechyd o ran trin sawl salwch y gellir ei atal, ac mae'n cyfrannu at leihau tagfeydd traffig, aer glanach, a llai o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd.”

Gall teithio llesol wneud cyfraniad sylweddol at gyrraedd canllawiau gweithgarwch corfforol pedwar Prif Swyddog Iechyd Meddygol y DU. 

Datgelodd yr arolwg er mai dim ond 20 y cant o bobl yng Nghymru a oedd wedi clywed am ganllawiau'r Prif Swyddogion Meddygol, roedd 32 y cant yn gwybod am yr argymhelliad i wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bob wythnos, gyda 40 y cant â rhyw ddealltwriaeth o hyn. Fodd bynnag, nid oedd 65 y cant wedi clywed am yr argymhelliad i wneud gweithgareddau cryfhau cyhyrau o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.

Meddai Dr Catherine Sharp, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus sy'n arwain y Panel ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Dyma'r data cenedlaethol cyntaf yng Nghymru i ni ddeall lefelau ymwybyddiaeth o ganllawiau gweithgarwch corfforol y Prif Swyddogion Meddygol ers i'r canllawiau wedi'u diweddaru gael eu cyhoeddi yn 2019. Mae gwybod am yr ymwybyddiaeth o'r canllawiau a phob un o'r argymhellion yn bwysig gan y gall lywio'r dulliau cyfathrebu a'r cynnwys ar weithgarwch corfforol ar gyfer y cyhoedd. Mae'r wybodaeth hon yn dangos sut y gall y panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus ddarparu mewnwelediad pwysig ac amserol ar faterion iechyd cyhoeddus i lywio camau gweithredu.” 

Dywedodd Josh James, Rheolwr Materion Cyhoeddus Strydoedd Byw Cymru:
“Dylai’r newyddion bod mwyafrif helaeth o bobl yn cefnogi gwelliannau ar gyfer cerdded, olwynion a seiclo roi’r golau gwyrdd i gyrff ledled Cymru ddechrau adennill mannau i bobl, nid cerbydau.

“Rhaid i ni wella seilwaith fel bod teithio llesol yn dod yn opsiwn hygyrch i bawb. Bydd cyflymderau arafach a llwybrau cerdded gwell yn caniatáu i fwy ohonom fwynhau’r manteision iechyd, lles ac ariannol o gerdded mwy.”

Ymatebodd 1,051 o aelodau panel i'r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2023 a ofynnodd i drigolion Cymru (16 oed a throsodd) am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd, fel gweithgarwch corfforol, teithio llesol, menopos, newid hinsawdd a'r eryr. 

Adroddiad

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r panel, cofrestrwch yma.